BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Y Canllawiau Diweddaraf ar y Cyfnod Pontio

Beth sydd angen i weithredwyr cerbydau nwyddau yn y DU ei wneud i gludo nwyddau’n rhyngwladol o 1 Ionawr 2021: Mae Canllawiau wedi’u diweddaru ar gael gyda gwybodaeth am baratoi i wneud cais am drwyddedau ECMT ar gyfer 2021 rhwng 2 Tachwedd a 20 Tachwedd 2020.

Mewnforio ac allforio planhigion a chynhyrchion planhigion o 1 Ionawr 2021: Mae gwybodaeth am wneud hysbysiadau ymlaen llaw ar gyfer pob llwyth a reoleiddir i’r DU ar gael yma

Cydymffurfio â rheoliadau cemegol REACH wrth ddefnyddio, gwerthu neu fewnforio cemegion yn yr UE. Mae canllawiau wedi’u diweddaru ar hawliau taid, terfynau tunelledd a sut gall defnyddwyr i lawr y gadwyn gyflenwi hysbysu’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar gael yma.

Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) wedi diweddaru eu canllawiau ar gyfer rheoliad REACH ar ddiwedd y cyfnod pontio. Gallwch ddarganfod mwy drwy ddefnyddio'r ddolen hon https://www.hse.gov.uk/brexit/reach-guidance.htm  i ymweld â gwefan yr HSE.

Rhestr o asiantau tollau a gweithredwyr parseli cyflym: Mae rhestr wedi’i diweddaru o asiantau tollau a gweithredwyr parseli cyflym a all gynorthwyo wrth gyflwyno datganiadau tollau ar gael yma.

Masnachu a labelu bwyd organig o 1 Ionawr 2021: Mae canllawiau wedi’u diweddaru ar gael sy’n cynnwys gwybodaeth am fewnforio bwyd organig o’r UE i Brydain Fawr o 1 Ionawr 2021.

Safonau marchnata ffrwythau a llysiau ffres o 1 Ionawr 2021: Gwybodaeth wedi'i diweddaru am fewnforio ac allforio ffrwythau a llysiau ffres rhwng y DU a’r UE a gwledydd nad ydynt yn yr UE.

Mewnforio ac allforio gwin o 1 Ionawr 2021: Gwybodaeth wedi'i diweddaru am labelu gwin sy’n cael ei fewnforio o’r UE a gwledydd nad ydynt yn yr UE a manylion wedi’u diweddaru ar fewnforio ac allforio gwin rhwng y DU a’r UE a gwledydd nad ydynt yn yr UE.

Safonau marchnata wedi’u diweddaru ar gyfer wyau deor a chywion, Hopys a chynhyrchion hopys, marchnata wyau, dofednod a chig eidion a chig llo.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.