Ymdrech gyfunol yw'r dasg o ddiwallu anghenion sgiliau Cymru mewn economi sy'n newid. Mae gan fusnes rôl hanfodol i'w chwarae wrth sicrhau bod gweithlu'r genedl yn barod ar gyfer y dyfodol.

Mae'r gwneuthurwr powdr metel o Sir Gaerfyrddin, LSN Diffusion, yn enghraifft wych o hyn. Nid yn unig y mae'n darparu cyflogaeth sy’n gofyn am lefel uchel o sgiliau yn ei gymuned leol, ond mae hefyd yn rhoi cyfle i weithwyr wella a chynyddu eu sgiliau a'u gwybodaeth drwy addysg uwch.

 

Mae LSN Diffusion wedi cael ei gefnogi drwy Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru. Mae'r Rhaglen yn darparu cymorth wedi'i dargedu i gwmnïau uchelgeisiol sy'n tyfu. Ariennir y rhaglen yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Yma, mae Phillip Allnatt o LSN Diffusion yn rhannu trosolwg o stori'r cwmni a sut y mae mwy i fusnes na’r llinell waelod yn unig. 

 

Dywedwch wrthym am LSN Diffusion
Sefydlwyd LSN Diffusion ar ansawdd ac arloesedd, ac rwy'n credu y bydd busnesau fel ein un ni yn dod yn fwyfwy pwysig i economi Cymru wrth i ni symud i'r dyfodol. Rydym yn gwmni blaengar sy'n cynhyrchu cynhyrchion o ansawdd uchel ar gyfer gweithgynhyrchwyr mewn gwahanol sectorau.

Yma yn ein pencadlys yn Llandybie, ger Rhydaman, rydyn ni'n cynhyrchu powdr metel ar gyfer cleientiaid ledled y byd. Sefydlon ni'r cwmni oherwydd ein bod yn adnabod y sector hwn a'r wyddoniaeth y tu ôl iddo; roedden ni'n deall powdr metel a'i botensial. Gallem weld y potensial ar gyfer darparu cynhyrchion powdr metel ar gyfer brandiau ym mhen ucha’r farchnad fel Audi, y diwydiant niwclear a dyfeisiau meddygol. 

 

Rydym yn fusnes byd-eang sy'n gweithredu o Sir Gaerfyrddin. Rydym yn allforio'r rhan fwyaf o'n cynnyrch i Ewrop ac Asia. Ac rydyn ni'n tyfu. Rydym wedi ehangu yn eithaf sylweddol ac erbyn hyn yn cyflogi mwy na 120 o bobl. Wrth inni dyfu, rydym wedi creu swyddi medrus newydd a gwerthfawr – rydym yn cyflogi graddedigion ac ôl-raddedigion. Mae gennym hefyd 12 o weithwyr yn astudio am eu graddau cyntaf gyda Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Mae hwn yn ddiwydiant cyfalaf-ddwys, felly rydyn ni wedi gorfod chwilio am gyfalaf i helpu’r cwmni i dyfu. Ond fe lwyddon ni i sicrhau £3 miliwn mewn buddsoddiad cychwynnol gan gyfarwyddwyr, gweithwyr, ac angylion buddsoddi.

 

Mae hi wedi bod yn daith gyffrous hyd yn hyn. Rydyn ni'n obeithiol am yr hyn sydd o'n blaenau. Rydym yn falch o'r hyn rydym wedi'i gyflawni hyd yma, ac rydym wedi dod yn gyflogwr allweddol yn gyflym yn yr economi wybodaeth yn y rhan hon o Gymru. 
 

Beth ydych chi’n fwyaf balch ohono yn eich busnes hyd yn hyn?
Yn gyntaf, mae angen i ni wneud elw fel y gallwn fuddsoddi yn y busnes, ymgymryd â gweithwyr, ehangu a dod yn gynaliadwy. Felly roedd dod yn broffidiol yn garreg filltir a roddodd ymdeimlad aruthrol o falchder i ni i gyd. Dangosodd ein bod yn gwneud y pethau iawn a bod gan LSN Diffusion ddyfodol diogel a chyffrous.

Oherwydd ein bod wedi gallu cyflawni'r proffidioldeb hwnnw mae wedi golygu y gallwn uwchsgilio ein gweithlu ac ychwanegu gwerth i'r economi leol. Rwy'n credu bod hyn yn bwysig nid yn unig i ni fel busnes ond hefyd i iechyd ehangach yr economi a'n cymuned leol. Hefyd, rydym wedi caniatáu i weithwyr ddatblygu eu sgiliau ymhellach drwy eu cefnogi i astudio am raddau ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Mae gweld ein pobl yn datblygu a gwella eu gwybodaeth a'u sgiliau wedi bod yn rhan hynod foddhaol o esblygiad y busnes. 

 

Pa heriau rydych wedi eu hwynebu mewn busnes?
Rydyn ni wedi cael digon! Ond rwy’n meddwl bod heriau yn brofiadau sy’n cael eu rhannu mewn busnes. 

Er enghraifft, yn ein blynyddoedd cynnar, roedd cwmnïau sefydledig yn y farchnad yn gystadleuaeth fawr inni – cwmnïau a oedd wedi bod yn gweithredu ers blynyddoedd a rhai oedd â sylfaen gadarn o gwsmeriaid. Fel cwmni newydd i’r farchnad, roedd hyn yn galed ond gwnaeth hefyd ein hysgogi – roeddem yn gwybod ein bod yn gallu darparu ansawdd ac ychwanegu gwerth.

