Mae deall yr effaith y mae dewisiadau bwyta’n eu cael ar iechyd, a’r ffyrdd unigryw iawn y gall y dewisiadau hynny effeithio ar wahanol bobl, yn rhan gynyddol o wella iechyd a llesiant. 

Bellach, mae’r entrepreneuriaid David Haines a Julian Shapley wedi datblygu meddalwedd gan ddefnyddio dealltwriaeth fiolegol er mwyn helpu defnyddwyr i addasu cynlluniau bwyd ar gyfer eu ffyrdd eu hunain o fyw – gan eu galluogi i ddeall sut a pham eu bod yn ymateb mewn ffyrdd penodol i’r pethau gwahanol y maen nhw’n eu bwyta. 

Mae Glucose Republic o Gaerdydd yn sicrhau mai’r defnyddwyr eu hunain sy’n gyfrifol am eu dewisiadau bwyd a hynny ar sail eu hanghenion unigol. 

Cefnogir Glucose Republic drwy Raglen Cyflymu Twf (AGP) Busnes Cymru. Mae’r AGP yn rhoi cymorth sydd wedi’i dargedu ar gyfer cwmnïau uchelgeisiol sy’n tyfu. Caiff y rhaglen ei hariannu ar y cyd gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru
 

Yma, mae cyd-sylfaenydd Glucose Republic, David Haines, yn esbonio sut cafodd y cwmni ei greu a’r daith y mae wedi bod arni – a sut yr hoffai ef a’i bartner busnes, Julian Shapley, ddatblygu eu busnes. 

 


Dywedwch wrthym am Glucose Republic
Mae gennym bartneriaeth gryf iawn – yn flaenorol roeddwn i a Julian wedi cymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu platfform rheoli diabetes cyntaf y byd oedd wedi’i gysylltu â ffonau symudol. Mae gennym yr arbenigedd a’r profiad i ddatblygu technoleg a chynnyrch sy’n rhoi’r systemau sydd eu hangen ar gleientiaid i wella ansawdd eu bywydau. 

Mae’r cynnyrch yn seiliedig ar y ffaith bod pawb yn y byd yn unigryw.  

Mae pob person yn ymateb yn wahanol i’r bwyd y maen nhw’n ei fwyta. Yn ychwanegol at hyn, mae’r ffordd y mae pobl yn rheoli eu bywydau’n dod yn fwy a mwy pwrpasol. Er enghraifft, ni all un deiet fod yn addas ar gyfer pawb, gan fod gormod o amrywiaethau’n rhan o’r broses – mae pobl yn rhy wahanol i ddeiet fod yn addas ar gyfer grŵp cyfan. 

Arweiniodd ein cefndir atom i ddatblygu Glucose Republic, sef meddalwedd sydd wedi’i seilio ar y ffaith bod gan bawb eu holion bysedd bwyd eu hunain. Gallwn gael gafael ar yr ôl bys hwnnw drwy olrhain lefelau glwcos a gellir defnyddio hyn i roi adborth i ddefnyddwyr ar effaith fetabolig y bwyd y maen nhw wedi’i fwyta. Mae hyn yn rhoi’r cyfle iddynt ddewis prydau yn fwy hyderus.  

Gan ddefnyddio ein system – sy’n cynnwys algorithm rhagfynegi glwcos cyntaf y byd – gall pobl fesur sut mae eu cyrff yn ymateb i’r bwydydd y maen nhw’n eu bwyta ac i’r hyn yn y maen nhw’n ei wneud. Bydd deall hyn i gyd yn golygu y gall pobl addasu cynlluniau bwyd i’w ffyrdd eu hunain o fyw. Mae hefyd yn rhoi gwybodaeth hanfodol iddynt am eu hymatebion eu hunain i fwyd, gan gynnig atebion unigryw a llwybrau cynaliadwy wrth symud ymlaen.

 

Yn y pen draw, diben hyn yw rhoi mwy o ryddid i bobl drwy roi dealltwriaeth iddynt o’r bwyd maen nhw’n ei fwyta a’r ymarfer corff y maen nhw’n ei wneud – sy’n eu galluogi i gael bywydau iachach a gwell o ganlyniad i hyn. Rydym yn credu’n gryf y gall y dechnoleg hon wella ansawdd bywyd pobl. Rydym wrth ein bodd ein bod wedi cael buddsoddiad sylweddol yn ddiweddar, a fydd yn helpu i ddatblygu ein busnes ymhellach. 

 

Beth yw eich adegau mwyaf balch ym myd busnes hyd yn hyn?

Nid yw ein hadegau mwyaf balch wedi digwydd eto. Bydd gwir fantais yr hyn rydym yn adeiladu’n dod i’r amlwg ar gyfer cwsmeriaid. 

Fodd bynnag, rydym wedi cael llawer o adegau cyffrous. Yn ddiweddar, gwnaethom groesawu aelodau newydd i’n tîm ac rydym yn bwriadu tyfu hyd yn oed yn fwy. 

