Mae gan Gymru hanes blaenorol cadarn o gynhyrchu a meithrin labeli ffasiwn o ansawdd uchel. Mae nifer o frandiau blaenllaw byd-eang naill ai wedi cael eu sefydlu yng Nghymru neu mae ganddynt bresenoldeb gweithgynhyrchu yng Nghymru – Laura Ashley, Toast, Burberry, Hiut Denim a JoJo Maman Bébé i enwi ond rhai. Yn dilyn ôl troed y traddodiad hwnnw y mae Mabli – brand sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd sy’n profi llwyddiant mewn marchnadoedd tramor. Yma...
Busnes newydd o Gymru sy’n arbenigo mewn cynhyrchion ecogyfeillgar ar gyfer anifeiliaid anwes, Project Blu, yn sefydlu cytundeb gwerth miliynau o bunnoedd gyda chwmni cyfalaf menter Metamorphosis o’r UDA
Bydd y cytundeb gwerth miliynau hwn a fydd yn para sawl blwyddyn yn gweld Metamorphosis yn cymryd cyfran o ecwiti yn Project Blu, a sefydlwyd yn 2019 gan Geryn Evans sy’n 35 oed. Y brand anifeiliaid anwes byd-eang cyntaf i gynnig ystod lawn o ategolion cynaliadwy, nod y cwmni yw lleihau gwastraff plastig byd-eang sy'n mynd i'r môr ac effaith amgylcheddol ehangach gweithgynhyrchu cynhyrchion anifeiliaid anwes drwy fanteisio ar decstilau a thechnolegau arloesol. Mae Project...
Cwmni TG yn sefyll yn gadarn drwy COVID-19
Mae cwmni cymorth TG Metalogic wedi bod yn darparu arbenigedd a chymorth i fusnesau bach ers 2003. Symudodd y busnes, a sefydlwyd ac a arweinir gan Mike Parfitt, i gyfnod lle y caniatawyd iddo ehangu wrth i'r wasgfa gredyd daro, pan wnaeth y cyfnod orfodi cwmnïau i archwilio sut y gallent wneud arbedion effeithlonrwydd. Ers hynny mae'r cwmni wedi mwynhau twf pellach, gan ehangu ei weithlu ac ennill cleientiaid newydd. Mae’r cwmni wedi cael cymorth...
Darparwr gofal yn ceisio darparu gwasanaeth o ansawdd uchel ar gyfer preswylwyr yn Wrecsam
Mae gofal o ansawdd uchel yn hwyrach mewn bywyd yn bwysig i bawb, ac i Orchard Care, sy’n berchen ar ddau gartref yn ardal Wrecsam, mae darparu gofal o ansawdd uchel ar gyfer eu preswylwyr yn ganolog i’w ethos. Pan ymunodd Dave a Gemma Atkins â’r sector yn 2009, gwelon nhw ar unwaith yr angen am ddarpariaeth gofal o ansawdd uchel yn Wrecsam, ac roedden nhw’n ceisio rhoi’r ansawdd bywyd gorau posibl i’r rheini a...
I QuoteOnSite, cwmni fintech o Abertawe, datrys problemau busnesau eraill yw hanfod eu cynnig.
Wedi’i sefydlu gan TJ Amas o Nigeria, mae QuoteOnSite yn darparu cyfres unigryw o feddalwedd rheoli dyfynbrisiau yn y cwmwl. Mae’n caniatáu i reolwyr-berchnogion busnesau ddatblygu a chynnig dyfynbrisiau proffesiynol er mwyn tyfu eu busnes. I fusnesau bach a chanolig, a busnesau mwy, mae’r feddalwedd yn ei gwneud hi’n bosib rheoli timau sy’n rhan o’r broses gosod pris. Er ei bod yn ddyddiau cynnar ar y busnes o hyd, mae wedi denu amrywiaeth o gleientiaid...