Mae angen i fusnesau yng Nghymru wneud mwy i sicrhau y gallant elwa  ar dimau a byrddau sydd wir yn amrywiol a chynhwysol, meddai’r Athro Amanda Kirby sydd yn entrepreneur, ac yn arwain y byd wrth arbenigo ym maes niwroamrywiaeth.

Sylfaenodd yr Athro Kirby’r cwmni technoleg-er-da Do-IT Profiler sydd wedi ei leoli yng Nghaerdydd.  Dywedodd er bod ymwybyddiaeth yn cynyddu o ran y manteision mae amrywiaeth yn eu cynnig i fusnesau, mae “amharodrwydd a naïfrwydd” o hyd ynghylch recriwtio, cadw a datblygu gweithlu amrywiol.  Dywedodd fod hyn yn aml yn arwain at weithredu’n symbolaidd yn unig, gan olygu nad yw nifer o gwmnïau yn profi’r manteision niferus y mae amrywiaeth go iawn yn eu cynnig.  Mae'r rhain yn cynnwys mwy o arloesi, a gwell perfformiad a chynhyrchiant.

 

Yr Athro Amanda Kirby
Yr Athro Amanda Kirby

 

Daeth ei sylwadau wrth i’w chwmni Do-IT Profiler gyhoeddi partneriaeth strategol gyda’r ymgynghoriaeth recriwtio byd-eang Precedent Group.  Fel rhan o’r fenter ar y cyd bydd offer ac apiau ar-lein perchenegol Do-IT Profiler yn helpu cwmnïau i wella sut maent yn adnabod ac yn cefnogi talent y gallant fod wedi ei methu fel arall.

Mae Do-IT Profiler yn system sgrinio gyfrifiadurol sydd yn hawdd ei defnyddio.  Cafodd ei ddylunio ar sail profiad helaeth yr Athro Kirby.  Bu’n gweithio ym maes niwroamrywiaeth am 25 mlynedd a mwy.  Diffinnir niwroamrywiaeth fel amrywiad yn yr ymennydd dynol o ran cymdeithasgarwch, dysgu, sylw, hwyliau a gweithrediadau gwybyddol eraill.  Mae system Do-IT Profiler yn defnyddio adnabyddiaeth a chymorth mewn modd bioseicogymdeithasol. Caiff ei ddefnyddio gan filoedd o fusnesau, sefydliadau addysgol a mudiadau yn y sector cyhoeddus.

Fel rhan o’r bartneriaeth gyda Precedent Group bydd y cwmni recriwtio byd-eang yn cyflwyno offer Do-IT Profiler fel rhan o ymagwedd gyfannol at wella amrywiaeth ar lefel uwch ac ar lefel bwrdd.

 

Eglurodd yr Athro Kirby:

“Rydym wedi ein cyffroi gan y cyfle y mae’r bartneriaeth newydd hon yn ei gynnig i helpu mudiadau adnabod a chefnogi pobl sydd â’r sgiliau a’r dalent gywir i weithredu ar lefel uwch ac ar lefel bwrdd, ond sydd hefyd efallai yn wynebu rhwystrau am amryw o resymau.

“Yn gynyddol, mae cwmnïau yn deffro i’r cyfleoedd a ddaw drwy greu gweithleoedd amrywiol a chynhwysol.  Ond heb y data, yr offer a’r arbenigedd i wneud newid ystyrlon, mae nifer yn gweithredu’n symbolaidd heb wneud newid parhaol, cynaliadwy.  Dyma lle rydym yn helpu i wneud gwahaniaeth go iawn.”

 

Bydd yr Athro Kirby’n cyhoeddi’r llyfr cyntaf o’i fath am niwroamrywiaeth yn y gweithle yn hwyrach eleni, gyda’r ddyslecsig o Gymru Theo Smith. Fe’i henwyd yn un o 100 o entrepreneuriaid benywaidd mwyaf ysbrydoledig y DU gan ymgyrch f:Entrepreneur '# ialso100' Small Business Britain.

Fe’i henwyd hefyd yn un o’r 20 llais mwyaf dylanwadol sydd yn ysgogi sgyrsiau proffesiynol yn y DU gan y safle rhwydweithio gymdeithasol B2B LinkedIn ym mis Tachwedd 2020, ynghyd â Changhellor y Trysorlys Rishi Sunak a Holly Branson o gwmni Virgin.

 

Cafodd cwmni'r Athro Kirby, Do-IT Profiler, gymorth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru sydd yn darparu cymorth penodol ar gyfer cwmnïau uchelgeisiol sy’n tyfu.  Ariennir y rhaglen yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.  Bu’r cymorth hwn yn “hanfodol” er mwyn tyfu’r busnes, yn ôl yr Athro Kirby:

“Mae cymorth gyda’n strategaeth fusnes, cynllunio a rheoli ariannol yn ogystal â’n strategaeth farchnata a brandio wedi ein helpu i dyfu a chyflwyno ein cynnyrch i farchnadoedd newydd.  O ganlyniad, rydyn ni wedi cynyddu ein gweithlu, canfod cyllid a sicrhau ein cytundeb allforio cyntaf i’r Dwyrain Canol.  Mae medru cael y cymorth hwn sydd wedi ei dargedu wedi bod yn amhrisiadwy, ac edrychwn ymlaen at gyfnodau cyffrous yn y dyfodol.”
 

Dywedodd Richard Morris o Excelerator Consortium sydd yn darparu Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru:

“Mae amrywiaeth a chynhwysiant yn feysydd sydd yn gynyddol bwysig i gwmnïau o bob maint sydd yn cydnabod y cyfleoedd a’r manteision.  Mae’n wych gweld cwmni o Gymru yn arloesi gyda dulliau sy’n cael eu harwain gan ddata yn y maes hwn.  Rydyn ni’n gefnogol tu hwnt o waith Do-IT Profiler i helpu cwmnïau i roi hyn ar frig eu hagendâu a gweithredu newid cynaliadwy.”


 

Dysgu mwy am Do-IT Profiler

Dysgwch ragor am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP).

Share this page

Print this page