Mae brandiadu cynaliadwy yn trawsnewid y farchnad gofal i’r croen.  Mae arloesedd a’r cynhwysion, heb sôn am eu heffaith amgylcheddol a moesegol, yn eu gwneud yn fwyfwy deniadol gan ddefnyddwyr.  

Rhai sy’n arwain y ffordd yw’r fenter gymdeithasol o’r Barri, y Goodwash Company. Mae’r cwmni hwn yn datgan fod eu cynnyrch yn edrych yn dda “yn yr ystafelloedd ymolchi gorau o Bort Talbot i Efrog Newydd” ac mae hefyd wedi ymrwymo i wella bywydau pobl ac anifeiliaid drwy ei gwaith hefyd. 

Mae’r cyd-sylfaenydd Mandy Powell yn rhannu hanes y Goodwash Company ac yn cynnig cyngor i eraill sydd am ddechrau ar daith debyg. 

 

Dywedwch hanes y Goodwash Company.
Rydym yn gwmni ifanc, ond rydym yn falch o’r gwahaniaeth rydym eisoes wedi’i wneud. 

Ychydig am y cynnyrch rydyn ni’n ei wneud gyntaf – mae ein cynnyrch yn cynnwys sebon, hylif diheintio a chyfres o hylifon i’w defnyddio gan gleientiaid manwerthu a masnachol.  Ni fu creulondeb wrth eu cynhyrchu, maent yn fegan, yn naturiol a rydych yn teimlo ac yn arogli’n hyfryd wedyn. 

Y nod sydd gennym fel busnes yw “newid y byd, wrth ymolchi” a rydym yn golygu hyn.  Mae ein helw i gyd yn mynd i achosion lleol.  Ers 2017, pan ddechreuodd y cwmni, rydym wedi helpu i leihau gwastraff o fewn y diwydiant lletygarwch, wedi rhoi miloedd i elusennau, wedi helpu gwirfoddolwyr ac wedi rhoi cymorth i ddwsinau o oedolion gydag anawsterau dysgu. 

Rwyf yn gyn-chwaraewr hoci dros Gymru ac yn chwaraewr rygbi cyffwrdd, ac mae Kelly Davies, cyd-sylfaenydd y busnes, yn chwarae pêl-droed rhyngwladol.  Mae’r brand yn fwy na brand moethusrwydd a chynaliadwyedd – mae’n Gymreig iawn. 

Dechreuodd y busnes gyda’r bwriad o helpu i newid cymdeithas er gwell.  Rydym wedi gallu gwneud hynny yn ystod y cyfnod etihriadol hwn – er enghraifft, drwy gydol yr argyfwng COVID-19 rydym wedi rhoi miloedd o gynnyrch ymolchi brys i bob ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru. 

Rydym am wneud y byd yn lle gwell.  Rydym yn frand moethus, ond ein huchelgais yw  gwneud daioni drwy ein llwyddiant a chynhyrchu cynnyrch gan ddefnyddio cynhwysion naturiol sy’n gynaliadwy a heb greulondeb. 

 

 

Pryd oeddech chi fwyaf balch hyd yma?
Rydym wedi ennill gwobrau gan gynnwys Gwobrau Dechrau Busnes Cymru – ac roeddem yn y rownd derfynol Gwobrau Cardiff Life 2020.  Mae bob amser yn deimlad gwych i gael y math yna o gydnabyddiaeth.   

Ond rydyn ni’n fwy na dim yn falch o wneud gwahaniaeth.  Pan ddechreuodd y cwmni, dyna oeddem am ei wneud.  Rydym am i’r Goodwash Company wneud newidiadau amgylcheddol a chymdeithasol er gwell, a dyna beth ydym wedi ei wneud hyd yma.  Ond nid yw’n dod i ben yma!  Rydym am barhau â’r gwaith da, a sicrhau bod ein gwaddol i’w weld, er enghraifft, rhoi cyflog byw i’r gweithwyr a rhoi yn ôl i’n cymuned drwy’r gwaith elusennol rydyn ni’n ei wneud.  Dyma bethau rydyn ni’n wirioneddol falch ohonynt.

 

Pe byddech yn dechrau eto, beth fyddech chi’n ei wneud yn wahanol?
Dwi’n credu y byddem wedi bod yn fwy uchelgeisiol am godi buddsoddiad.  Byddai hynny wedi rhoi ychydig mwy o fantais inni pan oeddem yn dechrau’r cwmni.  Yna byddem wedi gallu symud i’n hadeilad ein hunain yn gynt fel menter gymdeithasol o ddifrif. 

 

(L-R Mandy Powell a Kelly Davies)
(L-R Mandy Powell and Kelly Davies)

 

Sut mae’r cymorth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi helpu eich busnes?
Mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi rhoi cefnogaeth enfawr inni wrth ddatblygu’r cwmni.  Rydym wedi elwa o’r cymorth gyda marchnata yn ogystal â chynllunio strategol.  Mae hyn wedi helpu inni ddatblygu cynllun clir o ble rydym am fynd a sut rydyn ni am ehangu.  Mae’r cymorth gyda gwerthiant ar-lein hefyd wedi bod yn elfen bositif yn ein twf. 

 

Pa gyngor a chanllawiau fyddech chi’n ei roi i fusnesau eraill sy’n dechrau? 

● Ceisiwch wireddu eich breuddwydion.

● Byddwch yn ddigon hyderus i symud yn gyflym.

● Peidiwch bod ofn!

 

Dysgu mwy am Goodwash Company.
 

Dysgwch ragor am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP).

Share this page

Print this page