O bryd i’w gilydd mae angen i’r cwmnïau mwyaf uchelgeisiol sy’n tyfu, hyd yn oed, wneud rhywbeth ychydig yn wahanol er mwyn sicrhau busnes mewn amgylchedd byd-eang cystadleuol.

Mae Amplyfi, sydd â’i bencadlys yng Nghaerdydd, yn enghraifft wych o’r gwaith caled mae angen ei wneud yn aml er mwyn sicrhau bod cwmni’n meddu ar y fantais gystadleuol sydd ei hangen arno i lwyddo.

Mae Amplyfi wedi cael cefnogaeth drwy Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, a gweithiodd y cwmni gydag arbenigwyr y rhaglen i ennill achrediad ISO i helpu gyda’i dargedau twf. Mae’r Rhaglen Cyflymu Twf yn darparu cefnogaeth a dargedir i fusnesau uchelgeisiol sy’n tyfu. Mae’r rhaglen wedi’i hariannu yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

 

 

Yma, mae Rony Seamons o Amplyfi yn siarad â ni am y broses o sicrhau achrediad ISO, ac yn rhoi sylw i’r gefnogaeth amhrisiadwy a gafodd y cwmni gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru ar hyd ei daith tuag at wneud hynny.  

 

Dywedwch wrthyn ni am Amplyfi
Mae Amplyfi yn gwmni meddalwedd sy’n darparu gwybodaeth fusnes i sefydliadau mawr. Rydyn ni’n cyflenwi’r dechnoleg drwy gynnig Meddalwedd fel Gwasanaeth (SaaS), lle mae ein holl gynhyrchion yn cael eu cyflenwi drwy’r cwmwl. Mae ein pencadlys yng Nghaerdydd, ac mae ein tîm yn cynnwys 50 o aelodau yn fyd-eang. Byddwn ni’n gweithredu gydag unrhyw sector bron – mae ein cwsmeriaid mewn diwydiannau mawr ym meysydd cyllid, ynni, fferylliaeth a llawer mwy. Rydyn ni mewn cyfnod cyffrous iawn yn ein datblygiad – diolch, i raddau helaeth, i’r cymorth a’r arbenigedd a ddarparwyd gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru. 

 

Beth yw’r pethau rydych chi fwyaf balch ohonynt mewn busnes hyd yn hyn?
Er mwyn mynd i wraidd y cwestiwn hwn, dw i’n meddwl bod angen imi rannu trosolwg o’r sefyllfa roedden ni ynddi a’r hyn rydyn ni’n anelu at fod. 

Rydyn ni’n fusnes bach, fel y soniais i gynt, ac er bod 50 o bobl yn ein tîm, mae gennyn ni uchelgeisiau i adeiladu ar hyn. Rydyn ni eisiau i Amplyfi dorri i mewn i farchnadoedd newydd, a gweithio gyda busnesau mawr, rhyngwladol. Ond un o’r prif rwystrau bu’n rhaid inni ei oresgyn oedd y prosesau diwydrwydd dyladwy cymhleth iawn ar gyfer caffael a chadwyni cyflenwi mae busnesau mwy o faint yn eu defnyddio i ddewis partneriaid a chyflenwyr. Mae gan y rhan fwyaf o’r cwmnïau mawr hyn brosesau caffael hirsefydlog sy’n gallu atal gwerthiant rhag mynd yn ei flaen os nad yw eu meini prawf yn cael eu bodloni.

