Un o’r heriau mwyaf sylweddol a grëwyd gan newid hinsawdd yw prinder dŵr. Fel y gwelsom yn ystod y sychder yn Ewrop yn 2022, mae hon yn broblem gynyddol y mae gwledydd ar draws y byd yn ei hwynebu. Fodd bynnag, mae un cwmni arloesol sydd wedi ei leoli ym Mhont-y-clun yn Ne Cymru wedi dyfeisio technoleg er mwyn helpu â phroblemau prinder dŵr byd-eang. 

Mae Deploy Tech wedi datblygu technoleg tanciau dŵr parod i’w defnyddio, sydd wedi eu gweithgynhyrchu â deunydd wedi’i lenwi â choncrit. Gall ystod eang o sectorau ddefnyddio’r cynhyrchion i ddiwallu anghenion dŵr dybryd. Amlinellwyd y potensial ar gyfer defnyddio’r dechnoleg hon mewn argyfyngau dyngarol pan anfonodd Deploy Tech ei gynnyrch i Dwrci i sicrhau y gallai pobl gael mynediad at ddŵr yfed glân ar ôl y daeargryn diweddar. 

Cefnogwyd Deploy Tech gan Raglen Cyflymu Twf Llywodraeth Cymru. Mae’r Rhaglen Cyflymu Twf yn darparu cymorth wedi ei dargedu ar gyfer cwmnïau uchelgeisiol, sy’n tyfu. Mae’r rhaglen yn cael ei hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. 

 

 

Yma, mae Paul Mendieta, cyd-sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Deploy Tech, yn rhannu hanes y cwmni ac yn egluro pa mor hanfodol fu’r cymorth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru o ran ei dwf.  

 

Dywedwch wrthym am Deploy Tech.
Cyn imi drafod manylion technegol yr hyn rydym yn ei wneud, fe wna’ i ddechrau gydag ychydig o’m hanes i, a sut gwnes i sefydlu’r busnes hwn gyda Beren Kayali, ein prif swyddog technegol. Mae gen i gysylltiad teuluol â’r sector rheoli dŵr ers 50 mlynedd. Dechreuais weithio gyda gwneuthurwyr deunydd concrit o’r enw Concrete Canvas, lle eginodd y syniad o greu uned storio dŵr gan ddefnyddio eu cynnyrch nhw.  

Yna, ymunodd Beren â mi i ddatblygu llinell weithgynhyrchu. Roedd y ddau ohonom yn yr un dosbarth pan oeddem yn astudio ar gyfer gradd MA yn y Coleg Celf Brenhinol a gradd MSc mewn Peirianneg Dylunio Arloesol yng Ngholeg Imperial Llundain. Roedd hyn yn ôl yn 2020, ac ers hynny rydym wedi codi mwy na £1.1 miliwn o gyllid, gan gynnwys buddsoddiadau preifat, grantiau, a gwobrau cystadlaethau i fusnesau newydd. Cymerodd bron i dair blynedd inni ddatblygu’r cynnyrch. Bellach, rydym yn dîm o wyth o bobl sydd â chynnyrch yn barod i’w lansio. Rydym nawr yn paratoi i symud o waith ymchwil a datblygu i werthu.   

 

O ran egluro’r hyn rydym yn ei wneud, rydym yn gwneud y broses o storio dŵr yn gynt, yn haws, ac yn fwy cyfleus. Gellir defnyddio’r tanciau storio yr ydym wedi eu datblygu yn y sector amaethyddol, gan gynnwys ar ffermydd da byw a ffermydd âr, mewn canolfannau garddio ac mewn llefydd eraill ar gyfer rheoli adnoddau dŵr yn well. Mae hyn yn allweddol os ydym am fynd i’r afael â’r heriau y mae newid hinsawdd yn eu hachosi yma yn y DU ac ar draws y byd.  

Tanc dŵr sy’n defnyddio aer yw Deploy, sydd yn barod i’w ddefnyddio, ac wedi ei weithgynhyrchu â deunydd wedi’i lenwi â choncrit. Mae capasiti o 14,000 o litrau gan bob tanc Deploy. Mae ei natur gludadwy yn golygu ei bod yn hawdd cludo’r cynnyrch ar long i unrhyw le yn y byd, rhywbeth nad oed modd ei wneud â chynhyrchion sy’n seiliedig ar goncrit hyd yma.  

