Prosiect newydd sy'n cael cyllid gan yr UE a fydd yn agor Porthladdoedd Cymru a Môr Iwerddon i dwristiaeth
Bydd y prosiect yn gwella cyfleoedd twristiaeth, profiadau twristiaid ac yn cefnogi bywoliaeth cymunedau arfordirol bob ochr i Fôr Iwerddon. Bydd Eluned Morgan, Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol Llywodraeth Cymru, yn cyhoeddi'r newyddion am y Prosiect Porthladdoedd, Ddoe a Heddiw, sy'n rhan o Raglen Gydweithredu Iwerddon Cymru, yn ystod ymweliad â Gweriniaeth Iwerddon. Bydd cyfleoedd twristiaeth newydd yn cael eu datblygu fel rhan o'r prosiect rhwng pum tref borthladd a'u cymunedau arfordirol cyfagos bob ochr i Fôr...