 

Mae un o’r prif feini prawf maen nhw’n canolbwyntio arno yn ymwneud â systemau rheoli ansawdd a diogelwch data ac, am resymau amlwg, mae ganddyn nhw ddisgwyliadau uchel iawn – a gall hyn naill ai sicrhau bod caffaeliad yn digwydd, neu ei atal. Fel arfer, ar ddechrau’r broses gaffael, mae holiadur hir i’w gwblhau sy’n gofyn am lawer o fanylion ynglŷn â systemau rheoli ansawdd a sut rydyn ni, fel cwmni meddalwedd, yn rheoli diogelwch data. O safbwynt cwmni â thîm bach, byddai’r broses hon yn cymryd amser ac adnoddau gwerthfawr i’w chwblhau, ond gwnaethon ni sylweddoli y gallen ni arbed llawer o amser pe bai gennyn ni achrediad a gydnabyddir yn y diwydiant yn y maes hwn, ac y byddai’r llwybr caffael yn dod yn symlach o lawer.

Barnwyd mai ISO oedd y corff dyfarnu mwyaf perthnasol ar gyfer y gwaith rydyn ni’n ei wneud a’r diwydiannau rydyn ni’n gweithio gyda nhw.  

 

Oherwydd hyn, gwnaethon ni gysylltu â’n Rheolwr Perthynas yn Busnes Cymru ar gyfer y Rhaglen Cyflymu Twf i weld a fyddai unrhyw gefnogaeth ar gael inni er mwyn goresgyn y rhwystrau hyn. Bu’n hwb go iawn inni pan gawson ni wybod bod mentor arbenigol ISO ar y rhaglen, felly cafodd y cysylltiad ei wneud.  

O’n safbwynt ni, yn ystod y trafodaethau cynnar hynny gyda’n Rheolwr Perthynas, roedd yn hynod bwysig ein bod yn gallu esbonio a dangos y rhwystrau roedden ni’n eu hwynebu, ac egluro gwerth eu goresgyn nhw i’r busnes o ran sicrhau twf masnachol yn y dyfodol.  

 

Mae ein Rheolwr Perthynas wedi gweithio mewn sefydliadau mawr ac roedd e’n deall pa mor anodd mae’n gallu bod i fusnes bach lywio prosesau caffael. Fe wnaeth e gydnabod yr effaith sylweddol y byddai ennill achrediad ISO yn ei chael ar y busnes a daeth o hyd i hyfforddwr inni. Heb os, er nad yw’n arbenigwr yn y maes, fe oedd yr union berson cywir i weithio gyda busnes fel ein hun ni. Roedd e wedi gweithio mewn diwydiannau sy’n datblygu’n gyflym ac yn deall y cyfyngiadau roedden ni’n gweithio o danynt o ran adnoddau. Mae wedi bod yn gaffaeliad gwych inni, ac rydyn ni i gyd wedi dysgu llawer iawn. 

 

Pa heriau rydych chi wedi’u hwynebu mewn busnes?
Mae’n sicr yr oedden ni wedi bwrw maen tramgwydd o ran ennill achrediad ISO, cyn inni weithio gyda Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru. Bydd y manteision yn sgil sicrhau’r achrediad o fri hwnnw yn cryfhau ein busnes ac yn gosod llwyfan gadarn er mwyn inni dyfu. Er y bu’r broses yn heriol, mae hefyd wedi rhoi cyfle inni gynllunio ar gyfer dyfodol cyffrous. 

 

Pe byddech chi’n dechrau o’r newydd, beth fyddech chi’n ei wneud yn wahanol?
Rydyn ni wedi dysgu llawer iawn o wersi. Bydden ni’n bendant wedi penodi tîm yn cynnwys pobl o bob un o’r swyddogaethau busnes perthnasol i weithio ar sicrhau achrediad ISO. Byddai hyn wedi helpu i rannu’r baich o baratoi’r holl dystiolaeth a byddai hefyd wedi helpu i rannu’r arbenigedd. 

I arbed ychydig o amser, gwnaethon ni ymchwilio i ofynion y dystysgrif ISO a cheisio casglu’r dystiolaeth berthnasol ynghyd. O edrych yn ôl, dw i’n meddwl y bydden ni wedi aros am ymgynghoriad cychwynnol â’r mentor ISO. Mae ganddyn nhw brofiad eang iawn yn y maes hwn ac roedden nhw wedi datblygu proses effeithlon iawn i’w dilyn. O ganlyniad, bu’n rhaid inni ddadwneud rhywfaint o’n gwaith er mwyn dilyn proses a fyddai’n ei gwneud yn rhwyddach ennill yr achrediad. 

