Mae’n swnio fel chwedl o’r byd busnes – y prentis sy’n dechrau ar lawr y ffatri cyn dod yn rheolwr gyfarwyddwr yn y pen draw. 

Ond dyna yn union a ddigwyddodd yn Industrial Door Services (IDS), sydd wedi ei leoli yng Nghasnewydd, pan ddaeth Floyd Manship i reoli’r cwmni ar ôl dringo drwy’r rhengoedd i arwain y busnes pan wnaeth sylfaenydd y cwmni gamu i lawr. 
 

Wedi ei sefydlu yn 1987, dechreuodd IDS weithgynhyrchu drysau rholio diwydiannol sylfaenol. Dros y blynyddoedd canlynol, gyda buddsoddiadau mewn datblygu cynnyrch, datblygodd y cwmni amrediad mwy cynhwysfawr o gynnyrch. Yna, cyflwynodd y cwmni fwy o ddrysau i gyd-fynd â gwahanol ddefnyddiau ac amgylcheddau.  

Mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi cefnogi IDS. Mae’r rhaglen yn darparu cymorth wedi ei dargedu ar gyfer cwmnïau uchelgeisiol sy’n tyfu. Caiff ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. 

 

 

Dyma Floyd Manship yn egluro sut mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi cefnogi twf y cwmni ac yn rhannu ei hanes – o fod yn brentis i fod yn rheolwr gyfarwyddwr. 

 

Dywedwch wrthym am IDS
Pan wnes i gnocio ar ddrws Industrial Door Services 24 mlynedd yn ôl er mwyn siarad â’r rheolwr gyfarwyddwr bryd hynny ac i’w holi am brentisiaeth, freuddwydiais i erioed y byddwn yn berchen ar y busnes ryw ddiwrnod ac y byddwn yn ei wneud hyd yn oed yn fwy, ac yn fwy proffidiol! Ond gyda’r gnoc gyntaf honno, dechreuais ar daith i fod yn berchen ar gwmni sy’n cynhyrchu drysau diwydiannol i gleientiaid fel Rolls Royce, Carchardai EF, y Llu Awyr Brenhinol a BBC Securicor, a llawer iawn mwy. 

Rydym yn gwneud ac yn rhoi gwasanaeth i gynnyrch uchel eu safon, ac rydym wedi cyflawni ein nod o ddod yn arweinydd yn ein sector. Mae pawb yma yn IDS yn falch o’n hamrywiaeth o achrediadau Systemau Rheoli Gwasanaeth Achredu’r Deyrnas Unedig (UKAS) - ISO 9001 (Rheoli Ansawdd), ISO 14001 (Amgylcheddol) ISO 45001 (Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol). 
 

 Byddwn yn disgrifio fy hun fel "bachgen oddi ar strydoedd Betws, Casnewydd"! Symudais yn sydyn i fyny drwy rengoedd y busnes, ac rwyf wedi gweithio ym mhob maes bron. Mae datrys problemau yn dod yn naturiol i mi ac o ganlyniad i fy agwedd o ran fy ngwaith, gofynnodd y perchennog i mi a hoffwn brynu’r busnes ryw ddydd. 

Yn y fantol bryd hynny oedd swyddi fy nghydweithwyr medrus, gan fod parti arall am brynu’r brand a dod â’r gwaith gweithgynhyrchu i ben. Rydym bellach yn cyflogi 35 o bobl. Mae’r gweithlu hefyd yn fwy amrywiol.    
 

Fi yw’r cyntaf i gyfaddef nad oedd gen i unrhyw sgiliau rheoli busnes, yn enwedig o ran rheolaeth ariannol. Fodd bynnag, mae cymorth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi fy nghynorthwyo i ddatblygu fel rheolwr a phroffesiynoli’r busnes.   

Mae gennym ddyletswydd uchel o ofal tuag at ein gweithwyr ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd. Rwy’n teimlo’n angerddol dros uwchsgilio’r gweithlu ac rwyf wedi buddsoddi mwy na £40,000 i helpu staff i gyflawni cymwysterau newydd. Rwy’n arbennig o falch bod aelodau o’r tîm sydd wedi bod yma am gyfnod hir o amser wedi manteisio ar y cyfleoedd dysgu hefyd. Rydym wedi arloesi o ran cynllunio olyniaeth ac mae gennym brentisiaid mewn sawl adran o fewn y busnes. 

