BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Y Cynllun Cymhorthdal Incwm i’r Hunangyflogedig

Mae’r Cynllun Cymhorthdal Incwm i’r Hunangyflogedig (SEISS) wedi’i ddiweddaru gyda nifer o newidiadau yn cynnwys y canlynol:

  • mae SEISS wedi cau ar gyfer y grant cyntaf, ond mae’r cynllun yn eich galluogi i hawlio’r ail a’r grant trethadwy olaf. Gallwch gyflwyno hawliad am yr ail grant os ydych yn gymwys, hyd yn oed os na wnaethoch chi gyflwyno hawliad am y grant cyntaf, rhagor o wybodaeth yma
  • cyhoeddwyd canllawiau newydd sy’n berthnasol os ydych chi wedi cael gordaliad, wedi gwneud hawliad mewn camgymeriad ac nad oeddech chi’n gymwys am y grant neu eich bod am wneud ad-daliad gwirfoddol, rhagor o wybodaeth yma
  • mae canllawiau ar sut mae CThEM yn cyfrif elw masnachu ac incwm nad yw’n dod o fasnachu wedi’u diweddaru i gynnwys y ffaith nad yw colledion yn cael eu cynnwys yn eich cyfrifiad nad yw’n dod o fasnachu, rhagor o wybodaeth yma
  • mae canllawiau ar sut mae gwahanol amgylchiadau’n effeithio ar y cynllun wedi’u diweddaru i gynnwys pa dystiolaeth ategol y gallech orfod ei darparu os oedd cael plentyn newydd wedi effeithio ar yr elw masnachu a adroddwyd gennych ar gyfer blwyddyn dreth 2018 i 2019, rhagor o wybodaeth yma

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.