Y busnes blaenllaw sy’n gweithgynhyrchu cacennau, La Crème Patisserie, yn mwynhau blas llwyddiant wrth lansio ei siop fanwerthu gyntaf
Mae La Crème Patisserie, busnes gweithgynhyrchu a gwerthu cacennau o safon uwch, wedi mynd yn groes i duedd y pandemig drwy agor ei siop fanwerthu bwrpasol gyntaf erioed. Mae'r busnes teuluol, sydd â chyfleusterau gweithgynhyrchu yng Nghastell-nedd a Chwmbrân, wedi arwyddo prydles 10 mlynedd ar safle 1200 o droedfeddi sgwâr yn 24-26 Stryd Fawr Llandaf yng Nghaerdydd. Bydd y siop yn galluogi cwsmeriaid i brynu ystod eang o gacennau, pwdinau a danteithion o’r radd flaenaf...