""

Ardal Fenter Canol Caerdydd

Mae Ardal Fenter Canol Caerdydd yn ardal fusnes 140 erw (56.7 hectar) yng nghanol y brifddinas agosaf i Lundain, gyda gorbenion llawer is.

  • Y brifddinas agosaf i Lundain, ond gyda chostau cyflogau a rhent swyddfeydd Graddfa A sy’n is o lawer
  • Band eang cyflym, cost isel drwy’r gyfnewidfa rhyngrwyd sy’n tyfu gyflymaf yn y DU
  • Sylfaen boblogaeth fawr o fewn pellter cymudo
  • Canolfan trafnidiaeth gyhoeddus integredig yng nghanol yr Ardal
  • Llywodraeth gefnogol, ddatganoledig ac awdurdod lleol rhagweithiol
  • Ymleolwch ochr yn ochr â busnesau sy’n flaenllaw yn y DU ac yn rhyngwladol fel Legal and General, SKY, RBS, Deloitte, a’r BBC
  • Seilwaith cyfleustodau cydnerth
  • Canolfannau data lleol a diogel, gan gynnwys Canolfan Data Haen 3
  • Tair prifysgol; tair ysgol fusnes, tair ysgol y gyfraith
  • Sectorau allweddol: Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol, TGCh, Diwydiannau Creadigol

Mae dynodiad Ardal Fenter Canol Caerdydd yn brawf o’n huchelgais i sefydlu Caerdydd fel prif leoliad busnes y DU ar ôl Llundain.

Mae’n uchelgais sylweddol ac rydyn ni’n deall ein rôl o ran ei gwireddu, drwy fuddsoddi mewn datblygu seilwaith ac eiddo a chydlynu hynny.

Mae bod yn feiddgar wedi talu ar ei ganfed i Gaerdydd. Mae’n ddinas flaengar sydd wedi profi gweddnewidiad ffisegol trawiadol a thwf economaidd eithriadol dros y blynyddoedd diwethaf:

  • Mae wedi dod yn gartref i leoliadau o safon fyd-eang fel Stadiwm Principality a Chanolfan Mileniwm Cymru, gan ei chadarnhau fel un o hoff gyrchfannau dinas twristiaid
  • Mae’n cynnig amrywiaeth eang o ofod busnes o ansawdd uchel i ddiwallu anghenion busnesau modern am gostau galwedigaethol cystadleuol iawn
  • Mae’n cynnig cyfle i fewnfuddsoddwyr ymleoli ochr yn ochr â busnesau a sefydliadau sy’n flaenllaw yn y DU ac yn rhyngwladol, gan gynnwys Legal and General, SKY, RBS, Deloitte, a’r BBC
  • Mae’n darparu cyfleoedd ar gyfer buddsoddiad a datblygiad defnydd cymysg newydd i gynyddu ymhellach yr ymdeimlad o le, bywyd ac egni sy’n bodoli yn yr Ardal yn barod
Yr ardaloedd a’r safleoedd yn Ardal Fenter Canol Caerdydd
  • Sgwâr Callaghan/Canal Parade
  • Capital Quarter
  • Gorsaf Caerdydd Canolog
  • Sgwâr Canolog
  • Cyfnewidfa Caerdydd
  • Cei Canolog
  • John Street
  • Safleoedd Heol Dumballs
Cwmnïau sydd eisoes wedi’u lleoli yn yr Ardal
  • Legal & General
  • SKY
  • RBS
  • Deloitte
  • BBC
Safleoedd strategol eraill yn yr Ardal neu’n lleol iddi
  • Glannau Caerdydd
  • Porth Teigr
  • Rhodfa Bute
  • Glanfa'r Iwerydd
  • Dociau Caerdydd