 

Roedd heriau eraill hefyd, ond roedd y cymorth a gawsom gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (rhagor am hyn yn nes ymlaen!) yn allweddol i’n llwyddiant yn y dyddiau cynnar. Roedd yn rhaid inni sicrhau bod ein powdrau metel yn bodloni safonau uchaf ein cwsmeriaid ac amserau danfon caeth. Wrth i’r busnes dyfu, roedd yn rhaid inni wynebu’r her o dyfu’r gweithrediadau i ateb gofynion ein cwsmeriaid cynyddol. Roedd hyn yn golygu buddsoddi’n sylweddol mewn offer a phobl.

Buom hefyd yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, sy'n berchen ar ein safle, i ddod o hyd i atebion i'n hanghenion ynni cynyddol. Er enghraifft, roedd angen i ni ddefnyddio mwy o bŵer wrth i'r busnes ehangu. Mae hyn wedi bod yn her, ond rydyn ni wedi gweithio i sicrhau ein bod ni'n gallu cwrdd â'r her honno a rhoi ein cwmni yn y sefyllfa orau wrth inni symud ymlaen.

 

Wrth gwrs, rydym wedi gorfod delio â materion yn sgil Covid-19. Pan gaeodd y farchnad fyd-eang, bu'n rhaid inni ddefnyddio'r cynllun ffyrlo a mabwysiadu dull gweithio gartref i rai staff. Wrth i'r farchnad agor, fe wnaethom ailddechrau cynhyrchu – natur y busnes gweithgynhyrchu hwn yw mai dim ond yn y ffatri y gall rhan helaeth o'r gweithlu weithio. Roedd yn golygu bod yn rhaid inni ddilyn y canllawiau cadw pellter cymdeithasol a mesurau cysylltiedig eraill i sicrhau bod ein staff yn parhau i fod yn ddiogel, yn cael cefnogaeth ac yn iach.

 

Pe byddech yn dechrau eto, beth fyddech yn ei wneud yn wahanol?
Mae edrych yn ôl yn beth gwych mewn busnes! Byddem wedi codi mwy o gyfalaf i ddechrau er mwyn gwella gweithrediadau a llif arian. Byddem hefyd wedi defnyddio'r cyfalaf hwnnw i recriwtio rheolwyr profiadol, a allai fod wedi helpu i gyflymu ein datblygiad a'n gallu i gystadlu'n gynt. Ond fel rwy’n dweud, mae edrych yn ôl yn beth hyfryd!

 

Sut mae cymorth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi helpu eich busnes?
Mae yna ddigon o ffyrdd y mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi rhoi cymorth hanfodol inni. Fel nes i ddweud ynghynt, roedd eu cymorth yn hollbwysig pan oedden ni'n cychwyn arni. O ran rheoli ansawdd, roedd Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yn hanfodol wrth sicrhau ein bod yn mynd i'r cyfeiriad cywir ac yn gallu cystadlu â'n cystadleuwyr byd-eang.

Wrth ehangu a thyfu, mae hyn wedi arwain at ddatblygiad diwylliannol ein harweinwyr ar wahanol lefelau. Helpodd Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru gyda'r angen datblygu a'r hyfforddiant hwnnw drwy ei chymorth hyfforddi. Ond mae wedi bod yno i helpu gyda phethau eraill hefyd. Mae'r rhain yn cynnwys mesur prosesau, cynllunio a mesur effeithlonrwydd a chynhyrchiant, technoleg gwybodaeth, marchnata, datblygu rheoli, newid diwylliant, cyllid a buddsoddi. Mae'r rhaglen wir yn cymryd golwg gyfannol ar fusnes ac yn llenwi'r bylchau gwybodaeth a all gynorthwyo yn ei lwyddiant. Gwnaeth Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru hefyd ein helpu ni i sicrhau Grant Cadernid Economaidd.  

 

Yn y cyfamser, rydym wedi cael cymorth gan Lywodraeth Cymru gyda chyllid grant i fusnesau newydd, ac fel landlord y safle rydym yn ei feddiannu, mae wedi ein cefnogi gyda gwelliannau ar y safle.

Mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi bod yn ffynhonnell arbenigedd ac yn gyngor yr oedd mawr ei angen, sydd wedi bod yn amhrisiadwy yn ein datblygiad a'n llwyddiant.

 

Pa gyngor ac arweiniad fyddech chi’n eu rhoi i fusnesau sy’n cychwyn arni? 

  • Edrychwch am ffynhonnell ddibynadwy o gyngor, fel Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru. Y ffordd orau o dyfu busnes yw drwy ddod â safbwyntiau ac arbenigedd newydd i mewn. Camgymeriad yw meddwl eich bod yn gwybod y cyfan. 
  • Codwch fwy o gyfalaf nag ydych chi'n meddwl eich bod ei angen. 
  • Dileu aneffeithlonrwydd a gweithredu arferion gorau i symleiddio prosesau, lleihau costau a gwella perfformiad cyffredinol.
  • Recriwtio'r bobl orau y gallwch chi a buddsoddi yn eu datblygiad.
  • Buddsoddi mewn technoleg i sicrhau bod gennych ddata dibynadwy ar gyfer gwneud penderfyniadau.

 

Dewiswch yma i ddysgu mwy am LSN Diffusion a'r hyn maen nhw'n ei wneud.
 

Rhagor o wybodaeth am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.


 

A picture containing graphical user interface

Description automatically generated

 

Rhaglen sydd ar waith ledled Cymru a ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru yw Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.  

Share this page

Print this page