Mae beic modur Wardill 4 wedi'i saernïo'n hyfryd gan beirianwyr medrus ac mae’n addo cynnig rhywbeth gwirioneddol wahanol – a Chymreig - i feicwyr modur brwd pan fydd yn mynd ar werth. Mae Wardill Motorcycles yn fusnes teuluol sydd wedi'i leoli ym Mhontypridd. Mae Mark Wardill, gor-ŵyr sylfaenydd y cwmni, Henry Wardill, yn brysur yn adfywio cwmni ag iddo hanes llwyddiannus. Ac mae ganddo ddigon o gynlluniau cyffrous ar gyfer y dyfodol.

 

Mae Wardholl Motorcycles yn cael eu cefnogi gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru. Mae'r Rhaglen Cyflymu Twf yn darparu cymorth wedi'i dargedu ar gyfer cwmnïau uchelgeisiol sy'n tyfu. Ariennir y rhaglen yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
 

Yma mae Mark Wardill yn esbonio ei gynlluniau i droi busnes y teulu yn frand beicio modur eiconig yng Nghymru.

 

Mark Wardill o Wardill Motorcycles
Mark Wardill o Wardill Motorcycles

 

Soniwch wrthym am Wardill Motorcycles.
Mae'n stori sy'n dechrau ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf. Sefydlwyd Wardill Motorcycles gan fy hen ddad-cu, Henry, ym 1927.

 

Cynhyrchodd Wardill Motorcycles y Beiciau Modur Wardill, a oedd yn cynnwys injan dan batent eithriadol o bwerus. Yr oedd y model chwyldroadol hwnnw'n enwog am ei safon a'i ddelwedd ac roedd yn perfformio’n dda ar y ffordd a'r trac. Mae'r gwerthoedd craidd hynny o ran safon a delwedd wrth wraidd yr hyn rydym yn ei wneud heddiw wrth i ni roi bywyd newydd i’r cwmni.

Rwy'n falch o hanes fy nheulu ac yn falch o'r hyn a gyflawnodd y cenedlaethau o'm blaen. Roeddwn am roi bywyd newydd i’r brand a'i wneud yn addas ar gyfer yr 21ain ganrif, gan dynnu sylw at ei stori sy’n tarddu o'r 20fed ganrif. Felly, gwnes ailddylunio’r beic adnabyddus gan greu’r beic a elwir yn Wardill 4. Mae'r model newydd hwn yn gyfuniad dilys o draddodiad a dylunio eiconig ac yn cynnwys y technegau peirianneg diweddaraf.

Bydd wedi'i adeiladu â llaw yng Nghymru, a bydd pob beic yn gyfuniad newydd ond hefyd draddodiadol o ddur o’r safon a ddefnyddir mewn awyrennau, gan gynnig profiad heb ei ail i yrwyr,

Yn 2018 dechreuais y broses o ailddylunio’r prototeip. Roeddwn i eisiau ailadeiladu;r busnes yn raddol, felly gwnes ganolbwyntio ar y gwaith dylunio yn fy amser rhydd tra'n parhau â'm swydd fel syrfëwr meintiau a magu teulu ifanc.

Nawr fod y dyluniad wedi'i gymeradwyo, ac mae'r Wardill 4 yn barod i gael ei gynhyrchu, rwy’n gyffrous iawn! Gwych yw meddwl na fyddai hyn wedi bod yn bosibl oni bai am waith fy nghyn-dadau, ynghyd â'r gwaith rwyf wedi'i wneud, wrth gwrs!

Mae'n brosiect teuluol sydd wedi rhychwantu sawl cenhedlaeth. Gobeithio bod fy hen ddad-cu yn edrych i lawr ar y gwaith rydw i wedi bod yn ei wneud gyda balchder!

