Gweler isod grynodeb o fusnesau sydd wedi cael cymorth o dan y Rhaglen Cyflymu Twf.
Yn swatio yn nhref hardd Trefynwy, mae hynt Milking Solutions wedi bod yn rhyfeddol, gan fynd o fod yn gwmni mewnforio sy'n gwasanaethu'r DU i fod yn wneuthurwr ac allforiwr byd-eang o fri sy'n cyflenwi darnau peiriannau godro. Heddiw, mae ystod cynhyrchion y cwmni yn cynnwys offer godro ar gyfer gwartheg, defaid, geifr a chamelod. Yma, mae Kevin Graham, y Rheolwr Gyfarwyddwr, yn rhannu'r daith ddifyr a drawsnewidiodd fusnes bach yng Nghymru yn arweinydd byd-eang...
Ar flaen y gad ym maes tai cymdeithasol cynaliadwy gyda Gwybodaeth SimplyDo am Arloesi
Mae SimplyDo o Gaerdydd yn gwmni sydd ar flaen y gad ym maes arloesi. Mae'n ymrwymedig i ddatrys yr heriau mawr sy'n ein wynebu wrth inni fynd ati i drawsnewid, ac mae'n dod â phobl a phlatfformau digidol blaengar at ei gilydd i greu dulliau newydd arloesol o ddatrys problemau. Yn ddiweddar, bu'r cwmni'n defnyddio'i arbenigedd i helpu i ddatrys un o'r heriau mwyaf sy'n wynebu'r sector tai cymdeithasol. Yma, mae Lee Sharma, Prif Swyddog...
Gwarchod traddodiad a chroesawu’r dyfodol: Sut y daeth Corgi Hosiery yn frand byd-eang cynaliadwy
Mae hanes diwydiannol Cymru wedi cael ei ailddiffinio dro ar ôl tro. Mae ailddiffiniad o’r fath i’w weld yn Corgi Hosiery yn Rhydaman, sy’n fusnes pumed genhedlaeth lle mae’r crefftwaith traddodiadol gorau ac arferion cynaliadwy modern yn dod ynghyd. Mae’r brand, a gafodd ei sefydlu yn 1892, wedi esblygu’n raslon o gyflenwi sanau i lowyr i ddod yn arweinydd byd-eang yn y farchnad dillad gwau moethus. Heddiw, mae’r cwmni’n cyflogi 65 o bobl ac yn...
2buy2.com: Y busnes yng Nghymru yn arbed miliynau i sefydliadau eraill drwy gaffael doethach.
Wedi'i leoli yng Nghaerdydd, mae 2buy2.com yn gwmni caffael blaenllaw sy'n arbenigo mewn cefnogi sefydliadau ffydd, busnesau, elusennau a'r sector addysg i arbed arian trwy gaffael doethach. Mae'r cwmni'n cynllunio twf sylweddol diolch i Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP) a Rhaglen Arloesedd a Dysgu Sefydliad Technoleg Massachusetts (ILP). Mae hefyd wedi derbyn gwybodaeth werthfawr i ddiogelu ei fusnes gwasanaethau pwrpasol yn y dyfodol. Yma mae Rob Kissick, Prif Swyddog Gweithredol 2buy2.com, yn rhannu sut...
Quadrip: Llwyfan ffasiwn ar-lein Cymru yn chwyldroi steilio personol drwy gysylltu steilwyr a chleientiaid yn fyd-eang.
Mae e-fasnach ac arloesedd digidol yn parhau i chwyldroi gwahanol sectorau ledled y byd. O ffasiwn i gyllid, mae llwyfannau digidol wedi chwalu rhwystrau ac wedi creu cyfleoedd i weithwyr llawrydd, entrepreneuriaid a defnyddwyr. Mae Quadrip, llwyfan steilio personol ar-lein yng Nghymru, yn enghraifft wych o'r chwyldro hwn. Wedi'i lansio ym mis Mai 2023 gan Gabriele Sidekerskyte, myfyriwr economeg o Lithwania ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae Quadrip yn cysylltu steilyddion llawrydd â chleientiaid sy'n chwilio am...
