Mae TB Davies, sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd, yn fusnes teuluol pedwaredd genhedlaeth a sefydlwyd yn y 1940au. Erbyn heddiw mae’n un o brif gyflenwyr offer mynediad yn y DU. Mae’r cwmni’n cynhyrchu ac yn dosbarthu amrywiaeth eang o gynnyrch dringo, gan gynnwys grisiau, ysgolion, tyrrau, a phodia ar gyfer defnyddwyr proffesiynol, masnachol a domestig. Mae’n ymfalchïo ei fod wedi aros un cam ar y blaen drwy arloesi ers iddo ddod yn un o’r cwmnïau...
Gweithgynhyrchu arloesol yn dod â swyddi a dyfodol disglair i Bort Talbot.
Mae ymchwil a datblygu yn hanfodol i greu Cymru fwy ffyniannus a chystadleuol. Mae’r gweithgareddau hyn yn aml yn canolbwyntio ar sector addysg uwch y wlad sydd gyda’r gorau yn y byd. Dim ond un enghraifft yw Hexigone, sydd wedi’i leoli ym Mhort Talbot, o allu sefydliadau addysg uwch i ddatblygu technoleg newydd a hybu lles economaidd. Sylfaenydd Hexigone yw Dr Patrick Dodds a ddatblygodd dechnoleg i atal metel rhag cyrydu drwy ei waith ymchwil...
O lawr y ffatri i sedd y Rheolwr Gyfarwyddwr: Pennaeth cwmni drysau diwydiannol yn sôn am ei daith drwy rengoedd y cwmni.
Mae’n swnio fel chwedl o’r byd busnes – y prentis sy’n dechrau ar lawr y ffatri cyn dod yn rheolwr gyfarwyddwr yn y pen draw. Ond dyna yn union a ddigwyddodd yn Industrial Door Services (IDS), sydd wedi ei leoli yng Nghasnewydd, pan ddaeth Floyd Manship i reoli’r cwmni ar ôl dringo drwy’r rhengoedd i arwain y busnes pan wnaeth sylfaenydd y cwmni gamu i lawr. Wedi ei sefydlu yn 1987, dechreuodd IDS weithgynhyrchu drysau...
Arbenigwyr posteri addysgol yn targedu marchnad yr UD.
Mae sawl elfen ynghlwm wrth y broses o greu amgylchedd dysgu egnïol. Un o ddarnau y jig-so addysgol yw amgylchynu disgyblion ysgol gydag adnoddau gweledol ar gyfer eu hastudiaethau. Mae Daydream Education yn gwmni sydd wedi’i leoli ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac mae’n arbenigo yn yr elfen hollbwysig hon o’r ystafell ddosbarth fodern. Mae’r cwmni yn dylunio posteri a ddefnyddir gan athrawon yn fyd-eang er mwyn helpu disgyblion i ddeall pynciau allweddol. Yn ogystal, mae’r...
Astudiaeth achos cynllun peilot lleihau allyriadau carbon Rhaglen Cyflymu Twf. Cleient: Totally Welsh
Mae Totally Welsh sydd wedi’i leoli yn Hwlffordd yn cyflenwi llaeth a chynhyrchion llaeth Cymreig o safon i’r sector cyhoeddus a chwsmeriaid corfforaethol a domestig ledled y DU. Yn gwmni a sefydlwyd ym 1990, mae’n defnyddio llaeth Cymreig o wartheg Cymreig, a hynny o fewn cwmpas 40 milltir o’i safle potelu. Mae cwsmeriaid Totally Welsh yn cynnwys archfarchnadoedd, ysbytai, ysgolion a manwerthwyr annibynnol. Mae’r cwmni hefyd yn cynnig gwasanaeth danfon i’r drws yn ne Cymru...