Un o fanteision bod yn rhan o’r Rhaglen Cyflymu Twf yw cael mynediad at rwydwaith o hyfforddwyr medrus sy’n gallu eich helpu â chyfleoedd a rhwystrau penodol yn ymwneud â thyfu eich busnes.

Yn y neges flog hon, rydym yn cwrdd â Nicola Rylett, un o’n hyfforddwyr, ac yn darganfod beth sy’n ei hysbrydoli hi i helpu busnesau yng Nghymru i gyflawni eu potensial yn llawn.

 

Elli di roi crynodeb i ni o hanes dy yrfa hyd yma?

Fe ddechreuais ym maes gwerthiant radio, cyn symud i farchnata, gan ddringo i fyny’r ysgol gyda phob rôl newydd. Roedd hi’n wastad yn uchelgais gen i fod yn Rheolwr Gyfarwyddwr cyn i mi gyrraedd 35 oed. Roeddwn i’n 37 oed pan gefais fy rôl gyntaf fel Rheolwr Gyfarwyddwr gyda’r British Medical Journal gan redeg un o’u busnesau yng Nghaerdydd. Rhedais sawl cwmni ar ôl hynny, cyn penderfynu fy mod i eisiau rhedeg fy nghwmni fy hun. Cymrodd beth amser i mi sylweddoli fy mod i eisiau rhedeg fy nghwmni fy hun, doeddwn i wir ddim yn meddwl fy mod i’n ddigon da.

Rwyf wrth fy modd yn rhwydweithio ac yn cysylltu â gweithwyr proffesiynol eraill o’r un anian â mi, felly sefydlais fy musnes i helpu busnesau eraill i ‘rwydweithio’ yn fwy ac yn well. Rwyf wrth fy modd yn rhwydweithio ac yn cysylltu â gweithwyr proffesiynol eraill o’r un anian â mi. O fewn blwyddyn, roedd y busnes wedi datblygu i fod yn ymgynghoriaeth busnes; hyfforddi a mentora oedd y prif wasanaethau a gynigiwyd gen i. Dyna pryd y dechreuais weithio fel rhan o dîm y Rhaglen Cyflymu Twf.

Y weledigaeth sy’n fy sbarduno yw ysbrydoli pobl i weithredu, llywio llwyddiant ac ychwanegu gwerth i bawb rwy’n gweithio gyda nhw, sy'n cyd-fynd yn braf ag amcanion y Rhaglen Cyflymu Twf. Mae’n fraint cael cefnogi entrepreneuriaid gwych i ragori yn eu maes

 

Nicola Rylett
Nicola Rylett


Pa heriau wyt ti wedi’i hwynebu yn ystod dy yrfa?

Bod yn ddilys yw datganiad y dydd ar hyn o bryd, ond ni fu hynny’n wir erioed. Rwy'n cofio moment allweddol, dros ddeng mlynedd yn ôl erbyn hyn, mewn cyfarfod strategaeth uwch. Roeddem ni wrthi’n gwneud rhywfaint o waith proffilio personoliaeth ac fe ddaeth yn amlwg fy mod i’n gwbl wahanol i bawb arall ar y tîm. Roeddwn i’n teimlo mor unig, a phenderfynais adael yn fuan iawn wedyn. Fe gymerodd tua phum mlynedd i mi sylweddoli mai bod yn wahanol ydy un o’m rhinweddau gorau. Mae’n rhaid i dimau ystyried safbwyntiau gwahanol; ac mae gweld pethau o safbwynt gwahanol yn ardderchog ar gyfer arloesi a datrys problemau yn greadigol. Yn ogystal â hynny mae’n cymryd llai o egni i fod yn chi eich hun, yn hytrach nag esgus bod yn rhywun arall. A bydd gennych chi fwy o amser ac egni i ganolbwyntio ar wneud gwahaniaeth.

 

Pwy sydd wedi dysgu’r mwyaf i ti yn dy yrfa hyd yma?

Neb yn arbennig – mae llawer o’r entrepreneuriaid a’r ymgynghorwyr busnes rwy'n gweithio gyda nhw ar hyn o bryd sy’n adeiladu, neu sydd wedi adeiladu, busnesau yng Nghymru yn bobl ysbrydoledig ac rwy’n dysgu rhywbeth ganddyn nhw bob dydd.

 

Sut wyt ti’n sicrhau cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith?