Astudiaeth achos peilot lleihau carbon y Rhaglen Cyflymu Twf. Cleient: TB Davies
Mae TB Davies, sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd, yn fusnes teuluol pedwaredd genhedlaeth a sefydlwyd yn y 1940au. Erbyn heddiw mae’n un o brif gyflenwyr offer mynediad yn y DU. Mae’r cwmni’n cynhyrchu ac yn dosbarthu amrywiaeth eang o gynnyrch dringo, gan gynnwys grisiau, ysgolion, tyrrau, a phodia ar gyfer defnyddwyr proffesiynol, masnachol a domestig. Mae’n ymfalchïo ei fod wedi aros un cam ar y blaen drwy arloesi ers iddo ddod yn un o’r cwmnïau...
Gweithgynhyrchu arloesol yn dod â swyddi a dyfodol disglair i Bort Talbot.
Mae ymchwil a datblygu yn hanfodol i greu Cymru fwy ffyniannus a chystadleuol. Mae’r gweithgareddau hyn yn aml yn canolbwyntio ar sector addysg uwch y wlad sydd gyda’r gorau yn y byd. Dim ond un enghraifft yw Hexigone, sydd wedi’i leoli ym Mhort Talbot, o allu sefydliadau addysg uwch i ddatblygu technoleg newydd a hybu lles economaidd. Sylfaenydd Hexigone yw Dr Patrick Dodds a ddatblygodd dechnoleg i atal metel rhag cyrydu drwy ei waith ymchwil...
O lawr y ffatri i sedd y Rheolwr Gyfarwyddwr: Pennaeth cwmni drysau diwydiannol yn sôn am ei daith drwy rengoedd y cwmni.
Mae’n swnio fel chwedl o’r byd busnes – y prentis sy’n dechrau ar lawr y ffatri cyn dod yn rheolwr gyfarwyddwr yn y pen draw. Ond dyna yn union a ddigwyddodd yn Industrial Door Services (IDS), sydd wedi ei leoli yng Nghasnewydd, pan ddaeth Floyd Manship i reoli’r cwmni ar ôl dringo drwy’r rhengoedd i arwain y busnes pan wnaeth sylfaenydd y cwmni gamu i lawr. Wedi ei sefydlu yn 1987, dechreuodd IDS weithgynhyrchu drysau...
Arbenigwyr posteri addysgol yn targedu marchnad yr UD.
Mae sawl elfen ynghlwm wrth y broses o greu amgylchedd dysgu egnïol. Un o ddarnau y jig-so addysgol yw amgylchynu disgyblion ysgol gydag adnoddau gweledol ar gyfer eu hastudiaethau. Mae Daydream Education yn gwmni sydd wedi’i leoli ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac mae’n arbenigo yn yr elfen hollbwysig hon o’r ystafell ddosbarth fodern. Mae’r cwmni yn dylunio posteri a ddefnyddir gan athrawon yn fyd-eang er mwyn helpu disgyblion i ddeall pynciau allweddol. Yn ogystal, mae’r...
Astudiaeth achos cynllun peilot lleihau allyriadau carbon Rhaglen Cyflymu Twf. Cleient: Totally Welsh
Mae Totally Welsh sydd wedi’i leoli yn Hwlffordd yn cyflenwi llaeth a chynhyrchion llaeth Cymreig o safon i’r sector cyhoeddus a chwsmeriaid corfforaethol a domestig ledled y DU. Yn gwmni a sefydlwyd ym 1990, mae’n defnyddio llaeth Cymreig o wartheg Cymreig, a hynny o fewn cwmpas 40 milltir o’i safle potelu. Mae cwsmeriaid Totally Welsh yn cynnwys archfarchnadoedd, ysbytai, ysgolion a manwerthwyr annibynnol. Mae’r cwmni hefyd yn cynnig gwasanaeth danfon i’r drws yn ne Cymru...