BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Y Cyfnod Pontio o'r UE: Y Gyfarwyddeb e-fasnach a'r DU

Nid yw'r Gyfarwyddeb e-fasnach yn berthnasol i'r DU mwyach, gan fod y cyfnod pontio bellach ar ben.

Gall rheolau sy'n ymwneud â gweithgareddau ar-lein yng ngwledydd yr Ardal Economaidd Ewropeaidd fod yn berthnasol o'r newydd i ddarparwyr gwasanaethau ar-lein yn y DU sy'n gweithredu yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, gan fod y cyfnod pontio bellach ar ben. Os ydych yn ddarparwr gwasanaethau ar-lein, dylech gymryd camau mewn ymateb i'r newidiadau hyn.

Mae canllawiau, sy'n amlinellu'r hyn sydd wedi newid a pha wiriadau y mae angen i chi eu gwneud, wedi'u cyhoeddi. I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.