Rhaglen Cyflymydd
Ymgeisiwch nawr am y Rhaglen Sbarduno Grymus i Entrepreneuriaid
Cyrraedd y lefel nesaf gyda’n rhaglen rithwir y gallwch ymgolli eich hun ynddi dros gyfnod o 6 wythnos.
A wnaethoch chi raddio o'r brifysgol yn ystod y pum mlynedd diwethaf? Os felly, a yw unrhyw un o’r datganiadau canlynol yn berthnasol i chi?
- Rwy'n gweithio'n llawn amser ond yn gweithio hefyd ar brosiect rwy’n ymrwymedig i’w wneud yn llwyddiant.
- Rwy'n rhedeg busnes newydd sydd â photensial twf uchel yr hoffwn ei gymryd i'r lefel nesaf.
- Mae fy musnes yn gwneud mor dda rwy'n bwriadu cyflogi fy ngweithiwr cyntaf.
- Rwyf eisoes wedi adeiladu busnes chwe ffigur - cael hynny i saith ffigur yw'r her nesaf.
- Rydw i yng ngham ymchwil yr hyn a allai ddod y dechnoleg nesaf na welwyd ei thebyg o’r blaen yng Nghymru.
- Byddwn wrth fy modd i weld fy nghynnyrch yn gwerthu'n fyd-eang - gweithio ar allforion yw’r dasg nesaf i mi.
- Mae gradd gennyf ac rwy’n dychwelyd i Gymru i dyfu fy musnes
Os felly, mae Llywodraeth Cymru yn lansio rhaglen sbarduno grymus a gynlluniwyd i helpu graddedigion diweddar (o fewn 5 mlynedd) i dyfu eu busnesau yng Nghymru.
Dyma gyfle unigryw i 14 o entrepreneuriaid (rhai newydd ac fel arall!) ymuno â rhaglen sbarduno 6 wythnos y gallwch ymgolli eich hun ynddi a gynlluniwyd i'ch helpu i:
• Drawsnewid, addasu a thyfu eich meddylfryd
• Gynyddu eich twf busnes yn sylweddol gyda hyfforddiant gweithredol grymus
• Gwthio ffiniau eich llwyddiant yn bersonol ac yn broffesiynol
Mae'r rhaglen ddeinamig a manwl hon sy’n symud yn gyflym ar gael drwy gais yn unig. Cewch y cyfle unigryw i gyflwyno'ch busnes i banel o arbenigwyr, a fydd yn ei dro yn cynnig mewnwelediad penodol ac yn nodi maes lle y mae potensial o dwf.
Er mwyn cyflawni'r potensial hwn, mae'r rhaglen sbarduno yn cynnwys dros 21 awr o hyfforddiant rhwng cymheiriaid, hyfforddiant gweithredol un-i-un, gweminarau ac adnoddau busnes.
Rydym yn darparu arloesedd sy'n torri rhwystrau i sicrhau eich llwyddiant anochel. Rydych yn ymrwymo eich amser, eich ymroddiad a'ch egni i dyfu eich meddylfryd a mynd â'ch busnes i'r lefel nesaf.
Beth mae’r Rhaglen Sbarduno Grymus i Entrepreneuriaid yn ei gynnwys?
Caiff y rhaglen 6 wythnos hon ei chynnal yn rhithwir o fis Mawrth 2022 ymlaen (gydag egwyl ar gyfer y Pasg). Mae'r rhaglen yn cynnwys:
- Y cyfle i gyflwyno eich syniadau i banel o arbenigwyr blaenllaw yn y byd busnes a buddsoddi
- 6 awr o sesiynau cymorth rhwng cymheiriaid wedi'u hwyluso
- 3 awr o weithdai strategaeth busnes, gan gynnwys "Meddylfryd yr Entrepreneur"
- 6 awr o hyfforddiant gweithredol un-i-un
- Hyd at 6 awr o hyfforddiant arbenigol yn gysylltiedig â'ch heriau a'ch cyfleoedd mwyaf
- Cyfleoedd rhwydweithio
- Mynediad i raglen ddigwyddiadau Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru
- I ddatblygu model busnes cynaliadwy a chadarn
- I sicrhau bod eich busnes yn cyrraedd y lefel nesaf o dwf
- I gael mynediad i rwydwaith o fentoriaid a chymheiriaid profiadol
- I ddatblygu eich meddylfryd ar gyfer llwyddiant a'ch hyder
- I gael cynllun clir ar gyfer twf
Pwy ddylai ymgeisio?
- Unrhyw un sy’n byw yng Nghymru sydd wedi graddio yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf.
- P'un a oes gennych syniad busnes y mae angen i chi ei ddatblygu ymhellach neu eich bod eisoes yn masnachu, gallwn weithio gydag entrepreneuriaid ar wahanol gamau o'u taith fusnes.
- Os oes gan eich busnes y potensial i gyflawni dros £1 filiwn o refeniw ac i recriwtio 10 o bobl erbyn 2026.
- Os yw hyn yn apelio i chi, gwnewch gais nawr. Dim ond 14 lle sydd gennym i'w cynnig.
Mae gen i ddiddordeb. Beth yw’r camau nesaf?
Cofrestrwch eich diddordeb cyn gynted â phosibl drwy e-bostio agpadmin@winning-pitch.co.uk i ofyn am ffurflen gais.
(Dyddiad cau 22 Chwefror 2022.))
Cyflwynwch eich pecyn cais wedi'i gwblhau erbyn 25 Chwefror 2022.
Mae'r Rhaglen Sbarduno Grymus i Entrepreneuriaid yn rhan o Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru ac mae'n cael ei hariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.