BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Y Pethau Pwysig

People on a beach, people using beach wheelchairs

Mae Y Pethau Pwysig yn gronfa gyfalaf i gyflawni gwelliannau i seilwaith twristiaeth ar raddfa fach ledled Cymru.

Mae'r gronfa eleni yn agored i:

  • Awdurdodau Lleol 

  • Awdurdodau Parciau Cenedlaethol 

Diben y gronfa yw sicrhau gwelliannau mewn seilwaith sylfaenol ond hanfodol i ymwelwyr mewn cyrchfannau twristiaeth strategol ledled Cymru i sicrhau bod pob ymwelydd yn cael profiad cadarnhaol a chofiadwy ymhob agwedd ar eu harhosiad.

Ar gyfer y cylch ariannu hwn, rhaid i bob cais ganolbwyntio ar flaenoriaeth (1) isod ynghyd ag o leiaf un o’r 3 flaenoriaeth arall:

  1. Cyrchfannau amgylcheddol gynaliadwy. Datblygu seilwaith newydd neu drawsnewid seilwaith sy'n bodoli eisoes i wneud y gyrchfan yn fwy cynaliadwy, gan helpu i leihau'r ôl troed carbon.
  2. Lleddfu mannau prysur mewn lleoliadau poblogaidd a chefnogi cyrchfannau ymwelwyr o safon uchel 
  3. Twristiaeth Hygyrch a Chynhwysol. Cefnogi prosiectau sy'n dileu rhwystrau ac yn gwella mynediad at gyfleusterau i bawb.
  4. Gwella y cynnig i ymwelwyr drwy gynnig profiadau sy’n rhoi ymdeimlad o le, er enghraifft trwy ddarparu seilwaith ar gyfer digwyddiadau, cynlluniau dehongli, llwybrau cerdded a phrosiectau sy’n rhoi llwyfan i fwyd, treftadaeth, diwylliant a’r Gymraeg.

Lefel y cyllid sydd ar gael

Cronfa gyfalaf yw hon. Nid yw costau refeniw yn cael eu hystyried. Cyfanswm y grant ar gael yw £300,000 gydag uchafswm cyfradd ymyrraeth o 80%. Nid oes isafswm grant.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn Datganiadau o Ddiddordeb: erbyn hanner dydd 22 Tachwedd 2024. 

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Cyllid | Drupal (llyw.cymru)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.