""

Ardal Fenter Glyn Ebwy

Treftadaeth gweithgynhyrchu ryngwladol a brodorol gyfoethog a gweithlu medrus sydd ar gael, gydag arbenigedd academaidd ar garreg y drws a mynediad rhwydd at farchnadoedd a chadwyni cyflenwi allweddol yng Nghymru a Chanolbarth Lloegr.

  • Wyth safle allweddol
  • 40 hectar (98 erw) o dir datblygu gyda gofod ehangu 100% a phenderfyniadau cynllunio trac cyflym
  • Ymchwil gweithgynhyrchu o’r radd flaenaf mewn prifysgolion lleol
  • Yn cyd-fynd yn agos â rhaglen y Cymoedd Technoleg, gan fanteisio ar y cyfleoedd sy’n deillio o’r pedwerydd chwyldro diwydiannol
  • Hanes llwyddiannus o weithgynhyrchu a sgiliau ar gael

Mae Ardal Fenter Glyn Ebwy yn ganolbwynt ar gyfer gweithgynhyrchu yng Nghymru, gyda’r sgiliau y byddech chi’n eu disgwyl o ardal sydd â threftadaeth hirsefydlog yn y sector a gweithgynhyrchwyr brodorol a rhyngwladol ar hyn o bryd.

Mae ei leoliad strategol cryf yn ne ddwyrain Cymru yn darparu mynediad hawdd at gwsmeriaid a’r gadwyn gyflenwi yn y rhanbarth a chyda chanolfannau gweithgynhyrchu eraill yn y DU, gan gynnwys Gorllewin Canolbarth Lloegr. Mae gwelliannau sylweddol wedi’u gwneud o ran deuoli Ffordd Blaenau’r Cymoedd yr A465 (sydd bron â’i chwblhau erbyn hyn) ac ymestyn y rheilffordd o Parkway i safle’r Gweithfeydd yng Nglynebwy, gan ddarparu mynediad uniongyrchol ar y rheilffordd i’r Ardal.

Mae digon o le i dyfu hefyd, gyda phum safle allweddol o dir datblygu o’r radd flaenaf.  Mae caniatâd cynllunio amlinellol ledled yr Ardal, gyda phroses cynllunio llwybr cyflym.

Nod rhaglen gwerth £100m, ddeng mlynedd y Cymoedd Technoleg, sy’n cynnwys Blaenau Gwent a rhanbarth Blaenau’r Cymoedd, yw manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd sy’n deillio o’r pedwerydd chwyldro diwydiannol – yn enwedig ym meysydd 5G, technoleg batri, ymchwil a defnydd digidol a seiber – gan gefnogi swyddi cynaliadwy, gwerth uchel, denu buddsoddiad a chreu cyfleoedd ar gyfer y rhanbarth. 

Ac mae’r Ardal hefyd yn rhan o Brifddinas-Ranbarth ehangach Caerdydd, prosiect sy’n buddsoddi £1.2bn o arian cyhoeddus i ddenu £4bn arall o fuddsoddiad preifat ar draws De Ddwyrain Cymru.

Ceir ymchwil gweithgynhyrchu o’r radd flaenaf mewn prifysgolion lleol.  Ac mae un o chwe champws Coleg Gwent – y Parth Dysgu – wedi’i leoli yng nghanol safle’r Gweithfeydd yng Nglynebwy, sy’n cynnig amrywiaeth o gyrsiau galwedigaethol Lefel A, lefel prifysgol a llawn amser. Maent hefyd yn cydweithio â busnesau a sefydliadau lleol fel Aspire Blaenau Gwent i ddarparu prentisiaethau sydd wedi ennill gwobrau. 

Ac mae’r Ganolfan Ecsbloetio Digidol Genedlaethol (NDEC), partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, Prifysgol De Cymru a’r cwmni seiber enfawr Thales, wedi creu canolfan ar gyfer busnesau uwch-dechnoleg a seiber.

O ystyried y costau cyflogau ac eiddo cystadleuol sy’n cadw eich gorbenion yn rhesymol, mae Ardal Fenter Glynebwy yn lleoliad gwych ar gyfer eich busnes.

Yr ardaloedd a’r safleoedd yn Ardal Fenter Glynebwy
  • Bryn Serth
  • Ystad Ddiwydiannol Rasa
  • Rhyd-y-Blew
  • Y Gweithfeydd
  • Parc Busnes Tredegar
  • Parc yr Ŵyl
  • Ystad Ddiwydiannol Tafarnaubach
  • Ystad Ddiwydiannol Waun y Pound
Cwmnïau sydd eisoes wedi’u lleoli yn yr Ardal
  • Continental Teves
  • GS Yuasa
  • G-TEM
  • Zorba Foods
  • GTS Flexible
  • PCI Pharma
  • Neem Biotech Ltd
  • Eurocaps Ltd
  • Bio Extractions Wales
  • Apex Additive Technologies
  • Freudenburg Performance Materials
  • Copner Biotech
  • PNR Pharma Consulting
  • Advanced Moulds
  • Pulse Plastics
  • Express Drying Contract
  • Clams Cakes
  • Frontier Medical Group
Safleoedd strategol eraill yn yr Ardal neu’n lleol iddi
  • Y Ganolfan Ecsbloetio Ddigidol Genedlaethol (NDEC)