BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Wythnos Cyllid Busnes 2022

Trwy gydol yr wythnos 7 i 11 Tachwedd 2022, bydd Banc Busnes Prydain, ynghyd â phartneriaid cymorth busnes o bob rhan o'r DU, yn gweithio gyda'i gilydd i gynnal Wythnos Cyllid Busnes gyntaf 2022.

Dros bum diwrnod o ddigwyddiadau cenedlaethol a rhanbarthol, gweminarau a mwy, byddwn yn helpu busnesau llai i ddysgu popeth am y gwahanol opsiynau cyllid sydd ar gael iddyn nhw i gefnogi eu hanghenion unigol.

Bydd pob diwrnod yn canolbwyntio ar thema allweddol, gan roi cyfle i BBaChau glywed gan arbenigwyr yn eu maes ar ystod amrywiol o bynciau.

Dyma fydd y themâu:  

  • Ariannu'ch busnes newydd – 7 Tachwedd 2022
  • Buddsoddiad angel – 8 Tachwedd 2022
  • Ecwiti ar gyfer twf – 9 Tachwedd 2022
  • Dyled ar gyfer Busnes - 10 Tachwedd 2022
  • Cyllid gwyrdd – 11 Tachwedd 2022

I gael mwy o wybodaeth am y digwyddiadau rhithwir ac wyneb yn wyneb sy'n cael eu cynnal yng Nghymru, cliciwch ar y ddolen ganlynol Business Finance Week 2022 - British Business Bank (british-business-bank.co.uk) 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.