""

Ardal Fenter Eryri

Wrth galon Parc Cenedlaethol Eryri, mae dau safle unigryw’r Ardal hon yn cyfuno eu hasedau naturiol â threftadaeth, gan gynnig yr amgylchedd delfrydol ar gyfer ynni carbon isel, cynhyrchu radioisotopau meddygol, TGCh neu fusnesau cysylltiedig ag awyrofod.


Trawsfynydd

  • Mae’n cynnig potensial i ddatblygu Adweithydd Modiwlaidd Bach (SMR), y cyntaf o’i fath
  • Lleoliad unigryw ar gyfer canolfan ddata gydag ynni naturiol, oeri naturiol a diogelwch naturiol
  • Mae’n cynnig potensial i ddatblygu Adweithydd Modiwlaidd Bach (SMR), y cyntaf o’i fath
  • Safle delfrydol ar gyfer datblygu adweithydd ymchwil meddygol i ddarparu radioisotopau gradd feddygol ar gyfer diagnosio a thrin canserau

Mae Trawsfynydd yn safle 50 hectar (123 erw) o amgylch yr hen orsaf bŵer niwclear ac mae ei leoliad yn ei wneud yn ddelfrydol ar gyfer busnesau TGCh ac ynni carbon isel.

Mae gan y safle seilwaith eithriadol: ffynhonnell oeri naturiol a rhad o lyn gwneud mwyaf Cymru ac o awyr ffres y mynydd, a’i seilwaith grid cenedlaethol ei hun sy’n darparu cyflenwad ynni gwyrdd dibynadwy. 

Mae’r asedau hyn wedi arwain at nodi’r safle fel un sydd â’r potensial i ddatblygu Adweithydd Modiwlaidd Bach (SMR) cyntaf o’i fath ac adweithyddion ymchwil meddygol. 

Mae gweithwyr diogelwch proffesiynol hyfforddedig eisoes ar waith ar y safle hwn, sydd hefyd wedi’i leoli dan ofod awyr cyfyngedig. 

Mae’r lefel uchel hon o ddiogelwch ynghyd â ffynonellau ynni ac oeri naturiol, cynaliadwy, dibynadwy y safle a mynediad ledled y safle at wasanaethau ffeibr optig ehangach, yn gwneud Trawsfynydd yn lleoliad deniadol i weithredwr canolfan ddata ac i gwmnïau carbon isel yn gysylltiedig ag ynni.

Mae cwmni datblygu – Cwmni Egino – wedi cael ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru i helpu i symud safle Trawsfynydd ymlaen.

Canolfan Awyrofod Eryri

  • Mynediad at 7,100km2 o ofod awyr wedi’i neilltuo
  • Cysylltedd band eang gwibgyswllt
  • Ardaloedd penodol i Systemau Awyrennau wedi’u Llywio o Bell (RPAS), Cynnal a Chadw, Trwsio ac Adfer (MRO) a pharc busnes

Mae Canolfan Awyrofod Eryri, sy’n 227.8 hectar (562 erw) wedi’i lleoli o amgylch hen faes awyr y Weinyddiaeth Amddiffyn yn Llanbedr, sydd wedi’i adnewyddu. 

Wedi’i leoli ar benrhyn arfordirol, ei nodwedd eithriadol yw’r gofod awyr wedi’i neilltuo, sy’n caniatáu i weithredwyr sifil a milwrol gael mynediad ar yr un pryd ar gyfer profi RPAS (Systemau Awyrennau wedi’u Llywio o Bell). 

Yn dilyn buddsoddiad sylweddol mewn cyfleusterau o’r radd flaenaf, mae’r safle’n cynnig ateb un-contractwr i gwsmeriaid, ar ffurf amgylchedd gweithredu newydd ar gyfer RPAS, sy’n cyfuno seilwaith meysydd awyr â rheoli gofod awyr.

Mae wedi’i deilwra’n arbennig ar gyfer awyrofod a diwydiannau cysylltiedig, gydag ardaloedd MRO (Cynnal a Chadw, Trwsio ac Adfer) ac RPAS, a pharc busnes sydd wedi’i neilltuo ar gyfer Technoleg Ymchwil a Datblygu a defnydd diwydiannol ysgafn.

Mae tair rhedfa - o 2.3km, 1.4km a 1.3km - lle ceir hedfan i mewn i 7,100km2 o ofod awyr wedi’i neilltuo yn yr Ardal, sy’n ymestyn dros Fae Ceredigion. 

A dim ond gwpl o oriau i ffwrdd mae cyfleusterau ategol Parc Aberporth, unig barc technoleg pwrpasol y DU i ddatblygu technolegau ar gyfer y diwydiant systemau di-griw, sy’n rhan annatod o ecosystem RPAS Cymru.

Yr ardaloedd a’r safleoedd yn Ardal Fenter Eryri
  • Hen safle Gorsaf Bŵer Niwclear Trawsfynydd
  • Canolfan Awyrofod Eryri
Safleoedd strategol eraill yn yr Ardal neu’n lleol iddi
  • Parc Aberporth
  • Parc Gwyddoniaeth Menai