I fusnesau'r DU, gall gwir gost gwastraff fod hyd at 4% o drosiad busnes.
Fodd bynnag, mae cynlluniau effeithlonrwydd adnoddau wedi dangos bod gweithredu mesurau lleihau defnyddiau fel rhan o raglen effeithlonrwydd adnoddau ehangach, yn gallu gostwng y ffigur hwn yn sylweddol.
Mae busnesau’n cynhyrchu gwastraff ar bob lefel o’u gweithgarwch ond yn aml bernir mai dim ond ar adeg gwaredu y mae angen gweithredu; fodd bynnag, gwybod sut a ble mae gwastraff yn cael ei gynhyrchu ym mhob rhan o’ch busnes yw’r cam cyntaf at ddeall sut y gellir osgoi gwastraff, ei leihau a’i waredu yn y diwedd yn y ffordd fwyaf cynaliadwy ac effeithlon sy’n bosibl.
Bydd yr arweiniad, y taflenni ffeithiau a’r astudiaethau achos a geir yma yn eich helpu i ganfod a mapio’r gwastraff a gynhyrchir yn eich busnes ac i weld beth yw’r gwir gost. Bydd lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu cymaint â phosibl yn arwain at arbed costau i’ch busnes ac yn lleihau eich effaith ar yr amgylchedd.
Arweiniad
- Lleihau gwastraff ac arbed arian
- Gweithio â’ch contractwr gwastraff
- Sefydlu cynllun ailgylchu yn y gweithle
Taflenni ffeithiau
Cliciwch yma i weld yr holl astudiaethau achos.