Nid yn unig hynny, gwnaethom godi £500,000 o fuddsoddiad gan fuddsoddwyr ecwiti blaenllaw, Deepbridge Capital a Banc Datblygu Cymru, er mwyn creu system gyntaf y byd sy’n canolbwyntio ar effaith bwyd ar unigolion.  

 

Rydym o hyd yn dathlu ein llwyddiannau – boed yn fach neu’n fawr, a dim ond bryd hynny rydym yn symud ymlaen at yr her nesaf. Dyma yw diwylliant Glucose Reppublic yn ei hanfod. 

 

Pa heriau ydych chi wedi’u hwynebu ym myd busnes? 
Nid oes modd cuddio rhag y ffaith bod dechrau busnes yn anodd. Mae dechrau busnes a’r pandemig yn gwneud pethau’n anoddach fyth ac mae’n ychwanegu pob math o amrywiaethau anhysbys at y broses hefyd. 

Oherwydd Covid roedd yn rhaid i ni ailasesu’n gyflym sut roeddem yn gweithredu fel busnes a gwnaethom gyflwyno polisi gweithio o bell fel y dewis cyntaf i weithwyr yn gynnar iawn. Rwy’n siŵr bod cwmnïau eraill wedi gorfod gwneud yr un peth, ond i ni fel busnes ifanc a bach sy’n tyfu arweiniodd hyn at lu o heriau gwahanol yr oedd angen i ni eu goresgyn. 

Yn syml, roedd rhaid i ni barhau i gredu yn yr hyn roeddem yn ei wneud. 

Mae gan Glucose Republic ddyfodol disglair o’i flaen – gall yr atebion rydym yn eu cynnig i’n cwsmeriaid drawsnewid eu bywydau’n gyfan gwbl. 

 

Pe byddech yn ailddechrau, beth fyddech yn ei wneud yn wahanol? 

Rydym yn dysgu o hyd!  

Efallai na fyddai’r hyn sy’n gweithio i rai pobl yn gweithio i bawb. Y peth gorau y gallwch ei wneud yw cadw’n feirniadol a dadansoddol a gwneud y penderfyniadau gorau posibl ar y pryd.  

Nid yw hyn yn golygu na fyddwch byth yn methu, ond mae’n bwysig gwybod eich bod wedi gwneud eich gorau glas.  

 

Sut mae cymorth gan AGP Busnes Cymru wedi helpu’ch busnes? 
Mae AGP Busnes Cymru wedi darparu rhaglenni gwaith penodedig i gefnogi ein datblygiad. 

Mae’r rhaglenni hyn wedi bod yn ddefnyddiol iawn ac yn allweddol i’n twf fel busnes. 

Rydym eisoes wedi cael buddsoddiad ecwiti gan Banc Datblygu Cymru ac rydym wedi dechrau gweithio gyda’r Rhaglen Cyflymu Iechyd a arweinir gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. 

Mae digonedd o gyngor a chymorth proffesiynol gwych ar gael i fusnesau yng Nghymru ac rydym wedi elwa gymaint ar y cymorth hwn. 

 

Pa gyngor ac arweiniad y byddech yn eu rhoi i fusnesau newydd eraill

  • Byddwch yn ddewr – Gall bod cannoedd o resymau pam nad ydych yn gwneud yr hyn yr hoffech ei wneud – efallai nad yw popeth yn ei le ar hyn o bryd, neu efallai eich bod yn ofni methu ac edrych yn wirion, efallai rydych yn meddwl eich bod yn rhy hen neu ifanc. Yn y pen draw, os nad ydych yn dechrau, ni fyddwch byth yn gwybod. 
  • Dylech gael empathi – Bydd yn gwella’r berthynas â’ch cwsmeriaid, yn cefnogi’r bobl o’ch cwmpas ac yn gwella’ch ymdeimlad o bwrpas a’ch teimladau o berthyn. 
  • Gweithiwch mewn timau - gallwch fynd yn gynt gyda’ch gilydd. Mae llawer o bobl ifanc yn credu bod rhaid iddynt wneud popeth ar eu pen eu hunain, ond bydd y meddylfryd hwn dim ond yn eich dal yn ôl. 
  • Byddwch yn onest – Bydd cael egwyddorion moesol cryf yn eich gwneud yn arweinydd gwell a mwy ysbrydoledig, a bydd hyn yn effeithio ar eich gweithwyr yn yr un ffordd. Dyma sut mae creu sylfaen gryf. 
  • Croesawch arloesedd – Byddwch yn agored eich meddwl. Bob amser.

     


    I ddysgu mwy am Glucose Republic, ewch yma.

    Rhagor o wybodaeth am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.


    Mae’r Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yn rhaglen tros Gymru a ariennir yn rhannol gan yr Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy’r Lywodraeth Cymru.

Share this page

Print this page