BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Wythnos Ryngwladol Ymwybyddiaeth am Straen 2022

Crëwyd Wythnos Ryngwladol Ymwybyddiaeth am Straen yn 2018 i godi ymwybyddiaeth am atal straen, ac fe’i cynhelir rhwng 7 a 11 Tachwedd 2022.

Yr uchafbwynt yw'r Uwchgynhadledd Ar-lein Straen a Lles Byd-eang  y Gymdeithas Ryngwladol Rheoli Straen (ISMAUK), ar Ddiwrnod Rhyngwladol Ymwybyddiaeth am Straen, 9 Tachwedd 2022.

Bydd rhaglen y diwrnod yn cynnwys siaradwyr o'r radd flaenaf, paneli, prif siaradwyr, a sesiynau rhyngweithiol, gan fyfyrio ar y thema 'Gweithio Gyda'n Gilydd i Adeiladu Gwytnwch a Lleihau Straen'.

Bydd aelodau ISMA yn y DU ac yn rhyngwladol yn cymryd rhan mewn sgyrsiau â busnesau ac unigolion yn eu hardaloedd lleol, yn ogystal â chyflwyno gweithdai a chyflwyniadau ar-lein neu all-lein, fel bod modd clywed negeseuon allweddol am godi ymwybyddiaeth a lleihau'r stigma ynghylch straen ac iechyd meddwl yn lleol, yn rhanbarthol ac yn fyd-eang. 

Ydych chi’n cynnal eich digwyddiad eich hun?

Os ydych chi'n cynnal eich digwyddiad eich hun yn ystod Wythnos Ryngwladol Ymwybyddiaeth am Straen, yna beth am elwa ar ddeunydd i'w lawrlwytho am ddim sydd ar gael trwy glicio ar y ddolen ganlynol Online Global Stress & Wellbeing Summithttps://isma.org.uk/isma-free-downloads 

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol  https://isma.org.uk/ 

P'un a ydych chi'n fusnes bach neu'n gorfforaeth fawr, mae'r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i bob cyflogwr atal straen sy'n gysylltiedig â gwaith er mwyn cefnogi iechyd meddwl da yn y gweithle, i  gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Cyflogwyr – Mae gennych ddyletswydd gyfreithiol i ddiogelu gweithwyr rhag straen yn y gwaith | Busnes Cymru (gov.wales)

 


 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.