Gweler isod grynodeb o fusnesau sydd wedi cael cymorth o dan y Rhaglen Cyflymu Twf.
Cafodd y cwmnïau newydd gorau yng Nghymru eu hanrhydeddu mewn seremoni wobrwyo rithwir ddydd Iau 1 Hydref 2020, ac aeth y prif deitl i Project Blu, brand cynaliadwy ar gyfer anifeiliaid anwes. Mae Project Blu o Gaerdydd yn chwyldroi'r farchnad ategolion anifeiliaid anwes drwy drawsnewid deunyddiau sy’n llygru, gan gynnwys rhwydi pysgota, plastig sy’n mynd i’r môr, gwastraff lledr a dillad wedi'u hailgylchu, yn gynhyrchion anifeiliaid anwes fel gwelyau i gŵn, coleri, tenynnau a theganau...
Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yn hybu llwyddiant cwmni argraffu
Mae cynllunio twf ar gyfer busnes yn hollbwysig, ac mae cwmni argraffu o Gaerffili wedi cyflawni hyn drwy gaffael doeth. Gyda chymorth ac arbenigedd Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, mae CPS wedi dod yn gwmni llwyddiannus sy’n datblygu. Dechreuodd hyn i gyd oherwydd bod angen i’r sylfaenydd Simon Green sicrhau cadwyni cyflenwi diogel ar gyfer ei gleientiaid. Yma, mae Laura James o CPS, yn dweud sut y bu i Simon Green feithrin ac ehangu ei...
Y busnesau yng Nghymru sydd ar flaen y gad yn y frwydr yn erbyn COVID-19
Mae llawer o bethau o fewn y gwasanaeth iechyd rydym yn eu cymryd yn ganiataol, heb feddwl fawr ddim am yr holl gyfarpar sy’n cael ei ddefnyddio at sawl diben gan y meddygon. Un o’r offerynnau pwysig yn yr ymdrech yn erbyn COVID-19 yw’r fisgomedr clinigol. Er efallai nad ydych wedi clywed amdano, mae fisgomedr clinigol yn mesur pa mor ludiog yw hylifau’r corff, a rhannau o’r gwaed yn benodol megis plasma, serwm a gwaed...
Y busnes sy’n paratoi cwmnïau ar gyfer y chwyldro deallusrwydd artiffisial
Mae awtomatiaeth yn rhywbeth sy’n fwyfwy amlwg yn yr economi fodern, a bydd hyd yn oed yn fwy pwysig dros y misoedd a’r blynyddoedd sydd i ddod. Bydd busnesau sydd ar flaen y gad ac ym merw’r chwyldro awtomeiddio yn hollbwysig i ffyniant Cymru yn y dyfodol. Mae Nightingale HQ yn un o’r cwmnïau hynny. Mae’r cwmni’n defnyddio’i arbenigedd i helpu eraill i addasu i fyd newydd cyffrous awtomeiddio, nad yw’n ddim i’w ofni, yn...
Cwmni gwasanaethau ariannol yn mwynhau twf cyflym gyda help Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.
Mae llif o gyllid yn hanfodol i sicrhau economi sy’n gweithio, lle y mae modd buddsoddi a dod i gytundebau. I fenthyg a benthyca, a chael mynediad i gronfeydd mae angen llawer iawn o wybodaeth a phrofiad. Sefydlwyd Pure Commercial Finance gan y bancer proffesiynol Ben Lloyd. Ei weledigaeth oedd sefydlu busnes a allai gael mynediad i gyllid a ganfyddir yn “rhy anodd” i fenthycwyr prif ffrwd. Mae eisoes wedi bod yn stori lwyddiant fawr...
Y cwmni cynnyrch llaeth Totally Welsh yn trafod ehangu a llwyddiant yn ystod yr argyfwng COVID-19.
Mae gan Gymru gynnyrch fferm rhagorol, sy’n enwog ledled y byd am ei safon. Mae cynnyrch llaeth yn elfen hanfodol o dirwedd amaethyddol Cymru. Un cwmni sydd mewn sefyllfa dda i fanteisio ar hynny, gan gynnig cynnyrch llaeth i amrywiol gwsmeriaid, yw Totally Welsh. Dyma gwmni Mark Hunter, sefydlodd ei fusnes yn 1990, ac mae’r brand wedi ei adeiladu ar safon eu cynnyrch a safon eu gwasanaeth. Yma mae John Horsman, o Totally Welsh, yn...
Cwmni hyfforddi yn gosod y nod iddo’i hun o ehangu’n fyd-eang
Mae datblygu proffesiynol yn hanfodol i gwmnïau sydd am wella sgiliau eu gweithwyr yn ogystal ag i unigolion sydd am eu gwneud eu hunain yn fwy addas i’w cyflogwyr. Nod Cognitia, cwmni o’r Porth yng Nghwm Rhondda, yw rhoi sgiliau newydd i’r dysgwyr sy’n cofrestru ar ei gyrsiau. Ers ei sefydlu yn 2015 gan Nigel Lewis, Cognitia yw un o’r cwmnïau hyfforddiant arbenigol sy’n tyfu gyflymaf yn y Deyrnas Unedig. Dyma Nigel Lewis yn adrodd...
Camilleri Construction yn falch o’u perfformiad mewn blwyddyn anodd
I fusnesau ledled Cymru, mae 2020 wedi creu heriau nad oedd modd eu rhagweld – o’r llifogydd ar ddechrau’r flwyddyn, i’r pandemig COVID-19 ac anhawsterau y cyfyngiadau symud, cadw pellter cymdeithasol a’r cyfyngu cyflym ar yr economi. Mae Camilleri Construction o Gaerdydd, cwmni adeiladu sy’n canolbwyntio ar y sector yswiriant, wedi bod yn flaenllaw ac yng nghanol yr argyfyngau hyn. Ond, fel yr eglura Robert Camillieri y rheolwr-gyfarwyddwr, bu’n gyfnod o falchder mawr yn yr...
Y ddistyllfa gyda nod uchelgeisiol o gynhyrchu wisgi cyfan-gwbl Gymreig
Mae’r farchnad diodydd crefft yn un sy’n datblygu’n gyflym. Caiff pob mathau o ddiodydd eu cynhyrchu gan fragwyr a distyllwyr gydag awydd I ddarparu diodydd o safon gan ganolbwyntio ar gynnyrch brodorol, arloesi a blas. Mae In The Welsh Wind, a sefydlwyd gan Alex Jungmayr ac Ellen Wakelam, yn manteisio ar boblogrwydd gin, gan gynhyrchu gwirodydd gyda brand arbennig I ddwsinau o gleientiaid. Yma, mae Ellen Wakelam yn egluro stori y cwmni ac yn datgelu...
Pum arweinydd busnes y Rhaglen Cyflymu Twf yn cael eu henwi’n Sêr y Dyfodol gan gylchgrawn Insider
Mae carfan eleni yn cynnwys unigolion o bob cwr o Gymru sy’n gweithredu mewn amrywiaeth o feysydd gan gynnwys bwyd figan, technoleg diogelwch a lletygarwch. Ymhlith y 25 o Sêr y Dyfodol a ddatgelwyd yn llawn yng nghylchgrawn diweddaraf Insider y mae arweinwyr pum busnes sy’n rhan o Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, sef: Callum Griffith - Clydach Farm Toby White - Market Mate Chris McDermid - MM Engineering Stephanie Locke - Nightingale HQ Emma...