Ffordd ym Mro Morgannwg yn derbyn gwobr adeiladu
Mae ffordd ym Mro Morgannwg wedi cael ei chydnabod yng Ngwobrau ‘Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru’ 2020, ar ôl i Ffordd Fynediad y Gogledd Sain Tathan ennill y wobr am brosiect peirianneg sifil y flwyddyn. Cafodd y ffordd newydd, sy’n werth £15 miliwn, ei hagor gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, ar 30 Medi 2019. Cafodd ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a’i hadeiladu gan Alun Griffiths (Contractwyr) Ltd o’r Fenni. Mae’r ffordd...