BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Y Diweddaraf gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch

young woman warehouse worker accident leg injury slip and fall ankle sprain friend help support

Dysgwch am yr ymgyrchoedd a’r newyddion diweddaraf gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.

Yn cynnwys:

  • Cadw’n ddiogel yn y gwaith ar drothwy misoedd y gaeaf, pan fydd damweiniau’n debygol o ddigwydd yn amlach oherwydd llithro a baglu. Mae llithro a baglu yn achosi dros draean o’r holl anafiadau difrifol, ac maent hefyd yn gallu arwain at fathau eraill o ddamweiniau, fel cwympo o uchder neu i mewn i beiriannau.  Ar wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, ceir canllawiau ar lithro a baglu – guidance on slips and trips – sy’n darparu digon o wybodaeth ac adnoddau ynghylch sut i osgoi’r damweiniau hyn yn y gweithle ac o’i gwmpas.
  • Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn ymweld â ffermydd fel rhan o ymgyrch arolygu genedlaethol – HSE to visit farms as part of national inspection campaign. Bydd Arolygwyr o’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn ymweld â ffermydd ledled Cymru, Lloegr a’r Alban fel rhan o ymgyrch i newid diwylliant y diwydiant a gwirio cydymffurfedd â gofynion cyfreithiol hirsefydlog.
  • Mae ymgyrch Working Minds yn lansio adnodd dysgu ar-lein newydd am ddim ar gyfer cyflogwyr, i helpu cyflogwyr i atal straen a chefnogi iechyd meddwl da – stress and mental health at work. Datblygwyd offeryn rhyngweithiol am ddim sy’n canolbwyntio ar egwyddorion yr ymgyrch gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch – HSE’s Working Minds campaign. Mae ymgyrch Working Minds yn hyrwyddo egwyddorion asesu risg, gan ganolbwyntio ar y 5 cam canlynol: estyn allan, adnabod, ymateb, myfyrio, dod yn fater o drefn.

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.