Ardal Fenter Bro Tathan a Maes Awyr Caerdydd
Mae Maes Awyr Caerdydd ac Ardal Fenter Bro Tathan yn lleoliad awyrofod blaenllaw yn y DU, gyda thri safle gwahanol, digonedd o sgiliau technegol a maes awyr rhyngwladol ar y safle, i gyd o fewn cyrraedd rhwydd i ganol Caerdydd, prifddinas agosaf Llundain.
- Maes awyr rhyngwladol ar y safle a chysylltiadau rhagorol â gweddill y DU, tir mawr Ewrop a thu hwnt ar ffyrdd, rheilffyrdd ac awyr
- Sectorau allweddol: awyrofod, amddiffyn, modurol, gweithgynhyrchu, peirianneg
- Cadwyn gyflenwi helaeth yn lleol ac yn rhanbarthol
- Lleoedd parod a chyfleoedd i ddatblygu cyfleusterau pwrpasol
- Treftadaeth awyrofod sefydledig
- Gweithrediad 24-awr
Mae treftadaeth awyrofod ac amddiffyn 50+ mlynedd yr ardal yn rhoi i’r Ardal Fenter hon y cyfleusterau, y sgiliau, y profiad a’r gadwyn gyflenwi leol sy’n creu lleoliad gwirioneddol arloesol yn niwydiant awyrofod y DU.
Mae Maes Awyr Caerdydd yn gyfan gwbl o fewn yr Ardal ac mae’n gwasanaethu teithwyr a chludiant nwyddau ar draws y byd. Gall ei redfa 2,392m (7847 troedfedd) ddarparu ar gyfer unrhyw awyren, gan gynnwys yr A380.
Mae dros 16 o gyrchfannau di-stop - gan gynnwys tri maes awyr hwb Ewropeaidd - yn gwneud y safle'n ddelfrydol nid yn unig ar gyfer gweithrediadau Cynnal a Chadw, Trwsio ac Adfer (MRO), busnesau storio ac achub a gweithrediadau cargo ond ar gyfer unrhyw fusnes sydd â dimensiwn rhyngwladol sylweddol.
Ynghyd â thir datblygu cyfagos, mae’r safle’n cynnig cyfle pellach ar gyfer buddsoddiad sy’n gysylltiedig ag awyrofod, ac mae Maes Awyr Caerdydd wedi ymrwymo i barhau i gynyddu nifer y teithwyr ac ehangu llwybrau.
Mae Parc Busnes Bro Tathan yn barc busnes sy’n darparu tua 1.6 miliwn troedfedd sgwâr o ofod llawr cyflogaeth a chartref i ddefnyddwyr o bwys sy’n cynnwys Aston Martin Lagonda, eCube Solutions a Bristow Helicopters.
Mae Bro Tathan yn dechrau ar gam nesaf ei ddatblygiad cyffrous i greu cyrchfan arloesol i fusnesau, gan gynnig amrywiaeth o gyfleoedd datblygu a galwedigaethol.
Wedi’i leoli dros safle o tua 1,200 erw ynghyd â’i redfa gwbl weithredol ei hun, mae Bro Tathan wedi’i leoli’n strategol o ran Maes Awyr Caerdydd ac Ardal Fenter Bro Tathan, 5 milltir o Faes Awyr Caerdydd ac o fewn cyrraedd rhwydd i draffordd yr M4 a dinasoedd mawr y DU.
Ym Mharth Datblygu Gateway, wrth ymyl y maes awyr, mae 77.4 hectar o dir datblygu, sydd wedi’u dyrannu’n dir cyflogaeth strategol. Mae cynlluniau cynnar i ddatblygu’r tir ar gyfer swyddfeydd o ansawdd uchel yn ogystal â chyfleusterau addysg, hyfforddiant a hamdden.