BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Wythnos Prentisiaethau Cymru 2024

Young apprentice

Mae Wythnos Prentisiaethau Cymru 2024 yn cael ei chynnal rhwng 5 ac 11 Chwefror, digwyddiad wythnos o hyd i godi ymwybyddiaeth ac arddangos pam fod prentisiaethau yn ddewis doeth i unigolion, cyflogwyr, a gweithlu’r dyfodol.

Drwy gydol Wythnos Prentisiaethau Cymru, byddwn yn rhannu diweddariadau am gyfleoedd gwaith sydd ar gael yng Nghymru drwy’r Gwasanaeth Prentisiaethau Gwag.

Os oes gennych chi, eich rhwydwaith, neu unrhyw sefydliad yr ydych yn gweithio ag ef unrhyw gyfleoedd ar y gweill, byddem yn eich annog i’w hychwanegu at y wefan hon cyn Wythnos Prentisiaethau Cymru 2024. Gallwch gofrestru a rheoli eich rhestrau yma.

I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Prentisiaethau | LLYW.CYMRU 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.