Hyd at 80 o swyddi a fydd yn talu'n dda i'w creu mewn canolfan datblygu meddalwedd newydd, diolch i gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi dros £650,000 mewn cwmni technoleg cyllid er mwyn creu 80 o swyddi a fydd yn talu'n dda mewn canolfan datblygu meddalwedd newydd yng Nghaerdydd. Bydd cyfanswm o £651,000 yn cael ei roi i gwmni rheoli meddalwedd Link Data Management Solutions (LDMS) i sefydlu ei bencadlys yn Nhŷ Southgate. Bydd 20 o staff yn symud yno o Gaerffili a bydd gweddill y swyddi'n cael eu creu dros gyfnod o bedair blynedd...