Rwyf braidd yn gaeth i’m gwaith am fy mod i wrth fy modd â’r hyn rwy’n ei wneud. Rwy’n gwybod gymaint â’r cleientiaid rwy’n gweithio gyda nhw ei fod yn cymryd popeth sydd gennych a mwy i dyfu busnes. Felly, dros y blynyddoedd diwethaf, rwy’n cymryd gwyliau unwaith y chwarter, ac yn treulio wythnos i ffwrdd o bob dim.  A dyma’r peth gorau…pan fydd fy ngŵr a minnau’n mynd i ffwrdd, rydym yn rhoi’r gorau i weithio, dydyn ni ddim yn mynd â’n cyfrifiaduron efo ni, ac rydym yn diffodd ein ffonau. Rydw i hyd yn oed yn rheoli fy musnes fel bod y cleientiaid a'r prosiectau’n gwybod nad ydw i ar gael yn ystod y cyfnod hwnnw.

Rwyf hefyd yn gwneud yn siŵr fy mod i’n mynd i’r gampfa bob dydd neu o leiaf yn mynd i redeg yn yr awyr iach fel fy mod i’n parhau i allu canolbwyntio ar y dasg.
 

Pwy neu beth sy'n dy ysbrydoli di?

Mae gen i ddiddordeb mawr mewn datblygiad personol ac rwyf wedi sefydlu grŵp yng Nghaerdydd o'r enw Inspirante Business Book Club. Mae llyfrau busnes yn fy ysbrydoli a bob amser yn rhoi syniadau i mi weithio arnyn nhw neu i’w defnyddio yn fy musnes. Ymysg rhai o’m hoff lyfrau mae ‘Traction’ gan Gino Wickman a ‘Legacy’ gan James Kerr.

Mae cerddoriaeth hefyd yn rhoi hwb sylweddol i mi. Does ‘na ddim byd gwell na chanu nerth eich pen i’ch hoff ganeuon wrth yrru’r car, neu ddawnsio’n llawn brwdfrydedd ym mhreifatrwydd eich cegin.

Lle da i fyfyrio, meddwl a bod yn greadigol yw’r awyr agored. Mae anadlu awyr iach wir yn fy helpu i ganolbwyntio a datrys heriau anodd. Yn aml iawn mi fydda i’n ysgrifennu e-byst neu negeseuon blog yn fy mhen yn yr awyr agored.

Mae pobl yn fy ysbrydoli. Mae gen i natur chwilfrydig felly rwy’n hoffi cael gwybod sut mae pobl wedi cyrraedd lle maen nhw heddiw. Yn aml mae eu hanesion yn eithriadol o ddiddorol. Mae pobl ifanc wir yn fy ysbrydoli; ac mae’r ffordd maen nhw’n gweld y byd yn rhyfeddol.

 

Beth yw’r cyngor busnes gorau i ti ei gael?

Gwneud neu beidio â gwneud. Does dim ffasiwn beth â ‘rhoi cynnig arni’. Dydy fy nhad ddim yn ddyn busnes, ac mae un neu ddau o bethau mae wastad wedi’u dweud yn bwysig i mi: os wyt ti’n gwneud dy orau bob dydd all neb ofyn am fwy, a bob amser i fod yn ddiolchgar am yr hyn sydd gen ti.

 

Pa gyngor fyddet ti’n ei roi i rywun sy’n dechrau ym maes busnes heddiw?

·        Cerwch amdani. (Gwnewch gynllun, a daliwch ati.) Gweithredu yw’r prif ffactor.

·        Dylech gydnabod eich cryfderau a gwybod pryd i roi’r gwaith i bobl eraill.

·        Rhaid treulio amser yn datblygu ymddiriedaeth yn eich tîm.

·        Ar y cyfan, bod yn unigolyn dymunol!

  

Beth yw’r peth gorau am fod yn hyfforddwr Rhaglen Cyflymu Twf?

Rwyf wrth fy modd yn gweld y bobl a'r cwmnïau rwy'n gweithio gyda nhw yn tyfu; o ran gwybodaeth, hyder, a sgiliau. Gall pobl wneud pethau anhygoel os byddwch chi’n eu rhoi ar ben ffordd ac yn caniatáu iddynt fwrw ymlaen.  
 

Yn dy farn di, beth yw’r peth pwysicaf y mae’n rhaid i fusnesau ei wneud er mwyn tyfu?

Mae sawl peth, ond y pwysicaf yw aliniad y sylfaenydd, y tîm a’r prosesau busnes â’r weledigaeth, y genhadaeth a gwerthoedd y busnes. Hynny yw, cael ‘Seren y Gogledd’ glir. Bydd dechrau â’ch dyhead, eich pwrpas, neu eich rheswm hirdymor yn eich helpu i godi allan o’r gwely ar fore oer a thywyll yng nghanol y gaeaf, ac yn sicrhau bod eich tîm yn symud i’r un cyfeiriad.



Dysgwch ragor am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP).

Share this page

Print this page