Mae gan Gymru hanes blaenorol cadarn o gynhyrchu a meithrin labeli ffasiwn o ansawdd uchel. Mae nifer o frandiau blaenllaw byd-eang naill ai wedi cael eu sefydlu yng Nghymru neu mae ganddynt bresenoldeb gweithgynhyrchu yng Nghymru – Laura Ashley, Toast, Burberry, Hiut Denim a JoJo Maman Bébé i enwi ond rhai.

Yn dilyn ôl troed y traddodiad hwnnw y mae Mabli brand sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd sy’n profi llwyddiant mewn marchnadoedd tramor.

Yma, mae’r sylfaenydd, Lisa Roberts, yn esbonio sut y gwnaeth hi droi ei gweledigaeth ar gyfer label ffasiwn yn fusnes llewyrchus sy’n allforio’n fyd-eang. Mae’n rhannu’r gwersi y mae hi wedi eu dysgu ar hyd y daith.

 

Rhowch ychydig o hanes Mabli.
Iawn, dyma ychydig amdanaf i’n gyntaf. Mae gen i gefndir creadigol – roeddwn i’n gweithio fel dylunydd ffasiwn pan benderfynais fy mod i wir eisiau arwain fy nghwmni fy hun, gan wneud pethau dw i’n eu dylunio.

Roedd yn teimlo fel rhywbeth naturiol i’w wneud. Roedd gen i weledigaeth gref ar gyfer fy mrand, sef cwmni dillad gwau i blant o’r radd flaenaf sy’n defnyddio edafedd naturiol o safon. Roedd Cymru’n ganolog i hunaniaeth y cwmni. Mae bod yn Gymraes yn ysbrydoliaeth gyson i mi ac roeddwn i eisiau i hynny fod yn rhan greiddiol o’r cwmni hefyd.

Nid oedd gennyf unrhyw brofiad ym maes busnes, felly dw i wedi gorfod dysgu wrth imi fynd ymlaen. Mae’n ddyddiau cynnar inni. Ond dw i’n falch o ddweud ein bod wedi dod o hyd i archwaeth fyd-eang am ein cynnyrch. Mae pobl yn hoffi gwybod o ble mae eu cynnyrch yn dod. Mae’n rhywbeth sy’n ein helpu i feithrin ein henw mewn marchnadoedd rhyngwladol. Felly, mae rhai o’n cynnyrch yn cael ei wneud yng Nghymru, yng nghwmni hosanau Corgi yn Rhydaman, ac yn yr Alban.  Hoffem yn fawr pe bai ein holl weithgynhyrchu’n cael ei wneud yn y DU ond nid yw’n bosibl i gael y cynnyrch wedi’i wneud yma a’i werthu ar ein pwyntiau pris.

Bellach rydym yn symud i gyfnod twf newydd gan fod Japan wedi datblygu’n farchnad newydd fawr inni. Rydyn ni wedi cael llawer o gymorth i gyrraedd yma, yn enwedig oddi wrth Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru. Mae hyn yn hynod gyffrous i fi, a dw i’n dysgu Japaneeg i helpu wrth inni archwilio potensial y farchnad enfawr hon. 

Bu’n waith caled dros ben, ond mae’n waith hynod werthfawr hefyd. Ers imi ddechrau’r cwmni, dw i wedi cael dau o blant (yn ogystal â’r un oedd gen i eisoes!). Felly mae bywyd gartref ac yn y gwaith yn eithaf prysur ac mae ganddynt eu heriau eu hunain. Ond mae popeth wedi bod yn werth chweil er mwyn gweld fy mrand yn tyfu ac yn datblygu. Dw i’n gweld cynnyrch dw i’n falch ohono yn cael ei werthu ochr yn ochr â brandiau ffasiwn eraill dw i’n eu hedmygu. Dw i’n llawn cyffro am y dyfodol!

 

 

Beth yr ydych yn fwyaf balch ohono ym maes busnes hyd yn hyn? 
Rydym wedi ennill gwobrau, er enghraifft yn ddiweddar cawsom y wobr aur yng Ngwobrau Dylunio Junior Magazine ar gyfer Ffasiwn gorau’r DU. Ac mae hynny’n wych. Mae ennill pethau a chael ein cydnabod am y gwaith rydym wedi’i wneud yn rhywbeth sy’n golygu gymaint imi.

