Un o’r dwsinau o fusnesau sydd wedi derbyn cymorth i dyfu ac i ffynnu drwy Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yw Health & Her.

Mae Health & Her yn blatfform ar-lein sy’n grymuso menywod i drin a lliniaru symptomau’r menopos. Mae’r platfform, a sefydlwyd gan Kate Bache a Gervase Fay, yn gwerthu amrediad o gynhyrchion wedi eu dewis yn ofalus gan gynnwys atchwanegiadau, llyfrau, deunyddiau gofal croen, dyfeisiau ac offer ar gyfer y cartref. Yn ogystal mae’n darparu gwybodaeth gan arbenigwyr i helpu i liniaru effeithiau corfforol, seicolegol a chymdeithasol y menopos.

Yma mae Kate Bache yn rhannu hanes y cwmni, yn cynnig cymorth i eraill sydd ar fin dechrau busnes – ac yn edrych ymlaen at ddyfodol llwyddiannus. 

 

Dywedwch ychydig am Health & Her.
Yn gyntaf dyweda’ i ychydig am Gervase a finnau. Rydyn ni’n frwd dros wneud gwahaniaeth i iechyd menywod. Rydyn ni hefyd yn frwd dros greu busnesau llwyddiannus. Dyma’r ddau sbardun sydd y tu ôl i Health & Her.

Mae gan Gervase dros ddeg mlynedd o brofiad mewn sefydliadau arweiniol, gan gynnwys Reckitt Benckiser, Tesco, Nutricentre a Superdrug.

Gan ddefnyddio ei phrofiad o werthu a phrynu yn y sector manwerthu, yn ddiweddaraf mae Gervase wedi bod yn helpu busnesau yn y sector iechyd a lles i ddatblygu a chystadlu â manwerthwyr mawr. Mae ei rôl fel prif brynwr Nutricentre yn rhoi sail ragorol ar gyfer Health & Her.

Yn wreiddiol cymhwysais i fel fferyllydd cyn symud yn gyflym i rolau masnachol. Bues i mewn uwch swyddi marchnata ac arloesi yn gweithio ledled Ewrop ac Awstralasia ar gyfer Reckitt Benckiser, Kellogg's a PepsiCo. 

Yn ddiweddarach gwnes i sefydlu brand gofal menywod newydd o’r enw KIND organic, a gadael y busnes i ffynnu ar ei ben ei hun.

Gwnaethon ni sefydlu Health a Her i alluogi menywod i deilwra cyngor a chynhyrchion i’w symptomau. Roedden ni hefyd am greu ffynhonnell gyfoethog o ddata dienw, i’n helpu i ddatblygu cynhyrchion arloesol i wella iechyd menywod yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Ein nod yw cynnig yr arbenigedd gorau yn y byd ar y menopos, drwy sicrhau y gall menywod gael y cyngor gorau a dod o hyd i ddatrysiadau blaengar i wella eu llesiant.

 

 

Beth fu eich testun balchder mwyaf ym myd busnes hyd yma?
Pan oedden ni’n codi arian yn y rownd ddiwethaf o fuddsoddiadau, cawson ni 175% mwy nag oedd ei angen. Rydyn ni’n falch iawn o hynny. Rhaid ein bod ni’n gwneud rhywbeth yn iawn!

Yn ogystal, cafodd ein gwaith ei gydnabod gan Wobrau eCommerce yn Llundain, lle enillon ni’r wobr am y wefan Iechyd a Harddwch orau. Roedd yn foddhaol iawn gweld ein gwaith yn cael ei gydnabod yn y ffordd hon.

 

Pe baech yn dechrau o’r dechrau unwaith eto, beth fyddech chi’n ei wneud yn wahanol?
Mae ein busnes yn rhy ifanc i feddwl am beth fydden ni’n ei wneud yn wahanol. Ar hyn o bryd rydyn ni’n llawn cyffro ynghylch dyfodol y cwmni – felly dydyn ni ddim yn edrych yn ôl!

 

Sut mae cymorth drwy Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi helpu eich busnes?
Mae ein cwmni yn fach ond rydyn ni’n tyfu. Rydyn ni eisoes wedi ehangu ein gweithlu diolch i’r cyngor a roddwyd inni drwy Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.

Rhoddodd Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru arbenigedd gwerthfawr inni sydd wedi galluogi’r busnes i nodi a manteisio ar gyfleoedd newydd.

Y cymorth hwn oedd y sbardun ar gyfer ceisio cyfleoedd newydd fel buddsoddiad ecwiti gan Fanc Datblygu Cymru a buddsoddiad gan Angel Cofund – dau beth sydd wedi’n helpu ni i dyfu a datblygu.

O ganlyniad rydyn ni wedi creu pedair swydd amser llawn newydd ac eisoes wedi cynyddu allforion 5%.

 

 

Pa gyngor ac arweiniad byddech chi’n eu rhoi i fusnesau eraill sy’n cychwyn heddiw?

● Dychmygwch lwyddiant a chreu bwrdd teimladau – pan fydd pethau i’w gweld yn wael, bydd hyn yn rhoi ysbrydoliaeth ichi

● Canolbwyntiwch ar un cwsmer ac un cynnyrch

● Gwnewch yn siŵr eich bod yn casglu data a bod y data hwn yn ganolog i’ch busnes a’ch penderfyniadau

● Byddwch yn ffyslyd pan fyddwch yn recriwtio staff – mae agwedd yn bwysicach na phrofiad bob amser

● Nodwch eich gwendidau a recriwtio staff a fydd yn helpu gyda'r rhain

 

Dysgu mwy am Health and Her.
 

Dysgwch ragor am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP).

Share this page

Print this page