Ers ei sefydlu, mae Codiance wedi tyfu i fod yn gwmni meddalwedd uchel ei barch. Mae’r busnes yn tyfu’n gyflym, gan thri aelod newydd wedi ymuno â’r tîm fis yma.

Mae’r cwmni’n dechrau ar gyfnod newydd o dwf, diolch i Raglen Cyflymu Twf (AGP) Busnes Cymru. I Codiance, ei staff, ei sylfaenydd a’i gwsmeriaid, mae hynny’n golygu bod dyfodol cyffrous o’u blaenau.

 

Mae’r AGP yn darparu cymorth i fusnesau uchelgeisiol ac yn cael cyfran o’i harian oddi wrth Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.

Gyda dyfodol disglair yn disgwyl Codiance, mae’r sylfaenydd Mark Hesketh yn adrodd hanes y busnes – ac yn disgrifio’i obeithion ar gyfer y dyfodol.  

 

 

Dywedwch wrthon ni am Codiance 

Un tro, dim ond fi, y sylfaenydd, oedd. Mae’n rhyfeddol meddwl sut mae wedi tyfu.  Heddiw, mae Codiance yn fwy o beth o lawer – mae ein staff a’n cleientiaid mor bwysig i’n DNA fel busnes.

Mae ein tîm wedi tyfu’n gyflym, gyda’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n gweithio yng Nghaerdydd.  Mae disgwyl i’n tîm gynyddu eto yn y chwe mis nesaf.  

Yn gynta, hoffwn ddweud wrthych chi am fy nghefndir.  Dwi wedi bod yn gweithio yn y sector technoleg fel peiriannydd meddalwedd am 30 mlynedd.  Dechreuais fy nghwmni ymgynghori cynta’ pan o’n i yn fy ugeiniau, gan weithio gyda nifer o gwmnïau yn Ewrop.  Yna yn 2010, dechreuais Smartlist – sef Codiance yn ddiweddarach.  

 

Pan gafodd Codiance ei lansio, penderfynon ni bod angen i ni adeiladu systemau sy’n rhoi pobl yn gyntaf. Sef adeiladu pethau fyddai’n ffitio’r ffordd y mae pobl yn ymddwyn yn y byd go iawn. Rŷn ni i gyd yn ein tro wedi dod ar draws system letchwith, anodd ei thrin, ac yn meddwl pam yn y byd cath hi ei gwneud fel’na. Roedd y dyluniad yn gwneud synnwyr ar y pryd mae’n rhaid ond wnaeth y peirianwyr ddim meddwl sut y byddai’n gweithio yn y byd go iawn.  Ein nod ni yw creu systemau sy’n braf eu defnyddio, sy’n rhoi’r defnyddiwr yn gyntaf.

 

O wneud, rŷn ni wedi ennill llawer o gontractau, a chwsmeriaid newydd, sydd wedi’n helpu i dyfu.  Rŷn ni wedi ehangu hefyd i ddatblygu ein cynnyrch cyntaf ni’n hunain, Codiance Higher, system rheoli deunydd ar gyfer prifysgolion.

Rŷn ni wedi gweithio ar nifer o brosiectau proffil uchel, fel system profion Covid ar gyfer fferyllfa adnabyddus – i’w helpu i rannu gwybodaeth rhwng fferyllfeydd, canolfannau profi a defnyddwyr.

 

Rŷn ni’n llawn syniadau a brwdfrydedd. Dwi’n disgwyl mlaen at weld beth ddaw nesa’ i’r busnes sefydlais i. Rŷn ni’n ymroi i ddyfodol Codiance.

 

Beth ydych chi fwyaf balch ohono hyd yma? Mae gen i atgofion melys am ddyddiau cynnar y busnes. A finnau’n ymgynghorydd hunangyflogedig ar fy mhen fy hun, helpais i adeiladu system ar gyfer busnes eiddo masnachol rhyngwladol a dyfodd i fod gyda’r mwyaf o’i bath yn y byd.  Roedd honno’n eiliad o falchder mawr i mi.

 

Pa heriau y mae’ch busnes wedi’u hwynebu? Rŷn ni wedi gorfod wynebu digonedd o rwystrau, yn enwedig o ran cael hyd i dalent – problem sy’n cael ei henwi fel un o’r rhai mwyaf sy’n wynebu’r diwydiant technoleg.

Dwi wedi trïo gwneud Codiance yn gyflogwr deniadol sy’n cynnig pecynnau cymorth ac oriau gweithio hyblyg i’r holl staff. Ond mae prinder sgiliau yn y sector felly mae hi wedi bod yn anodd cael hyd i’r tîm iawn sy’n byw’n ddigon agos i weithio yn yr un swyddfa unwaith yr wythnos.  

 

I ddatrys y broblem, rŷn ni wedi symud i le cyd-weithio yng Nghaerdydd sydd wedi gwneud byd o wahaniaeth i nifer y ceisiadau rŷn ni’n eu cael am bob swydd. Mae’n syndod ac yn galondid cymaint o wahaniaeth y mae hyn wedi’i wneud.

 

Petaech chi’n dechrau eto, beth fyddech chi’n ei wneud yn wahanol?
Bydden i’n dweud bod cael hyd i’r bobl iawn yn fuan yn y broses i fod yn bartneriaid i chi yn hynod hynod bwysig, o ran gweithwyr a chyfarwyddwr.  Peth pwysig i mi yw sicrhau bod yr ethos a’r cymhellion yn gyson.

 

I fi, daeth llwyddiant wrth wneud rhywbeth ro’n i’n ei garu.  Wedi hynny daeth yr elw ariannol.  Roedd hynny’n wahanol i fy ngyrfa gynnar pan oeddwn i’n gweithio gyda phobl oedd yn gweithio am yr arian yn unig.  

 

 

Sut mae AGP Busnes Cymru wedi helpu’ch busnes?
Rŷn ni’n falch o fod yn fusnes sydd wedi cael help Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru. Rŷn ni wedi elwa ar hyfforddwyr arbenigol sy’ wedi gweithio gyda ni i wella’r peiriant chwilio ac ennill tystysgrif ISO.

 

Roedd y cymorth gawsom ni i hyfforddi gwerthwyr yn arbennig o werthfawr, ac mae’r hyfforddwr, Martyn Baker, wedi ymuno â’r tîm fel cyfarwyddwr anweithredol.  Mae hynny’n dangos yr effaith y mae AGP Busnes Cymru wedi’i gael ar ein busnes.  Rŷn ni wedi gallu manteisio ar arbenigedd hyfforddwyr busnes, ac mewn sefyllfa bellach i ymgorffori’r arbenigedd hwnnw yn ein busnes, ac mae hynny’n hynod gyffrous.

 

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i fusnesau eraill sy’n dechrau ar eu taith? 

 

  • Ceisiwch weithio gyda phobl sydd â’r sgiliau a’r profiad does gennych chi mohonyn nhw
  • Canolbwyntiwch ar yr hyn rydych yn ei wybod ac yn ei fwynhau. Yna byddwch yn gallu chwilio am gyfleoedd ar seiliau cadarn.
  • Rhaid i’ch ymdrechion ddwyn ffrwyth – heb elw, wnewch chi ddim para.
  • Beth yw’ch amcan yn y pen draw – gall newid ond bydd cael rhyw syniad o ble hoffech fod yn y dyfodol eich helpu i gadw ffocws.


 

I ddysgu mwy am Codiance, cliciwch yma.

Rhagor o wybodaeth am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru


 

 

Mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yn rhaglen ar gyfer Cymru gyfan. Caiff ei hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.

Share this page

Print this page