Cronfa Cymorth Llifogydd i Fusnesau
Mae Llywodraeth Cymru wedi mynd ati'n ffurfiol i lansio Cronfa Cymorth Llifogydd, sydd ar gael i BBaChau yng Nghymru (gan gynnwys unig fasnachwyr a microfusnesau) i'w helpu i adfer eu busnesau yn dilyn difrod ac aflonyddwch stormydd Bella a Christoph.
Gall busnesau sy'n ceisio dod dros effeithiau dinistriol y llifogydd wneud cais am grant o £2,500 i'w helpu gyda chostau uniongyrchol cyn gynted â phosibl.
Gall busnesau sy’n bodloni’r meini prawf canlynol wneud cais am y grant:
- Rhaid i'r busnes fod yn BBaCh sydd wedi'i leoli yng Nghymru (gan gynnwys unig fasnachwyr a microfusnesau)
- Mae angen i'r busnes ddangos ei fod wedi cael ei effeithio'n uniongyrchol gan storm Bella a/neu storm Christoph, h.y. difrod llifogydd i'r eiddo, cyfarpar a/neu stoc, gan amharu'n ddifrifol ar y busnes
- Mae modd defnyddio'r cyllid i dalu costau na ellir eu hadennill o yswiriant yn unig
- Un cais i bob busnes
- Bydd angen i fusnesau ddarparu:
- manylion y costau bras i'w busnes
- tystiolaeth o gyfeiriad y busnes (o fewn y 3 mis diwethaf)
- tystiolaeth ffotograffig o'r difrod.
Wrth ddarparu manylion yn y ffurflen gais, nodwch na fyddwn yn ystyried tâl yswiriant dros ben fel ffactor sy'n cyfrannu at ddangos aflonyddwch sylweddol.
I gael rhagor o wybodaeth am y gronfa, lawrlwythwch y nodiadau canllaw a'r ffurflen gais berthnasol isod. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ac os hoffech siarad ag aelod o'n tîm, ffoniwch 03000 6 03000.
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais i'r Gronfa Cymorth Llifogydd i Fusnesau yw 31 Mawrth 2021, tra bydd y cyllid yn para.