Gweler isod grynodeb o fusnesau sydd wedi cael cymorth o dan y Rhaglen Cyflymu Twf.
Bond Digital Health yn llwyddo i ddenu cyllid ecwiti i helpu i ymladd Covid-19 Mae’r cwmni technoleg iechyd Bond Digital Health wedi denu buddsoddiad enfawr i’w helpu i ddatblygu technoleg profi ar gyfer Covid-19. Llwyddodd y cwmni o Gaerdydd − sy’n rhan o gonsortiwm sy’n cynhyrchu profion diagnostig ar gyfer cleifion yr amheuir bod ganddynt Covid-19 − i gael gafael yn gyflym ar gyllid ecwiti drwy’r Clwb Cyfoeth a Banc Datblygu Cymru. Cafodd y consortiwm...
O un gliniadur ac un ddesg i 13 o weithwyr – sut y mae un cwmni TG uchelgeisiol yn gweld manteision twf
Pan ddechreuodd Mike Parfitt ei fusnes yn 2003, nid oedd yn dychmygu y byddai ganddo un diwrnod gwmni sy’n cyflogi 13 o bobl gydag uchelgais am dwf ehangach. Ond mae’r entrepreneur wedi datblygu Team Metalogic o gwmni yr oedd yn ei redeg ar ei ben ei hun ar ei liniadur yn fenter gyda chynlluniau twf o ddifrif. Mae Mike yn argyhoeddedig bod llwyddiant diweddar y cwmni oherwydd y cymorth a gafwyd gan y cwmni o...
Cwmni gofal iechyd teuluol yn ennill busnes newydd ac yn gweld twf
Bydd busnesau teuluol yn parhau yn hollbwysig o fewn economi Cymru. Mae nifer ymhlith y cwmnïau mwyaf arloesol a blaengar o fewn eu sectorau. Mae Healthcare Matters yn un cwmni o’r fath. Mae’n cynnig cynnyrch a gwasanaethau o safon i’r GIG a’r sector gofal. Mae gan y cwmni llwyddiannus o Wrecsam, sydd wedi dod yn gyflogwr hollbwysig yn yr ardal, ethos deuluol yn y bôn. Yma, mae’r cyfarwyddwr gwerthiant, Adam Spiby yn rhannu hanes Healthcare...
Sut mae y brand moethus, y Goodwash Company yn gwneud gwahaniaeth
Mae brandiadu cynaliadwy yn trawsnewid y farchnad gofal i’r croen. Mae arloesedd a’r cynhwysion, heb sôn am eu heffaith amgylcheddol a moesegol, yn eu gwneud yn fwyfwy deniadol gan ddefnyddwyr. Rhai sy’n arwain y ffordd yw’r fenter gymdeithasol o’r Barri, y Goodwash Company. Mae’r cwmni hwn yn datgan fod eu cynnyrch yn edrych yn dda “yn yr ystafelloedd ymolchi gorau o Bort Talbot i Efrog Newydd” ac mae hefyd wedi ymrwymo i wella bywydau pobl...
Cwmni technoleg diogelwch arloesol yn cadw llygad ar dwf posibl mewn marchnadoedd newydd
Mae arloesi yn aml yn sbarduno twf. Mae Xwatch yn gwmni o Gymru sy’n ysgogi twf yn y sector adeiladu diolch i’w dechnoleg sy’n torri tir newydd. Mae’r cwmni o Gwmbrân yn defnyddio gwybodaeth ei sefydlwyr am y diwydiant i ddatblygu atebion newydd ar gyfer cwmnïau adeiladu. A chyda chymorth Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, mae Xwatch yn creu llwybrau i farchnadoedd newydd ac yn mwynhau twf addawol. Yma, mae Daniel Leaney yn esbonio llwyddiant...
Datblygiadau arloesol gan gwmni o Gymru yn helpu i drawsnewid peirianneg ym maes olew, nwy ac ynni adnewyddadwy.
Bydd yn rhaid i’r economi fod yn fwy cynaliadwy yn y dyfodol, a bydd yn rhaid i ynni glân fod yn ganolog i bopeth a wnawn. Mae llawer o fusnesau Cymru yn rheng flaen y newid hwnnw, ac mae mentrau newydd wrthi’n dod o hyd i atebion deinamig i’r heriau sy’n ein hwynebu. Un enghraifft yw Nemein o Ben-y-bont ar Ogwr, cwmni sy’n arbenigo mewn dod o hyd i atebion peirianegol cynaliadwy ar gyfer y...
Gwefan sydd wedi ennill gwobrau am y cymorth mae’n ei gynnig yn ystod y menopos am adeiladau ar ei thwf cynnar.
Un o’r dwsinau o fusnesau sydd wedi derbyn cymorth i dyfu ac i ffynnu drwy Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yw Health & Her. Mae Health & Her yn blatfform ar-lein sy’n grymuso menywod i drin a lliniaru symptomau’r menopos. Mae’r platfform, a sefydlwyd gan Kate Bache a Gervase Fay, yn gwerthu amrediad o gynhyrchion wedi eu dewis yn ofalus gan gynnwys atchwanegiadau, llyfrau, deunyddiau gofal croen, dyfeisiau ac offer ar gyfer y cartref. Yn...
Rototherm Group, un o gleientiaid y Rhaglen Cyflymu Twf, i gynhyrchu 100,000 o feisorau meddygol yr wythnos ar gyfer y GIG
Mae Rototherm Group, sydd fel arfer yn gweithgynhyrchu offerynnau mesur megis mesuryddion pwysedd a thymheredd, wedi dechrau gwneud y feisorau meddygol mewn ymdrech i sicrhau bod gan y GIG ddigon o gyfarpar diogelu hanfodol. Mae’r cwmni sy’n cyflogi ychydig dros 100 o bobl yn ei ffatri yn Ystad Ddiwydiannol Cynffig ger Margam, wedi dweud bod ganddo ddigon o ddeunydd i gynhyrchu dros 1,500,000 o amddiffynwyr wyneb. Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Rototherm, Oliver Conger: “Mewn cyfnod byr...
Cwrdd â’r hyfforddwr: Howard Jones
Mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yn darparu mynediad at rwydwaith o arbenigwyr mewn nifer o feysydd, sy’n gallu rhoi cyngor ichi a’ch helpu i ddatblygu eich busnes. Yma rydyn ni’n siarad â Howard Jones, un o hyfforddwyr Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, sy’n defnyddio ei brofiad a’i frwdfrydedd dros helpu busnesau i dyfu i helpu entrepreneuriaid yng Nghymru sy’n sefydlu busnesau ar eu ffordd. Allwch chi roi hanes cryno o’ch gyrfa hyd yn hyn...
25 o gwmnïau sy’n rhan o Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi’u cydnabod ar restr o 50 cwmni technoleg gorau Cymru
Mae 25 o gwmnïau, sy’n rhan o Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, yn ymddangos ar restr BusinessCloud o 50 Cwmni Technoleg gorau Cymru ar gyfer 2020, y nifer mwyaf erioed o gwmnïau o Gymru i ymddangos ar y rhestr. Lluniwyd y rhestr gan gyfuniad o banel beirniadu annibynnol a mwy na 1,300 o bleidleisiau gan ddarllenwyr. Ymhlith cleientiaid y rhaglen i ymddangos ar y rhestr y mae Biopaxium Technologies. Mae’r cwmni o Wrecsam, sy’n cynhyrchu...