Gweler isod grynodeb o fusnesau sydd wedi cael cymorth o dan y Rhaglen Cyflymu Twf.
Ers ei sefydlu, mae Codiance wedi tyfu i fod yn gwmni meddalwedd uchel ei barch. Mae’r busnes yn tyfu’n gyflym, gan thri aelod newydd wedi ymuno â’r tîm fis yma. Mae’r cwmni’n dechrau ar gyfnod newydd o dwf, diolch i Raglen Cyflymu Twf (AGP) Busnes Cymru. I Codiance, ei staff, ei sylfaenydd a’i gwsmeriaid, mae hynny’n golygu bod dyfodol cyffrous o’u blaenau. Mae’r AGP yn darparu cymorth i fusnesau uchelgeisiol ac yn cael cyfran o’i...
Partner blaenllaw ar gyfer datblygu meddyginiaethau’n tyfu’n gyflym, yn sgil arloesi a buddsoddi yn ei phobl
Wrth i dechnoleg feddygol ddatblygu, mae’r sector fferyllol yn allweddol i ddarparu swyddi o ansawdd uchel sy’n talu’n dda – gan gadw’r goreuon yn y wlad a denu talentau o wledydd eraill y DU a’r byd. Un busnes blaenllaw yn sector fferyllol Cymru yw CatSci, o Gaerdydd, a eginodd o gwmni sy’n ymgorfforiad bellach o bopeth mae meddygaeth fodern yn ei olygu, yn enwedig y frwydr yn erbyn Covid-19 – AstraZeneca. Mae CatSci wedi cael...
Cwmni gofal iechyd yn Wrecsam sy'n defnyddio dulliau darbodus i feithrin diwylliant o gydweithio ac arloesi.
Mae cwmni yn fwy na'r hyn y mae'n ei gynhyrchu neu'r gwasanaeth y mae'n ei ddarparu. Y staff sydd wrth wraidd pob busnes, ac mae’r diwylliant y mae pobl yn gweithio ynddo yn ysgogi ymddygiadau a chanlyniadau. Yn Healthcare Matters – sef cwmni yn Wrecsam sy'n darparu eitemau megis lifftiau grisiau, matresi arbenigol ac amrywiaeth o eitemau gofal iechyd pwrpasol – daeth hyn i'r amlwg yn ystod pandemig COVID-19. Gan arfer dull chwilfrydig ac agored...
Sut mae Snowdon Timber wedi mynd o nerth i nerth?
Lansiodd Jody Goode ei fusnes, Snowdon Timber, yn 2019. Wedi treulio degawd yn masnachu pren yn rhyngwladol, penderfynodd ei fod yn amser mynd yn annibynnol a sefydlu ei gwmni ei hun gan gynnig pren safonol i’w werthu i siopau cenedlaethol mawr. Dechreuodd y cwmni fasnachu ym Mochdre ac maen nhw wedi agor ail safle ym Mangor yn ddiweddar. Mae Snowdon Timber wedi cael ei gefnogi drwy Raglen Cyflymu Twf (RhCT) Busnes Cymru. Mae’r RhCT yn...
CPR Global Tech yn cydweithio â Phrifysgol Abertawe ar gyfer prosiect gofal iechyd digidol arloesol
Mae cwmni technegol o Abertawe wedi ymuno â’r Academi Dysgu Dwys Cymru Gyfan ar gyfer Arloesi mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe i ymchwilio sut gallai dyfeisiau gwisgadwy drawsnewid gofal iechyd digidol drwy ganiatáu staff y GIG a staff gofal cymdeithasol i fonitro cleifion o bell. Mae CPR Global Tech, sydd wedi’i leoli ym Mharc Technoleg Lakeside, wedi ymuno â Phrifysgol Abertawe ar gyfer Partneriaeth Rheoli Trosglwyddo Gwybodaeth Innovate UK, sy’n cysylltu busnesau...
Cwmni prostheteg LIMB-art sy’n tyfu’n gyflym yn nodi canmlwyddiant yr Urdd mewn modd arbennig.
Cafodd y gorchudd coes gwladgarol ei ddylunio gan Sean Mason a Mark Williams, sef sefydlwr LIMB-art, a’i ddadlennu yn ystod Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych. Sefydlwyd LIMB-art yn 2018 gan y cyn-nofiwr ac enillydd medal paralympaidd Mark Williams, a’i wraig Rachel. Crëwyd y cwmni o ganlyniad i awydd dirfawr i helpu defnyddwyr prosthetigau i fod yn fwy hyderus, bod yn falch o’r hyn sydd ganddynt ac, yn syml iawn ond yr un mor bwysig, cael...
Cwmni sy'n tyfu'n gyflym yn bwriadu ehangu ymhellach gyda gwasanaeth clirio tollau pwrpasol.
Mae'r cwmni cludo nwyddau rhyngwladol o Gaerdydd, Freight Systems Express Wales (FSEW), wedi lansio gwasanaeth clirio tollau llawn i helpu busnesau sy'n cael trafferth gyda rheolau mewnforio ac allforio ar ôl Brexit. Mae FSEW yn gwmni logisteg a nwyddau rhyngwladol sydd wedi'i leoli yn Freightliner yng Ngwynllŵg, Caerdydd. Ar hyn o bryd yn cyflogi tua 70 o bobl, mae'r cwmni'n darparu gwasanaethau trafnidiaeth i gleientiaid yn y DU, Ewrop a ledled y byd. Canfu ymchwil...
Sut mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi helpu brand ffasiwn newydd cyffrous sy’n dathlu treftadaeth y sylfaenydd.
I Haitham Shamsan, mae ei fusnes yn cwmpasu popeth y mae'n teimlo’n angerddol amdano – dylunio, diwylliant a chyfrifoldeb. Dyna yw hanfod ei frand ffasiwn newydd, Double Crossed – cwmni o Gaerdydd sydd am fynd ymhell. Mae Double Crossed wedi cael cymorth drwy Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru. Mae'r Rhaglen yn darparu cymorth wedi'i dargedu ar gyfer cwmnïau uchelgeisiol sy’n awyddus i dyfu. Mae’r rhaglen yn cael ei hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop...
Cwmni dillad chwaraeon cynaliadwy ar fin cymryd cam mawr ymlaen mewn sector cystadleuol.
Mae mwy a mwy o ddewisiadau eraill yn hytrach na ffasiwn cyflym prif ffrwd ar gyfer y rhai sy'n chwilio am wardrob sy'n seiliedig ar gynaliadwyedd. Ac eto, gall dod o hyd i offer hyfforddi ecogyfeillgar fod yn anoddach i'r rhai sy'n chwilio am ddillad athletaidd. Nawr, mae brand Cymreig wedi’i lansio i gyflenwi cit i redwyr sy'n edrych ac yn teimlo'n dda ac sy'n dda i'r blaned. Mae Dryad yn y Fenni wedi cael...
Dyfodol disglair ar y gorwel i gwmni hyfforddi wrth ddod allan o’r pandemig.
Mae ysbrydoli, addysgu ac arfogi'r genhedlaeth nesaf o weithwyr medrus wrth wraidd 4D Academy . Cafodd y darparwr hyfforddiant ym Mhont-y-clun ei ffurfio pan welodd y partneriaid busnes Mark Davies a Christopher Saunders yr angen am fath newydd o hyfforddiant i fusnesau. Ar ôl dod drwy'r pandemig yn gryfach, mae 4D Academy bellach yn edrych ymlaen at ddyfodol cyffrous. Mae 4D Academy wedi cael cymorth Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP). Mae'r Rhaglen Cyflymu Twf...