BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ymunwch â'r Chwyldro Data Clyfar: Gallai eich busnes chi elwa

Join the Smart Data Revolution: Your Business Could Benefit

Mae’r Deyrnas Unedig yn paratoi ar gyfer trawsnewid digidol gyda chyflwyniad Data Clyfar, a fydd yn rhoi hwb aruthrol o £27.8 biliwn i’r economi. Mae Data Clyfar, math o drosglwyddadwyedd data, yn achosi cynnwrf yn fyd-eang a chyn bo hir bydd yn cael ei ymgorffori yng nghyfraith y DU drwy’r Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol.

Mae Ctrl-Shift, cwmni ymgynghori adnabyddus sy'n arbenigo mewn cludadwyedd data, yn cynnal dadansoddiad o'r farchnad i ganfod manteision Data Clyfar i fusnesau. Maen nhw’n archwilio pa mor gyflym y gall Data Clyfar gynhyrchu gwerth, pa sgiliau sydd eu hangen i fanteisio arno, y costau cysylltiedig, a'r rôl y dylai llywodraethau ei chwarae.

Os yw eich busnes yn gweithredu yn y DU, mae eich cyfraniad yn amhrisiadwy. Mae cymryd rhan yn yr arolwg yn hawdd ar ffôn symudol https://bit.ly/49F2rzb a bydd yn caniatáu i chi weld yr adroddiad llawn ar ôl iddo gael ei gyhoeddi. Trwy ymuno, byddwch yn cyfrannu at ddeall potensial Data Clyfar ac yn cael gwybodaeth er mwyn bod ar flaen y gad yn y dirwedd ddigidol wrth iddi ddatblygu.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.