 

Un peth arall a fyddai wedi bod yn fanteisiol i’r broses hon – ac i’r busnes ei hun yn sgil hynny – yw pe bydden ni wedi cyflwyno offeryn rheoli prosiectau gwell er mwyn helpu i reoli’r holl waith sydd ei angen ar gyfer arolygiad ISO. Mae angen ymdrin â llawer o gymalau ar gyfer tystysgrif 9001 a thystysgrif 27001, sy’n golygu bod llawer o dystiolaeth i’w chasglu o bob rhan o’r busnes. 

Ers hynny, rydyn ni wedi cyflwyno byrddau Trello er mwyn rheoli’r broses gyfan, ac mae hynny’n ei gwneud yn bosibl inni weld y darlun cyfan o ran pwy sy’n arwain pa faes a’r hyn mae angen ei gwblhau. 

 

Ar y dechrau, wnaethon ni ddim dweud bod gennyn ni achrediad ISO nes ein bod ni ymhell i mewn i’r broses gaffael, a golygai hynny fod rhywfaint o’r gwerth masnachol yn cael ei golli. Rydyn ni bellach yn rhoi sylw i hyn cyn gynted â phosibl yn y broses werthu, ac yn rhoi sicrwydd o ansawdd a diogelwch ein gwaith drwy sôn am ein dwy dystysgrif ISO yn ystod cyfarfodydd gwerthu cychwynnol. Mewn marchnad hynod gystadleuol, ac fel sefydliad cymharol anhysbys, rhoddodd y tystysgrifau hyn a gydnabyddir gan ddiwydiant ddilysrwydd, a sicrwydd a ein bod yn sefydliad proffesiynol iawn. 

 

Sut mae cefnogaeth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi helpu eich busnes?
Mae’r gefnogaeth a’r arbenigedd rydyn ni wedi gallu elwa arno drwy Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi bod heb ei ail. ’Dyw nodi y bu’r gwasanaeth yn wych ddim yn gor-ddweud pethau. Cawson ni 18 diwrnod o gefnogaeth gan Brian Taylor o ISOGuy, a’n helpodd i ennill achrediad ISO 9001 ac ISO 27001. Rydyn ni bellach yn barod i dargedu marchnadoedd newydd cystadleuol iawn, o ganlyniad uniongyrchol i’r gwaith rydyn ni wedi’i wneud gyda Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru. 

 

Pa gyngor y byddech chi’n ei roi i fusnesau eraill sydd ar ddechrau’r broses? 

  • Dewch o hyd i fentor nad yw’n arbenigwr yn ei faes ei hun yn unig, ond sydd hefyd yn cydweddu’n dda â’ch busnes yn ddiwylliannol. 
  • Defnyddiwch offeryn rheoli prosiectau fel Trello i reoli’r broses. 
  • Sefydlwch dîm ISO i gwmpasu’r holl waith, ond sicrhewch eich bod bob amser yn penodi un person i arwain y gwaith. 
  • Sicrhewch eich bod yn cyfleu’r rheswm dros gael y tystysgrifau ISO i’r sefydliad cyfan – mae hyn yn helpu i ennyn cefnogaeth gan bob aelod o’r tîm. 
  • Defnyddiwch yr achrediad fel pwynt gwerthu, a hynny cyn gynted â phosibl yn ystod y cylch gwerthu. 

     

Mae rhagor o wybodaeth am Amplyfi ar gael yma


Rhagor o wybodaeth am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.



 

A picture containing graphical user interface

Description automatically generated

 

Mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yn rhaglen Cymru gyfan sydd wedi ei hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Share this page

Print this page