BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Yn Galw Pob Entrepreneur Benywaidd!

mature business owner

Mae Small Business Britain, Square a Clearpay yn gweithio gyda’i gilydd yn 2024 i ddeall y cyfleoedd a’r heriau i entrepreneuriaid benywaidd yn y DU.

Maen nhw’n dymuno clywed gan entrepreneuriaid benywaidd i ddeall eu profiad o redeg eu busnes eu hunain a’r manteision a’r anfanteision sy’n gysylltiedig â hynny.

Bydd yr wybodaeth yn cael ei rhannu mewn adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Mehefin 2024.

Dewiswch y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth ac i gwblhau’r arolwg: Small Business Britain: Female Entrepreneurship Survey 2024 (surveymonkey.com)

Cefnogi Merched yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru'n cydnabod ac yn cefnogi pwysigrwydd a chyfraniad entrepreneuriaid sy'n fenywod at economi Cymru: Cefnogi Merched yng Nghymru | Busnes Cymru (gov.wales) 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.