Dydy busnesau Cymru ddim yn cyrraedd y safon o ran amrywiaeth meddai academydd, awdur ac entrepreneur blaenllaw.
Mae angen i fusnesau yng Nghymru wneud mwy i sicrhau y gallant elwa ar dimau a byrddau sydd wir yn amrywiol a chynhwysol, meddai’r Athro Amanda Kirby sydd yn entrepreneur, ac yn arwain y byd wrth arbenigo ym maes niwroamrywiaeth. Sylfaenodd yr Athro Kirby’r cwmni technoleg-er-da Do-IT Profiler sydd wedi ei leoli yng Nghaerdydd. Dywedodd er bod ymwybyddiaeth yn cynyddu o ran y manteision mae amrywiaeth yn eu cynnig i fusnesau, mae “amharodrwydd a naïfrwydd”...