Drwy ddisodli tanciau concrit confensiynol, gallai’r gostyngiad yn yr ôl troed carbon fod yn fwy na 70% o ran deunyddiau ac yn fwy na 90% o ran cludiant. Nid gwelliannau syml yw’r rhain; mae’r rhain yn fanteision arloesol a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar y diwydiant seilwaith concrit ac ar y blaned. 

 

Beth ydych chi’n fwyaf balch ohono yn eich busnes hyd yma?
Roeddem yn falch iawn pan wnaethom ni gyhoeddi yn ddiweddar ein bod yn rhoi tri thanc ar gyfer goroeswyr daeargrynfeydd, gan ofyn i beirianwyr ac adeiladwyr ein cynorthwyo i osod y tanciau ar y safle. Gwyliwyd ein fideo ar y cyfryngau cymdeithasol 28.1 miliwn o weithiau mewn dau ddiwrnod. Erbyn hyn, rydym yn anfon nifer o danciau dŵr i’w defnyddio ar gyfer dŵr yfed a glanweithdra. Mae’n dangos pa mor werthfawr y gall ein cynnyrch fod mewn argyfyngau dyngarol yn ogystal ag yn y byd amaeth ac mewn diwydiannau eraill. 

 

Pa heriau ydych chi wedi eu hwynebu ym myd busnes?
Fe wnaethom benderfynu dechrau’r cwmni yng nghanol y pandemig. Diolch i’n cydweithrediad gyda Concrete Canvas a gwobrau ariannol gan gystadlaethau prifysgolion a chystadlaethau i fusnesau newydd, fe wnaethom lwyddo i ddatblygu ein technoleg am gost isel iawn. Pan gyflawnodd ein technoleg lefel parodrwydd pump – sy’n golygu ei fod yn barod i’w dreialu – fe wnaethom ymgeisio am grantiau a buddsoddiadau preifat. Roeddem yn llwyddiannus iawn, gyda rhai cronfeydd buddsoddi yn ymladd dros bwy fyddai â’r mwyaf o ecwiti. Yr her fwyaf inni ei hwynebu oedd datblygu llinell gynhyrchu yn ogystal â’r cynnyrch ar yr un pryd. Golygodd hyn oedi, a chynyddodd ein costau cynhyrchu gan fod yn rhaid adeiladu popeth o ddim.   

 

Pe byddech yn dechrau eto, beth fyddech chi’n ei wneud yn wahanol?
Mae hwn yn gwestiwn anodd gan fod popeth sydd wedi mynd o’i le wedi bod yn hanfodol o ran ein datblygiad fel cwmni. Ond fe wnaethom ni danamcangyfrif yr ymdrech a’r profiad sydd ei angen i adeiladu tîm. Yn enwedig felly’r bobl gyntaf inni eu cyflogi, sydd mor bwysig. 

Hefyd, byddem wedi trafod gyda’n defnyddwyr terfynol yn gynt er mwyn dysgu beth oedd arnyn nhw ei angen o’n cynnyrch. 

 

Sut mae cymorth Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi helpu eich busnes?
Fe wnaethom ni dderbyn grant SmartCymru, a fu o gymorth inni ddatblygu ein cynnyrch o lefel parodrwydd technoleg 5 i 7, sef y cam arddangos. Mae’r Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi ein cefnogi yn gyson i fynd i’r afael â’n heriau o ran tyfu – o gyflogi i weithgynhyrchu. Mae cymorth y rhaglen wedi bod yn hanfodol i’n twf.  

 

Pa gyngor ac arweiniad a fyddech chi’n ei roi i fusnesau eraill sydd ond megis dechrau? 

  • Rhaid cael cynllun B a chynllun C bob amser. 
  • Os ydych yn allanoli neu’n dod ag ymgynghorwyr i mewn i’r busnes, dyrannwch y prosiect hwnnw i aelod o’r tîm i’w reoli ac i’w ddilyn.  
  • Gosodwch gyllideb a chadwch ati. 
  • Os ydych yn fusnes bach a chanolig (BBaCh) mae’n bosibl na fydd cyflenwyr, cwmnïau ymgynghori na chontractwyr yn eich cymryd o ddifri. Felly, sicrhewch eich bod yn cyfleu eich angerdd a’ch diben ac unrhyw waith y byddwch yn gallu ei gynnig iddynt yn y dyfodol. 


Dewiswch yma i ddysgu mwy am Deploy Tech a'r hyn maen nhw'n ei wneud.

 

Rhagor o wybodaeth ar Raglen Cyflymu Twf


 

A picture containing graphical user interface

Description automatically generated

 

Mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yn rhaglen Cymru gyfan sy’n cael ei hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. 

Share this page

Print this page