 

Beth ydych chi fwyaf balch ohono mewn busnes hyd yn hyn?
Mae sawl peth wedi fy ngwneud i’n falch iawn. Rwy'n falch fy mod yn gallu adfywio busnes sydd â chysylltiad mor emosiynol i mi. Mae'n fraint cymryd rhywbeth o orffennol fy nheulu a'i droi'n waddol ar gyfer y dyfodol. Eto i gyd, yr hyn sydd wedi fy ngwneud i'n fwyaf balch yw cofrestru dyluniad y beic, sy'n golygu ei fod bellach wedi'i gymeradwyo ar gyfer ei gynhyrchu a’i werthu.

 

Pa heriau ydych chi wedi'u hwynebu mewn busnes?
Mae COVID wedi effeithio'n aruthrol ar ein cynlluniau i roi'r busnes ar waith.

Wynebwyd llawer o oedi a phroblemau o ran y gadwyn gyflenwi yn sgil y pandemig a chafodd nifer o ddigwyddiadau eu canslo. Yr oedd yn golygu bod yn rhaid inni ohirio cynhyrchu, a gallai hynny fod wedi bod yn ergyd fawr. Ond rwyf wedi ceisio gweld y trafferthion hyn fel cyfleoedd. Rwyf wedi defnyddio'r amser i berffeithio rhai o'r dyluniadau a gweithio ar agweddau eraill ar y busnes. Er ei fod wedi bod yn gyfnod heriol, rwyf wedi gallu dysgu llawer iawn a chynllunio ar gyfer y dyfodol hefyd.

 

Petaech yn dechrau eto, beth fyddech chi'n ei wneud yn wahanol?
Rwyf wedi adeiladu'r busnesau'n araf, felly rwy'n credu bod hynny wedi helpu. Mae wedi golygu fy mod wedi cael digon o le i addasu wrth i ni dyfu, sydd ei hun wedi golygu bod unrhyw gamgymeriadau rwyf wedi'u gwneud yn rhai bach. Wrth edrych yn ôl, teimlaf y gallwn fod wedi bod yn fwy trefnus wrth roi sylw i’r prosiect. Rwy'n hyderus y bydd cydnabod hyn yn fy nghynorthwyo wrth i ni ddechrau ar y cam datblygu nesaf.

 

 

Sut mae cymorth gan Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi helpu eich busnes?
Yr oeddwn yn rhan o'r Sbardunydd TownSq, a dyna sut y cefais wybod am y rhaglen am y tro cyntaf. Rwyf wedi elwa'n fawr ar y pecynnau gwaith a'r mentora rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i'w derbyn drwy'r Rhaglen Cyflymu Twf. Mae'r rhaglen wedi fy helpu wrth i mi ffurfio'r cwmni ac ystyried pa fath o fusnes y dylai fod.

Rwyf hefyd wedi gweithio gyda Phrifysgol De Cymru, sydd wedi fy nghefnogi gyda phrofi a datblygu apiau. Fel busnes newydd gydag uchelgeisiau twf sylweddol, mae wedi bod yn hanfodol gallu derbyn y cymorth sydd ar gael i ni. Mae cymorth gan y Rhaglen Cyflymu Twf wedi bod yn amhrisiadwy o ran ein helpu i gyflawni ein nodau.

 

Pa gyngor ac arweiniad fyddech chi'n eu rhoi i fusnesau newydd eraill?

●        Dechreuwch cyn gynted ag y gallwch – peidiwch ag oedi.

●        Gwnewch yn siŵr bod gennych sylfaen ariannol gadarn a'ch bod yn gallu byw'n rhad wrth i chi ddechrau arni.

●        Byddwch yn hyderus! Roeddwn i'n teimlo'n aml bod dechrau busnes yn rhywbeth i bobl eraill, ond gan fy mod wedi dilyn y broses, rwyf wedi sylweddoli y gall unrhyw un ei wneud – mae'n rhaid iddyn nhw gredu ynddynt eu hunain a chael help gan y bobl iawn. Felly peidiwch â bod ofn cael gafael ar gymorth!


 

Dysgu mwy am Wardill Motorcycles.com
 

Dysgwch ragor am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP).

 

Share this page

Print this page