Ardaloedd Menter Cymru

Pan fyddwch yn dewis dod â’ch busnes i un o'r wyth Ardal Fenter yng Nghymru, gallwch ddibynnu ar yr amodau gorau posibl i'ch busnes ffynnu – gan gynnwys cymorth oddi wrth lywodraeth sydd o blaid busnes, y sgiliau y mae eu hangen arnoch i dyfu, seilwaith rhithwir a seilwaith go iawn o'r radd flaenaf, ac amrywiaeth eang o gyfleoedd o ran eiddo a datblygu, yn ogystal â gorbenion cystadleuol iawn.

P'un a ydych am ddechrau menter newydd neu'n awyddus i dyfu, fe welwch eu bod yn cynnig manteision hynod ddeniadol i fusnesau, gan gynnwys:

  • Amgylchedd busnes sy'n hyrwyddo twf economaidd a rhannu gwybodaeth
  • Gweithlu medrus a theyrngar, ac amrywiaeth o gyfleoedd hyfforddi
  • Cysylltiadau â sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach a Chanolfannau Ymchwil a Datblygu sy'n canolbwyntio ar waith masnachol
  • Gofod pwrpasol a chostau eiddo cystadleuol, sy’n cael eu hategu gan benderfyniadau cynllunio cyflym
  • Cryfderau unigryw sy’n seiliedig ar asedau naturiol Cymru
  • Seilwaith sefydledig sy'n rhoi mynediad i farchnadoedd, yn ogystal â chadwyni cyflenwi sydd wedi ennill eu plwyf a rhai sy’n cael eu datblygu
  • Partneriaeth gref rhwng Llywodraeth Cymru, yr awdurdodau lleol a rhanddeiliaid allweddol eraill
  • Cartref i nifer o enwau sydd wedi hen ennill eu plwyf megis Aston Martin, Deloitte, Magnox, Teves Ymerodrol, Tata, Valero, Airbus, Minesto a’r BBC

Ein Hardaloedd Menter

Ardal Fenter Ynys Môn

Canolfan ar gyfer cynhyrchu ynni carbon isel, lle mae cewri’r byd ym maes ynni adnewyddadwy yn creu cyfleoedd i fusnesau drwy brosiectau ynni carbon isel o bwys.

Maes Awyr Caerdydd ac Ardal Fenter Bro Tathan

Lleoliad blaenllaw ym maes awyrofod ac amddiffyn yn y DU ers 50 mlynedd. Tri safle gwahanol, gyda maes awyr rhyngwladol ar y safle, i gyd ar garreg drws Caerdydd, ein prifddinas.

Ardal Fenter Canol Caerdydd

Ardal fusnes 56.7 o hectarau (140 o erwau) yng nghanol prifddinas Cymru, Caerdydd − y brifddinas agosaf i Lundain ond sydd â gorbenion is o lawer.   

Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy

Ardal 2,000 o hectarau (4942 o erwau) sydd â’r crynhoad uchaf o swyddi gweithgynhyrchu yn y DU ac sy’n gartref i weithgynhyrchu uwch medrus iawn, gan gynnwys y Ganolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch − AMRC Cymru.

Ardal Fenter Glynebwy

Ardal â threftadaeth ryngwladol a chynhenid gyfoethog ym maes gweithgynhyrchu. Mae yma weithlu medrus, arbenigedd academaidd ar garreg y drws, a mynediad hawdd i farchnadoedd allweddol a chadwyni cyflenwi yng Nghymru a Chanolbarth Lloegr.

Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau

Unig Ardal Fenter y DU sy’n rhan o Barc Cenedlaethol arfordirol ac un sydd â chadwyn cyflenwi ynni fedrus. Mae’r Ardal yn ymyl y Môr Celtaidd. ac mae hynny, a’r ffaith bod porthladd ynni prysuraf y DU yn yr ardal, yn cynnig mwy a mwy o gyfleoedd ym maes datblygiadau ynni gwynt ar y môr a hydrogen.

Ardal Fenter Glannau Port Talbot

Mae treftadaeth weithgynhyrchu sydd wedi hen ennill ei phlwyf, lleoliad â chysylltiadau da, a'i phorthladd dŵr dwfn ei hun yn golygu bod yr ardal hon yn un o'r cyrchfannau busnes mwyaf hygyrch ac unigryw yng Nghymru.

