BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ydych chi’n ystyried masnachu dramor?

Diogelu eich nodau masnach, patentau, dyluniadau a hawlfraint dramor.

Mae hawliau Eiddo Deallusol (IP) yn diriogaethol. Dylech ystyried cael diogelwch Eiddo Deallusol os ydych eisiau masnachu dramor neu werthu i gwsmeriaid tramor drwy'r rhyngrwyd. Dechreuwch drwy ddatblygu strategaeth ryngwladol, gan nodi eich marchnadoedd, eich nodau busnes a'ch adnoddau.

Gall diogelu a rheoli Eiddo Deallusol dramor fod yn gymhleth iawn. Er enghraifft, bydd angen i chi benderfynu:

  • i ffeilio cais ar wahân mewn gwledydd unigol 
  • neu wneud defnydd o broses ryngwladol sy'n caniatáu i chi ffeilio mewn sawl gwlad ar unwaith

Gallwch ofyn am help gan atwrnai Eiddo Deallusol neu gynghorydd Eiddo Deallusol proffesiynol arall.

Ble bynnag rydych chi eisiau gwneud busnes, mae'n bwysig eich bod yn deall y camau y dylech eu cymryd i ddiogelu eich Eiddo Deallusol cyn mynd i mewn i'r farchnad.

Mae'n llawer haws neidio dros unrhyw rwystrau cyn sylweddoli y gallai fod yn rhy hwyr i weithredu. Bydd angen i chi wneud rhywfaint o ymchwil hefyd i sicrhau nad ydych yn amharu ar Eiddo Deallusol rhywun arall.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i International IP service - GOV.UK (www.gov.uk)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.