Mae dyfodol disglair o flaen IDS, ac heb swnio’n rhy ailadroddus, rydym yn falch iawn o’n hanes hefyd.

 

Beth ydych chi fwyaf balch ohono o ran y busnes hyd yma?
Mae’r ffordd rydym wedi amrywio ein gweithlu a dod â mwy o fenywod i mewn i’r busnes yn rhywbeth sydd yn fy ngwneud yn fodlon iawn. Yn sgil hyn, mae diwylliant y cwmni wedi newid. Rydym hefyd yn rhoi cyfle i’r bobl ifanc gael gyrfa addawol. Rhywbeth arall rydym wedi llwyddo i’w wneud yw ennill contractau a gollwyd yn ôl, gan fy mod wedi sicrhau bod y busnes yn gwrando ar ei gwsmeriaid ac yn gwella o ganlyniad i hynny. 

Mae nifer y bobl yn y cwmni sydd yn dilyn hyfforddiant sgiliau achrededig wedi cynyddu, ac mae’r gwelliant hwnnw yn sgiliau’r staff wedi dod â balchder mawr i mi. Mae’n wych gweld datblygu proffesiynol yn digwydd ym mhob rhan o’r busnes. 

 

Pa heriau ydych chi wedi eu wynebu mewn busnes?
Yn gyntaf, rwy’n credu bod fy niffyg sgiliau busnes, yn enwedig yn ariannol, wedi bod yn her. Ond rwy’n dysgu’n gyflym – roedd rhaid i mi! – ac rwy’n barod i gymryd cyngor  a chael fy nysgu. Roedd heriau eraill yn cynnwys dysgu i gydbwyso gwerthu gyda chapasiti’r busnes i gynhyrchu a darparu gwasanaeth. Fe wnaeth strategaeth oedd yn canolbwyntio ar werthu achosi straen ar y gweithlu a chreu nifer o broblemau. Felly bu hynny yn wers, fel arweinydd busnes.  

Yn ystod y pandemig, fe wnaethom ddefnyddio system rota er mwyn sicrhau bod gwasanaeth yn dal i gael ei gynnig, gyda rhywfaint o waith gweithgynhyrchu. 

 

Pe byddech yn dechrau eto, beth fyddech chi’n ei wneud yn wahanol?
Fel y soniais, ni fyddwn wedi gwthio gwerthu mor galed hyd nes imi gael trefn ar rai o’r pethau elfennol drwy bob rhan o’r busnes. 

Rwyf hefyd yn credu y byddwn yn buddsoddi mewn hyfforddiant achrededig allanol yn gynt. 

 

Sut mae cymorth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi cynorthwyo’ch busnes?
Mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi rhoi cymorth buddiol i mi, yn enwedig o ran fy nhwf fel arweinydd busnes. Nid oeddwn erioed wedi arwain busnes o’r blaen, felly roedd y cymorth hwnnw’n amhrisiadwy. 

Rydym hefyd wedi cael cymorth gyda rheoli a datblygu’r busnes, effeithiolrwydd gweithgynhyrchu, gwerthu a marchnata. Mae ystod eang iawn y cymorth sydd ar gael gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yn dangos pa mor ddefnyddiol yw’r rhaglen hon i entrepreneuriaid ac arweinwyr busnes. 

 

Pa gyngor a chyfarwyddwyd fyddech chi’n ei roi i fusnesau eraill sydd newydd ddechrau? 

  • Defnyddiwch dechnoleg i foderneiddio busnes traddodiadol
  • Peidiwch â mynd y tu hwnt i’ch capasiti i ddarparu cynnyrch a gwasanaeth da, gan y gallai hynny niweidio’ch enw da
  • Peidiwch â bod ofn dweud na wrth gyfleoedd na allwch eu cyflawni neu na allwch wneud arian ohonynt
  • Gofynnwch i’ch cwsmeriaid am adborth, yn enwedig pan nad ydynt yn hapus
  • Dysgwch o’ch camgymeriadau

Dewiswch yma i ddysgu mwy am IDS a'r hyn maen nhw'n ei wneud.

Rhagor o wybodaeth am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.


 

A picture containing graphical user interface

Description automatically generated

 

Mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yn rhaglen Cymru gyfan sy’n cael ei hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. 

Share this page

Print this page