BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Wythnos Gweithredu ar Wastraff Bwyd 2024

Food waste

Cynhelir Wythnos Gweithredu ar Wastraff Bwyd 2024 rhwng 18 Mawrth a 24 Mawrth 2024, a’r thema eleni yw ‘Dewis yr Hyn a Ddefnyddiwch’.

Dan arweiniad Love Food Hate Waste, bydd yr wythnos yn rhoi sylw i fanteision dewis ffrwythau a llysiau rhydd. Mae ymchwil yn dangos y gall dewis cynnyrch rhydd, fel afalau, bananas a thatws, arbed 60,000 tunnell o wastraff bwyd.

Mae Love Food Hate Waste wedi creu pecyn cymorth newydd – new toolkit – a gynlluniwyd i gefnogi’ch cyfathrebiadau am atal gwastraff bwyd.

I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Food Waste Action Week | WRAP.

Yng Nghymru, mae’r rhan fwyaf o wastraff bwyd a gaiff ei ailgylchu yn cael ei droi’n ynni adnewyddadwy sy’n cyflenwi cartrefi a chymunedau Cymru. Pwerus iawn, ynte? A gallwch chi ein helpu i wneud hyn yn gryfach fyth. Darllenwch fwy er mwyn cael awgrymiadau, ffeithiau a straeon pwerus: Troi gwastraff bwyd yn bŵer i Gymru | Cymru yn Ailgylchu | Ble a Sut i Ailgylchu.

Dewch o hyd i ffyrdd i sicrhau bod eich busnes yn masnachu’n gyfrifol ac yn foesegol, a chofrestrwch ar gyfer ein tiwtorial ar-lein i gael cyngor ac arweiniad: BOSS: About Masnachu’n gyfrifol | BOSS (gov.wales) 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.