Ond yr hyn dw i’n fwyaf balch ohono yw gwybod bod pobl yn caru’r pethau dw i’n dylunio. Ac mae ein cynnyrch yn y siopau ochr yn ochr â brandiau dw i wastad wedi eu hedmygu. Mae’n anodd dychmygu hynny’n digwydd go iawn pan rydych chi’n dechrau ar eich liwt eich hun ym myd ffasiwn. Ond mae cyflawni hynny yn gwneud y cyfan mor werth chweil.

 

Pa heriau rydych chi wedi eu hwynebu ym maes busnes?
Mae COVID-19 wedi cael effaith enfawr ar y ffordd rydym yn gweithredu. Pan wnaeth y pandemig daro’r DU, gwnaethom benderfynu dod â dosbarthu yn ôl yn fewnol ac adeiladu tîm mwy yma. Gwnaeth ein llwyth haf gyrraedd ar yr un diwrnod, felly roedd yn golygu ein bod yn hynod o brysur, gan drin 10,000 o eitemau o stoc! Gwnaeth ein cronfa gwsmeriaid draddodiadol dawelu’n sydyn ond yna agorodd marchnad newydd yn Japan inni a gwnaethom gynyddu ein gwerthiant bedair gwaith o’i gymharu â’r llynedd. 

Bu’n flwyddyn wahanol iawn, heb unrhyw sioeau masnach ac mae’r farchnad yn symud fwyfwy ar-lein. Mae’r sector wedi bod yn ddynamig iawn drwy gydol 2020. Rydym wedi gorfod adlewyrchu’r ddynameg honno yn y ffordd rydym yn gweithredu hefyd.

 

Pe baech chi’n dechrau eto o’r dechrau un, beth fyddech chi’n ei wneud yn wahanol?
Os dw i’n meddwl amdano, mae llwyth o bethau y gallwn i wneud yn wahanol. Ond os nad ydych chi’n trïo pethau dydych chi byth yn dysgu. Serch hynny, byddwn i’n dweud y dylech gael cyngor cyn gynted â phosibl.

 

 

Sut mae cymorth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi helpu eich busnes?
Mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi bod yn hanfodol i hanes ein cwmni mewn sawl ffordd. Mae gweithio gyda Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi helpu i osod trywydd a strwythur y cwmni ac wedi ein helpu i feddwl fel busnes a datblygu cynlluniau twf ar gyfer Mabli.

Nid oedd gen i syniad gwirioneddol sut i dyfu a chreu busnes pan wnes i droi at Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru. Gwnaeth y rhaglen gynnig cymorth imi drwy hyfforddwyr da a fu’n helpu gyda strwythuro, prisio, cyflogi staff ac e-fasnach.


Dw i’n rheoli’r holl ddylunio, cadwyn gyflenwi, marchnata a dosbarthu  – felly dw i’n eithaf prysur, ond dw i bellach yn adeiladu tîm. Mae gen i weledigaeth gref ar gyfer Mabli, ac mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi rhoi ffocws imi.

 

Pa gyngor ac arweiniad byddech chi’n eu rhoi i fusnesau newydd eraill?

  • Os ydych yn credu ynoch chi eich hun, canolbwyntiwch ar yr hyn rydych chi eisiau ei wneud. Cyngor da ges i’n gynnar iawn oedd os ydych chi’n creu pethau rydych chi’n credu ynddynt, bydd yr elw yn dilyn. Canolbwyntiwch ar eich gweledigaeth yn gyntaf. 
  • Holwch am gyngor ond cofiwch mai chi fydd yn teimlo canlyniadau unrhyw gamau y byddwch yn eu cymryd.
  • Mae allforio wedi datblygu’n hynod bwysig i Mabli. Os ydych chi’n credu y bydd eich busnes yn elwa ar gael mynediad at farchnadoedd rhyngwladol, dysgwch sut allwch chi fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd sydd ar gael yno.


Dysgu mwy am Mabli.
 

Dysgwch ragor am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP).

Share this page

Print this page