BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ymestyn y Cynllun Ffyrlo

Mae busnesau ar hyd a lled y DU yn cael cymorth ariannol ychwanegol fel rhan o gynllun Llywodraeth y DU ar gyfer cam nesaf ei hymateb i bandemig y coronafeirws.

Bydd y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws - a elwir hefyd yn y cynllun Ffyrlo - yn parhau ar agor tan fis Mawrth 2021, a bydd gweithwyr cyflogedig yn derbyn 80% o’u cyflog cyfredol am yr oriau nad ydynt yn gweithio, hyd at uchafswm o £2,500.

Dan y cynllun estynedig, bydd y gost i gyflogwyr o gadw gweithwyr yn cael ei leihau o gymharu â’r cynllun blaenorol, a ddaeth i ben ar 31 Hydref 2020.

Bydd canllawiau ychwanegol yn cael eu cyflwyno maes o law.

Am ragor o wybodaeth, a fyddech cystal ag ymweld â gwefan GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.