O ddechrau cyffredin mewn gwerthiannau cist car ar benwythnosau i fod yn un o brif gwmnïau anrhegion cyfanwerthu'r DU, mae Something Different Wholesale yn stori lwyddiant wirioneddol entrepreneuraidd.

Mae'r cwmni o Abertawe yn dylunio, datblygu a dosbarthu miloedd o anrhegion sy'n gwerthu'n gyflym a chynnyrch poblogaidd i fanwerthwyr o bob maint yn y DU a ledled y byd. Mae llwyddiant y cwmni yn adlewyrchu gwaith caled ac arweinyddiaeth ei sylfaenydd, Jane Wallace-Jones, a balchder ei staff yn y busnes, sydd wedi bod yn gweithredu ers dros ddau ddegawd.

Mae Something Different Wholesale wedi cael ei gefnogi drwy Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP). Mae'r AGP yn darparu cefnogaeth wedi'i thargedu ar gyfer cwmnïau sy'n tyfu'n uchelgeisiol. Ariennir y rhaglen yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.

 

Jane Wallace-Jones sy'n dweud wrthym am ei thaith fusnes a sut mae ei hangerdd wedi ei hysgogi i ddatblygu a thyfu ei brand.

 

 

Dywedwch wrthym am Something Different Wholesale
Dwi ddim yn meddwl fy mod yn gor-ddweud i ddatgan fy mod yn entrepreneur greddfol. Cyn dechrau Something Different Wholesale, roeddwn yn masnachu mewn arwerthiannau cist car ac yn ddiweddarach mewn marchnadoedd. Nawr mae gan fy musnes drosiant dros £10 miliwn – yn bell iawn o brynhawniau hir, gwlyb yn gwerthu pethau o fŵt fy nghar! Serch hynny, bu'n brofiad gwefreiddiol. Dwi wrth fy modd yn rhedeg busnes, gosod nodau i mi fy hun a goresgyn heriau ar hyd y ffordd. Mae bod yn arweinydd busnes yn ymwneud â datrys problemau cyson, ac er y gallwch  wneud hynny ar eich pen eich hun, rwy'n credu bod adeiladu tîm cadarn o'ch cwmpas yn hanfodol.

Mae fy nghymhelliant a'm penderfyniad yn profi bod unrhyw beth yn bosib. Mae goresgyn dyslecsia wedi bod yn un o fy llwyddiannau personol pwysicaf, ond rwy'n gwrthod gadael iddo fy nal yn ôl. Yn hytrach, rwy'n ei ystyried yn un o'm cryfderau oherwydd ei fod wedi fy nysgu i addasu a bod yn agored i ddysgu sgiliau gwahanol i fanteisio ar gyfleoedd.

 

Dwi wastad wedi bod yn dda gydag anrhegion ac mae gennyf ddiddordeb mewn  gwerthu, ac ar ddiwedd y 1990au, gwelais gyfle ym mhen cyfanwerthu'r sector rhoddion. Cefais warws 5,000 troedfedd sgwâr ym Maglan yng Nghastell-nedd Port Talbot gyda model syml. Prynais swm fawr o stoc gan fewnforwyr a gweithgynhyrchwyr eraill, ei gadw yn y warws a'i ddefnyddio i gyflenwi fy nghadwyn o stondinau marchnad tra'n cynnig gwasanaeth talu a chario i gwsmeriaid lleol.

 

Roedd hyn yn ystod cyfnod cynnar y we ac rwy'n falch imi ei ddefnyddio yn gynnar iawn, gan lansio ein gwefan efasnach Busnes i Fusnes ar-lein cyntaf, Somethingdifferentwholesale.co.uk, ym 1999. Yn fuan iawn daethom yn arweinydd y sector a chawsom lwyddiant dros nos bron, oedd yn golygu ein bod wedi profi twf cyflym.

Rydym bellach yn cynllunio ac yn datblygu cynnyrch ar gyfer manwerthwyr o bob maint ar draws y DU, Ewrop ac ar draws y byd. Mae gennym dros 3,000 o eitemau ar gael i'w dosbarthu y diwrnod nesaf a rydym yn gweithio'n agos gyda'n cadwyn gyflenwi ddibynadwy i gynnig cynhyrchion unigryw am brisiau cystadleuol.

 

Dwi ddim yn meddwl, fel busnes, y gallwch chi fyth sefyll yn eich hunfan; mae'n rhaid i chi fod yn barod am newid. Felly rydym yn esblygu'n gyson ac wedi buddsoddi mewn technoleg i awtomeiddio'r prosesau archebu a danfon, gan sicrhau'r effeithlonrwydd mwyaf.

Fel y dywedais, rydym wedi dod yn bell ers dechrau. Ond dydi hi ddim yn teimlo mor bell yn ôl imi weithio'n galed mewn gwerthiannau cist car ac ar stondinau marchnad ar brynhawniau oer y gaeaf! Heddiw, rydym yn cael ein cydnabod fel un o'r mewnforwyr anrhegion mwyaf y DU, gan gyflenwi mwy na 25,000 o gwsmeriaid ledled y byd.

