Gweler isod grynodeb o fusnesau sydd wedi cael cymorth o dan y Rhaglen Cyflymu Twf.
Mae arloesi yn aml yn sbarduno twf. Mae Xwatch yn gwmni o Gymru sy’n ysgogi twf yn y sector adeiladu diolch i’w dechnoleg sy’n torri tir newydd. Mae’r cwmni o Gwmbrân yn defnyddio gwybodaeth ei sefydlwyr am y diwydiant i ddatblygu atebion newydd ar gyfer cwmnïau adeiladu. A chyda chymorth Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, mae Xwatch yn creu llwybrau i farchnadoedd newydd ac yn mwynhau twf addawol. Yma, mae Daniel Leaney yn esbonio llwyddiant...
Datblygiadau arloesol gan gwmni o Gymru yn helpu i drawsnewid peirianneg ym maes olew, nwy ac ynni adnewyddadwy.
Bydd yn rhaid i’r economi fod yn fwy cynaliadwy yn y dyfodol, a bydd yn rhaid i ynni glân fod yn ganolog i bopeth a wnawn. Mae llawer o fusnesau Cymru yn rheng flaen y newid hwnnw, ac mae mentrau newydd wrthi’n dod o hyd i atebion deinamig i’r heriau sy’n ein hwynebu. Un enghraifft yw Nemein o Ben-y-bont ar Ogwr, cwmni sy’n arbenigo mewn dod o hyd i atebion peirianegol cynaliadwy ar gyfer y...
Gwefan sydd wedi ennill gwobrau am y cymorth mae’n ei gynnig yn ystod y menopos am adeiladau ar ei thwf cynnar.
Un o’r dwsinau o fusnesau sydd wedi derbyn cymorth i dyfu ac i ffynnu drwy Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yw Health & Her. Mae Health & Her yn blatfform ar-lein sy’n grymuso menywod i drin a lliniaru symptomau’r menopos. Mae’r platfform, a sefydlwyd gan Kate Bache a Gervase Fay, yn gwerthu amrediad o gynhyrchion wedi eu dewis yn ofalus gan gynnwys atchwanegiadau, llyfrau, deunyddiau gofal croen, dyfeisiau ac offer ar gyfer y cartref. Yn...
Rototherm Group, un o gleientiaid y Rhaglen Cyflymu Twf, i gynhyrchu 100,000 o feisorau meddygol yr wythnos ar gyfer y GIG
Mae Rototherm Group, sydd fel arfer yn gweithgynhyrchu offerynnau mesur megis mesuryddion pwysedd a thymheredd, wedi dechrau gwneud y feisorau meddygol mewn ymdrech i sicrhau bod gan y GIG ddigon o gyfarpar diogelu hanfodol. Mae’r cwmni sy’n cyflogi ychydig dros 100 o bobl yn ei ffatri yn Ystad Ddiwydiannol Cynffig ger Margam, wedi dweud bod ganddo ddigon o ddeunydd i gynhyrchu dros 1,500,000 o amddiffynwyr wyneb. Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Rototherm, Oliver Conger: “Mewn cyfnod byr...
Cwrdd â’r hyfforddwr: Howard Jones
Mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yn darparu mynediad at rwydwaith o arbenigwyr mewn nifer o feysydd, sy’n gallu rhoi cyngor ichi a’ch helpu i ddatblygu eich busnes. Yma rydyn ni’n siarad â Howard Jones, un o hyfforddwyr Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, sy’n defnyddio ei brofiad a’i frwdfrydedd dros helpu busnesau i dyfu i helpu entrepreneuriaid yng Nghymru sy’n sefydlu busnesau ar eu ffordd. Allwch chi roi hanes cryno o’ch gyrfa hyd yn hyn...
25 o gwmnïau sy’n rhan o Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi’u cydnabod ar restr o 50 cwmni technoleg gorau Cymru
Mae 25 o gwmnïau, sy’n rhan o Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, yn ymddangos ar restr BusinessCloud o 50 Cwmni Technoleg gorau Cymru ar gyfer 2020, y nifer mwyaf erioed o gwmnïau o Gymru i ymddangos ar y rhestr. Lluniwyd y rhestr gan gyfuniad o banel beirniadu annibynnol a mwy na 1,300 o bleidleisiau gan ddarllenwyr. Ymhlith cleientiaid y rhaglen i ymddangos ar y rhestr y mae Biopaxium Technologies. Mae’r cwmni o Wrecsam, sy’n cynhyrchu...
Cleientiaid Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yn cipio Gwobrau uchel eu bri y Frenhines
Mae dau o gleientiaid Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi cipio Gwobrau uchel eu bri y Frenhines. Sefydlwyd y gwobrau gyntaf yn 1965, ac maen nhw’n dathlu llwyddiant busnesau cyffrous ac arloesol sy’n arwain y ffordd gyda’u cynhyrchion a gwasanaethau blaengar, yn datblygu rhaglenni symudedd cymdeithasol effeithiol neu’n dangos eu hymrwymiad i arferion datblygu cynaliadwy rhagorol. Eleni mae 220 o fusnesau yn y DU wedi cael eu cydnabod am eu cyfraniadau at fasnach ryngwladol, arloesi...
Gweledigaeth cwmni logisteg o Ogledd Cymru am ragor o dwf diolch i gymorth Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru
Pan benderfynodd dau gludwr ar feiciau modur ffurfio eu busnes eu hunain 20 mlynedd yn ôl, byddai wedi bod bron yn amhosibl iddynt ddychmygu cael dros 100 o gerbydau a dros 150 aelod staff rhyw ddydd. Ond dyna’n union beth sydd wedi digwydd i Delsol ers ei ffurfio yn 1999. Mae’r rheolwr gyfarwyddwr David Phillips wedi arolygu twf cadarn y cwmni. Yn y gyfres blog ddiweddaraf ar gwmnïau sy’n cael eu cefnogi gan Raglen Cyflymu...
PF Director yn cyflwyno atebion ar y we i’r sector cyfrifyddu a chyngor ariannol
Rydym wedi bod yn siarad â’r busnesau yr ydym yn gweithio â nhw, yn darganfod mwy am eu taith fusnes, eu huchelgeisiau ar gyfer y dyfodol ac awgrymiadau i lwyddo yn y dyfodol. Y busnes diweddaraf sy’n cael sylw yw PF Director . Sefydlwyd PF Director gan Gareth Salomon. Mae’n gyfrifydd siartredig sydd wedi bod yn helpu perchnogion busnes i ymdrin â’u cyfrifoldebau cyfrifyddu a threth ers 2003. Sylwodd Gareth ar fwlch rhwng yr hyn...
Cymorth Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yn rhoi platfform ar gyfer twf i gwmni pacio cynaliadwy
Gyda gwastraff plastig yn broblem gynyddol i’r blaned, mae un cwmni o Gymru sy’n datblygu’n gyflym yn cynnig atebion i helpu i fynd i’r afael â’r broblem. Y cwmni diweddaraf i’r blog ganolblwyntio arno yw Transcend Packaging sy’n datblygu’n gyflym. Wedi’i leoli yn Ystrad Mynach, mae Transcend Packaging yn gwmni sy’n canolbwyntio ar ddeunydd pacio papur cynaliadwy a phlastigau bioddiraddiadwy sydd â phroffil amgylcheddol gwell. Yma, mae Prif Swyddog Gweithredol Transcend Packaging, Lorenzo Angelucci, yn...