BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Y Daith 2022

Bydd Taith Small Business Saturday UK yn dechrau unwaith eto ym mis Tachwedd 2022!

Gan alw mewn dau ddeg tri o drefi a dinasoedd gwahanol ledled y DU, bydd y Daith deng mlwyddiant arbennig yn nodi dechau cyfri’r dyddiau yn swyddogol i Small Business Saturday ar 3 Rhagfyr 2022.

Bydd y Daith yn dechrau yn Glasgow ddydd Llun, 31 Hydref 2022, gan deithio ledled y DU am bum wythnos, gan alw ym Merthyr Tudful ar 17 Tachwedd 2022 ac yng Nghaerdydd ar 18 Tachwedd 2022, gan amlygu busnesau bach anhygoel Prydain.

Ac i fod mor gynaliadwy â phosibl, o ystyried y rôl hanfodol y mae cwmnïau bach yn ei chwarae yn y ras i sero net, bydd y daith yn defnyddio fflyd o gerbydau trydan a di-allyriadau.

Unwaith eto, bydd 'Y Daith' yn cynnig: 

  • cyfweliadau ffrydio byw gyda pherchnogion busnes ac arweinwyr lleol ar eu sianel Instagram - @smallbizsatuk
  • sesiynau mentora 1-1 am ddim
  • bydd amrywiaeth o arbenigwyr busnes ar gael i gynnig cymorth a chyngor unigol

I gael mwy o wybodaeth, ewch i Small Business Saturday UK | Another year making a Big Difference!
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.