Ardal Fenter Eryri

Dau safle unigryw yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri. Mae asedau naturiol a threftadaeth ddiwydiannol a milwrol yr Ardal yn cyfuno i gynnig amgylchedd delfrydol a diogel ar gyfer busnesau sy’n gweithio ym maes ynni carbon isel, TGCh, radioisotop meddygol neu’r maes awyrofod.

Pam dylech chi ddewis Ardal Fenter?

Beth bynnag sydd ei angen ar eich busnes, mae lleoli mewn Ardal Fenter yn sicrhau eich bod yn cael y cymorth gorau posibl mewn lleoliad sy'n berffaith ar gyfer twf.

Gall y cymorth hwnnw gynnwys cymorth busnes, sgiliau arbenigol neu ddigonedd o weithwyr medrus; mynediad hawdd i farchnadoedd; bod yn yr un lleoliad â chadwyn gyflenwi a chwsmeriaid eich sector; gofod pwrpasol; neu gyfuniad o'r rhain i gyd.

Bydd tîm Cymorth Busnes Llywodraeth Cymru yn gwrando ar eich gofynion ac yn archwilio cyfleoedd i ddatblygu pecyn cymorth wedi'i deilwra ar eich cyfer, gan edrych ar yr holl faterion y mae angen eu hystyried, er mwyn hwyluso’r broses o symud eich busnes.

Yr Amgylchedd Busnes

Mae Cymru ar agor ar gyfer busnes. Yn ogystal â pherthynas gref rhwng busnesau, academyddion a'n Llywodraeth ddatganoledig, sy'n hoelio cryn sylw ar fusnes, mae Ardaloedd Menter Cymru hefyd yn cynnig sgiliau amrywiol gan weithlu teyrngar, costau cystadleuol o ran eiddo, cadwyni cyflenwi sydd wedi ennill eu plwyf a lle gwych i chi a'ch gweithlu fyw a gweithio ynddo.

A phan fyddwch yn ymuno â ni mewn Ardal Fenter, byddwch mewn cwmni da. Mae Cymru yn lleoliad a ddewiswyd gan nifer o gwmnïau rhyngwladol fel Aston Martin, Deloitte, Magnox, Continental Teves, Tata, Valero, Airbus, Minesto a’r BBC.

Cymorth Busnes

P'un a ydych yn fusnes mawr sydd wedi ennill ei blwyf neu'n fusnes bach sy’n dechrau arni, bydd tîm Cymorth Busnes Llywodraeth Cymru yn gwrando ar eich gofynion ac yn archwilio cyfleoedd i ddatblygu pecyn cymorth wedi'i deilwra, gan edrych ar yr holl faterion y mae angen eu hystyried. 

Seilwaith sy'n Barod ar gyfer Busnesau

Mae gan bob un o'r wyth Ardal Fenter yng Nghymru gysylltiadau hawdd â rhannau eraill o'r DU, Iwerddon, tir mawr Ewrop a thu hwnt.

Mae gwahanol fathau o eiddo ar gael ym mhob un o’r Ardaloedd: gan amrywio o ofod swyddfa Gradd A i ardaloedd datblygu mawr, o unedau hybu ymchwil a datblygu i ffatrïoedd neu awyrendai y gallwch symud i mewn iddynt neu eu hadnewyddu. Ac mae caniatâd cynllunio wedi’i roi eisoes ar rai o’r safleoedd.

Lle gwych i fyw ynddo

Yn ogystal â chynnig rhai o'r amgylcheddau gorau i gynnal busnes, mae’n Hardaloedd Menter hefyd yn cynnig ffordd wych o fyw i chi a'ch gweithlu teyrngar pan fyddwch yn gadael y gwaith am y dydd.

Mae yma dirweddau mynyddig, arfordirol a gwledig di-guro, dinasoedd gwych a thri Pharc Cenedlaethol, i gyd mewn gwlad 256km (159 milltir) o hyd a 96km (59 milltir) o led − mae'r awyr agored ar garreg pob drws.

Mae hwn yn ffactor pwysig o ran lefelau cadw staff, sy’n uwch yma na chyfartaledd y DU – mae hynny’n golygu nad dim ond ffordd wych o fyw y mae Ardaloedd Menter Cymru yn ei chynnig, ond gweithlu teyrngar hefyd.