BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch – diweddariadau i gyflogwyr

female engineer checking work on a building site

Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) yw rheolydd cenedlaethol Prydain ar gyfer iechyd a diogelwch yn y gweithle. Cymerwch olwg ar y diweddariadau diweddaraf.

Gwnewch yn siŵr bod y cyfleusterau cywir ar gael yn eich gweithle

Rhaid i gyflogwyr ddarparu cyfleusterau lles ac amgylchedd gwaith iach a diogel i bawb yn y gweithle, gan gynnwys y rhai ag anableddau. Dewiswch y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Have the right workplace facilities - Overview - HSE

Diogelwch cerbydau a thrafnidiaeth yn y gwaith

Helpwch i atal damweiniau drwy asesu a rheoli diogelwch cerbydau a gyrwyr – ble bynnag yr ydych yn gweithio. Mae cerbydau yn y gwaith yn parhau i fod yn un o brif achosion anafiadau mawr ac angheuol. Dewiswch y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Workplace transport - HSE

Codi a chario: canllaw ar y gyfraith

Fel cyflogwr, rhaid i chi ddiogelu eich gweithwyr rhag anafiadau codi a chario yn y gweithle. Dewiswch y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Manual handling at work - Musculoskeletal disorders - HSE

Wythnos Dim Syrthio 13 – 17 Mai 2024

Mae’n parhau i fod yn wir mai syrthio o uchder yw achos mwyaf cyffredin damweiniau angheuol ymysg gweithwyr adeiladu. Mae Sefydliad No Falls yn lansio ei Wythnos Dim Syrthio gyntaf erioed, sef ymgyrch bwrpasol i hyrwyddo gweithio ar uchder yn ddiogel. Ewch i wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch am arweiniad pellach a rhagor o wybodaeth am weithio ar uchder


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.