BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Sefydlu cynllun ailgylchu yn y gweithle

Ar y cyfan, gellir osgoi, ailddefnyddio neu ailgylchu o leiaf 50% - 70% o’r gwastraff swyddfa
y ceir gwared ohono fel gwastraff cyffredinol yn eich biniau ond mae cyflwyno cynllun ailgylchu yn eich gweithle’n haws nag y byddech yn ei feddwl! 

Mewn swyddfa, papur argraffu, a gwastraff cyfrinachol yw’r mathau mwyaf cyffredin o
wastraff a gynhyrchir gan fusnes, ond efallai bod gennych hefyd hen offer TG sydd wedi dyddio, cardfwrdd a dodrefn swyddfa, gwastraff swmpus a all fod yn fwy anodd ei storio
ac i gael gwared arno. Fodd bynnag, gall cynllunio gofalus wrth feddwl am wastraff arbed o
leiaf 1% o’u trosiant i fusnesau a hynny heb ddim neu fawr ddim cost.

Sefydlu cynllun ailgylchu 

Mae llawer o sefydliadau sydd wedi mabwysiadu mesurau i wneud defnydd mwy effeithlon o adnoddau wedi elwa hefyd ar gymhelliad uwch ymhlith eu cyflogeion ac ar well amgylchedd gweithio. 

Mae dod o hyd i ddarparwr gwasanaeth lleol yn hanfodol. Dylai chwilio ar-lein trwy gyfeiriaduron lleol a darparwyr gwasanaeth eich helpu i ddod o hyd i wasanaeth casglu deunydd i’w ailgylchu sy’n briodol ar gyfer eich anghenion chi, neu efallai bod eich Awdurdod Lleol yn darparu gwasanaeth gwastraff masnachol. Gwnewch yn siŵr bod y cwmni casglu’n cynnig y gwasanaethau sydd eu hangen arnoch, efallai y bydd yn rhaid i chi ddefnyddio mwy nag un i sicrhau bod eich holl wastraff yn cael ei ailgylchu ac efallai y cewch ad-daliad gan rai cwmnïau am eitemau fel cerdyn neu bapur.

Cofiwch fod ‘dyletswydd gofal’ gyfreithiol arnoch i sicrhau bod eich yn cael gwared ar eich gwastraff a’ch deunydd ailgylchu mewn ffordd gyfrifol felly gwnewch yn siŵr bod gan y darparwr gwasanaeth a ddefnyddir gennych y trwyddedau perthnasol a’u bod yn rhoi nodiadau trosglwyddo neu gludo i chi a’ch bod yn eu cadw.

Yn y gweithle

Labelwch eich biniau ailgylchu’n eglur i ddangos beth sy’n cael ei roi ymhle. Dylech wirio cynnwys eich biniau ailgylchu’n rheolaidd i sicrhau nad yw’r deunydd i’w ailgylchu’n cael ei halogi. Gwnewch yn siŵr bod pawb yn deall beth yn union yw manteision cost ailgylchu’n gywir. Mae didoli deunyddiau er mwyn eu hailgylchu neu eu hadennill yn hytrach na’u gwaredu yn gallu arwain at lai o gostau a chanlyniadau positif i’r economi yn ogystal ag amgylchedd y gweithle.

I weithredu systemau didoli effeithiol bydd angen:

  • creu gorsafoedd ailgylchu gyda’r holl gynwysyddion mewn un lle
  • defnyddio biniau lliw i sicrhau cysondeb trwy’r busnes cyfan ac i osgoi dryswch ynglŷn â pha eitemau sy’n mynd i ba fin
  • gwnewch yn siŵr bod deunydd pacio’n cael ei wasgu’n fflat fel na fydd cynwysyddion yn cael eu llenwi ag aer neu ofod gwag

Ailgylchu Cymru yw’r ymgyrch genedlaethol dros ailgylchu yng Nghymru. Mae’r ymgyrch, sy’n cael ei chefnogi a’i hariannu gan Lywodraeth Cymru, ac sy’n cael ei mabwysiadu’n lleol gan awdurdodau lleol a phartneriaid eraill, yn ymdrech i annog defnyddwyr i ailgylchu mwy o bethau’n fwy aml o bob rhan o’r cartref. Gall Cymru ar hyn o bryd ymfalchïo yn y cyfraddau ailgylchu uchaf yn y DU ac rydym am weld hynny’n parhau i dyfu trwy raglen ymgyrchu barhaus i ymgysylltu, ysbrydoli a hysbysu.

Hyrwyddo eich cynllun ailgylchu 

Cyn gynted ag y bydd eich cynllun ailgylchu’n weithredol, rhowch wybod i gyflogeion ac ymwelwyr beth ellir ei ailgylchu trwy lansio ymgyrch codi ymwybyddiaeth. Mae ymchwil WRAP yn dangos bod pobl yn ymateb yn well i unedau ailgylchu sydd wedi’u labelu’n eglur a negeseuon ategol. 

Bydd perswadio’r gweithle i gymryd cyfrifoldeb am wella eu rôl eu hunain yn allweddol i lwyddiant unrhyw ymgyrch ailgylchu. I gyflawni’r canlyniad i gynyddu cyfraddau ailgylchu ac i arallgyfeirio gwastraff, bydd angen annog staff i fod yn ailgylchwyr brwd. Gallech ystyried cynllun cymell neu benodi ’hyrwyddwyr’ amgylcheddol i helpu staff i wneud y peth iawn.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.