Ardal Fenter Glannau Port Talbot
Mae Ardal Fenter Glannau Port Talbot yn gartref i weithlu medrus iawn ac amrywiaeth eang o sectorau. Gyda mynediad i harbwr dwfn sy’n gallu derbyn y genhedlaeth nesaf o longau cynwysyddion enfawr a chysylltiadau rheilffyrdd a ffyrdd rhagorol, dyma un o’r cyrchfannau busnes mwyaf hygyrch ac unigryw yng Nghymru.
- Cronfa lafur sylweddol sy’n byw o fewn pellter cymudo
- Amrywiaeth o leoedd fforddiadwy, o adeiladau newydd o’r radd flaenaf, sy’n barod i fynd, i safleoedd datblygu mawr
- Datblygu sgiliau gweithgynhyrchu uwch ac ymchwil gan golegau a phrifysgolion lleol
- Cysylltiadau ffyrdd, porthladdoedd a rheilffyrdd lleol a chenedlaethol rhagorol
- Treftadaeth gweithgynhyrchu gref, technoleg a sgiliau gweithgynhyrchu blaengar
- Mynediad at gysylltedd dosbarth menter a dewis cynyddol o wasanaethau band eang cyflym iawn
- Cymorth gan y Llywodraeth ac awdurdodau lleol ar gyfer anghenion busnes
Mae gan Ardal Fenter Glannau Port Talbot lawer i’w gynnig i ddarpar fuddsoddwyr – boed nhw’n fewnfuddsoddwyr, yn fusnes newydd neu’n fusnes sy’n bodoli eisoes.
Mae’r ardal yn gyforiog o dreftadaeth ddiwydiannol ac mae’n lleoliad gweithgynhyrchu o bwys gyda chryfderau ym maes Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch, Ynni a’r Amgylchedd a hefyd yn y sector Adeiladu.
Port Talbot yw’r ganolfan ar gyfer nifer o gwmnïau gweithgynhyrchu rhyngwladol mawr, tra’n dal i gynnig digon o le, cyfleoedd a chefnogaeth i fusnesau newydd – mae seilwaith da, dynodiadau cynllunio a thirfeddianwyr cadarnhaol yn sicrhau bod y Parth yn gallu darparu ar gyfer ystod eang o fusnesau.
Mae gan Bort Talbot gryfderau sydd wedi hen ennill eu plwyf ym maes gweithgynhyrchu a chynhyrchu dur. Mae hyn wedi’i gyfuno â ffocws pendant ar barhau i ddatblygu diwydiannau arloesol o safon fyd-eang mewn sectorau fel Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch, Adeiladu ac Ynni Gwyrdd.
Mae’r ardal yn elwa o ymchwil masnachol dan arweiniad y diwydiant ac mae ganddi gysylltiadau cryf â nifer o sefydliadau academaidd gan gynnwys Prifysgolion Abertawe a Chaerdydd, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol De Cymru.
Mae’r cyfuniad unigryw o ffactorau yn Ardal Fenter Glannau Port Talbot, o ran lleoliad, seilwaith a’i chysylltiadau â’r economi wybodaeth, wedi denu rhai o brif wneuthurwyr y DU, gan gynnwys TATA Steel, BOC, SPECIFIC a TWI, sydd, ynghyd â llu o gwmnïau eraill sy’n hynod fedrus yn dechnegol, yn gosod sylfaen gref ar gyfer creu clwstwr deinamig ac arloesol o fusnesau.