 

Pryd oeddech fwyaf balch o’ch busnes hyd yma?
Mae bod mewn busnes yn golygu gwaith caled, ac mae digon o wobrau. Ar yr ochr ariannol, roedd torri'r rhwystr trosiant £1 miliwn yn foment enfawr i mi, yn enwedig ar ôl blynyddoedd pan oeddem yn cael trafferth mynd y tu hwnt i'r marc £750,000.

Mae gweld y busnes yn datblygu wedi rhoi'r fath ymdeimlad o falchder i mi. Mae gen i dîm gwych o unigolion talentog wrth fy ochr.  Mae ochr emosiynol i lwyddiant hefyd, gan eich bod yn dod â phobl gyda chi. Mae pobl yn meddwl am entrepreneuriaid fel unigolion, ond mae'r rhai gwych yn gwybod mai tîm yw’r gyfrinach.

 

Pa heriau ydych chi wedi eu hwynebu ym myd busnes?
Taflodd y pandemig ystod o heriau i ni fel cyfanwerthwr. Rhoddodd gweld yr economi fyd-eang yn cau i lawr bron dros nos sioc fawr inni.

Fodd bynnag, rydym wedi sicrhau y gall y cwmni wrthsefyll adegau anodd. Rydym yn deall bod gennym gyfrifoldebau fel cyflogwr hefyd, felly roedd cynnwys y cryfder sylfaenol hwnnw yn y busnes yn hanfodol ar gyfer digwyddiadau economaidd annisgwyl. Rhan hanfodol o'r gwytnwch hwnnw yw deall ein lle yn y byd a chydnabod ein cyfrifoldebau amgylcheddol.

 

Ers y pandemig, mae twf wedi bod yn gyflym, ac yn 2022 cwblhawyd proses ehangu i warws 150,000 troedfedd sgwâr. Hefyd, rydym bellach yn gosod nifer helaeth o baneli solar, a fydd yn cynhyrchu ein hanghenion ynni ein hunain ac yn dod yn ffrwd cynhyrchu incwm ohono ei hun. Erbyn haf 2023, amcangyfrifir y bydd hyn yn cynhyrchu 1,000,000 KW.

 

Petaech chi'n dechrau eto, beth fyddech yn ei wneud yn wahanol?
Byddwn wedi chwilio am fentoriaid busnes yn gynharach i ddatblygu fy sgiliau busnes. Byddai hynny wedi golygu goresgyn rhwystrau cynnar yn ein busnes gymaint cyflymach.

Mae bod yn wylaidd pan mae'n brosiect personol yn gallu bod yn heriol. Fodd bynnag, mae'n rhaid i chi fod yn agored i arbenigedd a help allanol, a all ddarparu safbwyntiau newydd i'ch helpu i dyfu. Ac mae hynny'n dod â fi at ein gwaith gyda Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.

 

Sut mae cefnogaeth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi helpu eich busnes?
Pan ymunon ni â Rhaglen Cyflymu Twi Busnes Cymru, roeddwn i'n amheus o werth cyngor allanol, ond mae'r rhaglen wedi profi ei gwerth.

Rydym wedi elwa'n aruthrol o weithio gyda rheolwyr perthynas a hyfforddwyr arbenigol i ddarparu atebion i heriau sy'n esblygu wrth i ni dyfu. Ond, wrth gwrs, mae'r gefnogaeth hon wedi newid dros y blynyddoedd wrth i'r amgylchedd busnes a masnachu newid. 

 

Rydyn ni wedi elwa ar ystod eang o gymorth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru. Mae'r rhaglen wedi ein helpu gyda trefnu a logisteg warysau er mwyn sicrhau effeithlonrwydd, cynhyrchiant, cynllunio, a mesur. Bu cefnogaeth hefyd ym maes marchnata, e-fasnach, TG a defnyddio Amazon i ddiogelu'r brand ond heb gystadlu â chwsmeriaid.

Bu i Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru hefyd ein helpu i sicrhau arian o Gronfa Cydnerthedd Brexit, oedd yn golygu y gallem symud i werthiant uniongyrchol a chyflawni archebion ar ran ein cwsmeriaid.  

Mae hyn i gyd wedi bod yn hanfodol i'n twf a'n datblygiad diweddar.

 

Pa gyngor ac arweiniad fyddech chi'n ei roi i fusnesau eraill ddechrau?

• Edrychwch am ffynhonnell cyngor dibynadwy, fel Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, yn gynnar yn eich taith.  

• Mae cynllunio trylwyr yn hanfodol.

• Mae hunanddisgyblaeth yn nodwedd sydd, yn fy marn i, yn allweddol i arweinwyr busnes a'r tîm o'ch cwmpas.

• Mae'n rhaid i chi fod yn gyson âch tîm, fel eu bod yn dilyn eich esiampl.


 

I ddysgu mwy am Something Different Wholesale, ewch i fan hyn.

Rhagor o wybodaeth am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.


 

A picture containing graphical user interface

Description automatically generated

 

Rhaglen ledled Cymru a ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru yw Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.

Share this page

Print this page